Ni fydd Ymchwil y Senedd yn cyhoeddi ymchwil newydd yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, o 7 Ebrill tan 6 Mai. Ni fyddwn yn diweddaru’r erthygl hon yn ystod y cyfnod hwn. Ceir lincs i’r data a gwybodaeth ddiweddaraf yn ein herthygl cyfeirio Coronafeirws (COVID-19).
Mae'r erthygl flog hon yn esbonio sut a phryd y cyhoeddir data ynghylch achosion o COVID-19 yng Nghymru a marwolaethau yn ei sgîl. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn diffinio COVID-19 fel y clefyd heintus a achosir gan y coronafeirws. Rydym wedi cynnwys siartiau crynhoi a fydd yn cael eu diweddaru'n wythnosol ac y gellir eu hadolygu wrth i'r data a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru newid. Mae data ar gyfer y ddau neu dri diwrnod mwyaf diweddar wedi'u hepgor gan eu bod yn debygol o newid yn sylweddol wrth i ragor o achosion, o brofion ac o farwolaethau gael eu nodi.
Cyhoeddir ystadegau COVID-19 gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bob dydd ar ei ddangosfwrdd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi data ar nifer y penodau profi, yr achosion a gadarnhawyd a’r marwolaethau, ynghyd â data ar dderbyniadau i'r ysbyty, ymgynghoriadau â Meddygon Teulu yn ymwneud ag anadlu, galwadau Galw Iechyd Cymru a galwadau 111, a gwyliadwriaeth o ran ysgolion. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio bod yr holl ddata a gyhoeddir ar ei ddangosfwrdd yn rhai dros dro ac y byddant yn destun adolygiad yn y dyfodol.
Nifer y profion a gynhaliwyd a nifer achosion a gadarnhawyd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn egluro y gallai unigolion gael eu profi fwy nag unwaith am COVID-19. Yn ei ddata profi mae ICC yn defnyddio cyfnodau 6 wythnos, sef, os yw unigolyn yn cael ei brofi fwy nag unwaith o fewn y cyfnod hwnnw o 6 wythnos, dim ond unwaith y caiff ei gyfrif. Os bydd unrhyw ganlyniadau profion yn gadarnhaol yna cyhoeddir y canlyniad hwn fel achos wedi'i gadarnhau. Cyhoeddir data profi fesul awdurdod lleol preswylio ac maent hefyd yn cael eu dadansoddi yn ôl rhyw ac oedran ar gyfer Cymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi data o brofion ar gyfer y coronafeirws (COVID-19) yn wythnosol. Darllenwch ein blog ar raglen Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru: sut mae'n gweithio i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi ar ei ddangosfwrdd bod ei ddata profi yn eithrio achosion a gadarnhawyd yng Nghymru ond sy'n preswylio mewn man arall, a'r rhai lle nad oes modd sefydlu eu lleoliad preswyl.
Nifer gronnol yr achosion o COVID-19 a gadarnhawyd ers 01 Medi fesul 100,000 o’r boblogaeth breswyl
Mae'r graffiau isod yn dangos nifer yr achosion newydd a gadarnhawyd o COVID-19 yn ddyddiol yn ôl Bwrdd Iechyd Lleol. Mae cyfartaledd treigl saith diwrnod yn llyfnhau'r data i ddangos y duedd ehangach. Mae maint y rhannau tywyll o dan bob cromlin yn cyfateb yn fras i nifer gronnol yr achosion. Caiff y rhain eu dangos ar ochr dde pob graff ar gyfer y data mwyaf diweddar sydd ar gael. Mae achosion wedi cynyddu ers mis Mehefin pan ddechreuodd Cymru gynnal profion torfol.
Achosion o COVID-19 a gadarnhawyd yn ddyddiol yn ôl dyddiad a Bwrdd Iechyd Lleol
Nifer yr achosion a gadarnhawyd o COVID-19 yng Nghymru yn ôl oedran a rhyw
Mae'r graff isod yn dangos nifer wythnosol y penodau profi newydd yng Nghymru.
Penodau profi newydd yng Nghymru
Marwolaethau, ac achosion a gadarnhawyd o COVID-19
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi nifer y marwolaethau yr amheuir eu bod wedi’u hachosi gan COVID-19 mewn pobl sydd wedi cael prawf positif. Yn y graff isod, mae'r gromlin gwyrdd tywyll yn dangos cyfartaledd treigl fesul saith diwrnod o'r niferoedd hynny. Er cymhariaeth, mae'r gromlin glas golau yn dangos cyfartaledd treigl fesul saith diwrnod o nifer ddyddiol yr achosion newydd a gadarnhawyd o COVID-19.
Nifer dyddiol o farwolaethau ac achosion newydd a gadarnhawyd yng Nghymru
Mae'r llinellau bylchog yn dynodi pob cyfnod brig sylweddol mewn achosion a gadarnhawyd a marwolaethau yr amheuir eu bod wedi’u hachosi gan COVID-19. Yn dilyn y ddau frig sylweddol o ran nifer yr achosion ym mis Hydref a mis Rhagfyr, roedd dau frig o ran marwolaethau 15 a 17 o ddiwrnodau yn ddiweddarach. Yn gyffredinol, mae nifer yr achosion wedi gostwng ers canol mis Rhagfyr.
Yn ystod ton gyntaf y pandemig, tua 4 diwrnod o oedi oedd yno rhwng pob cyfnod brig. Gallai oedi byrrach o'i gymharu â'r ail don fod oherwydd cyfradd uwch o brofion, a phobl yn cael eu profi’n fwy fel mater o drefn ac wrth gam cynharach o’u symptomau.
Mewn perthynas â'r data uchod, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi:
Mae ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys y marwolaethau a gofnodwyd ymhlith cleifion ysbytai neu breswylwyr cartrefi gofal lle y mae COVID-19 wedi’i gadarnhau drwy ganlyniad positif mewn prawf mewn labordy a bod y clinigwr yn amau bod hyn yn un o’r ffactorau a achosodd y farwolaeth. Ni chynhwysir marwolaethau sy'n digwydd mewn lleoliadau eraill neu lle na chafwyd canlyniad labordy wedi'i gadarnhau, ond cânt eu cynnwys yn yr ystadegau a adroddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) gan ddefnyddio'r data sydd ar gael ar ôl cwblhau'r broses cofrestru marwolaeth. Gall y ffigur marwolaethau sydd newydd ei nodi gynnwys marwolaethau yr adroddir amdanynt yn ôl-weithredol wrth Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac felly gall fod yn uwch na'r gwir gynnydd diweddar.
Ffynonellau data eraill
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn cyhoeddi niferoedd marwolaethau COVID-19 a amheuir ac a gadarnhawyd yng Nghymru a Lloegr mewn cyhoeddiad wythnosol - Marwolaethau a gofrestrwyd yn wythnosol yng Nghymru a Lloegr, dros dro. Mae'r cyhoeddiad hwn yn defnyddio data sydd ar gael ar ôl y broses cofrestru marwolaeth, ac felly mae dros wythnos ar ei hôl hi. Dadansoddir y data diweddaraf yn ein herthygl flog Y coronafeirws: marwolaethau a gofrestrwyd.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi amrywiaeth o ddata a dadansoddiadau ar effaith y coronafeirws ar gymdeithas yng Nghymru. Mae'r dudalen hon yn cynnwys data ar fusnesau a'r economi, ar bresenoldeb mewn lleoliadau addysg awdurdodau lleol, ar weithgarwch a gallu'r GIG, ar rai sy’n gwarchod rhag y feirws, ar brofion ac ar faterion yn ymwneud â thai.
Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn cyhoeddi data mewn dangosfwrdd, a Llywodraeth yr Alban yn cyhoeddi ystadegau dyddiol ar ei gwefan, ac mae Cofnodion Cenedlaethol yr Alban yn cyhoeddi diweddariad wythnosol. Mae'r Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon yn cyhoeddi ystadegau dyddiol ar ei dangosfwrdd. Mae gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) hefyd ddangosfwrdd sy’n nodi’r achosion a gadarnhawyd, a’r marwolaethau ledled y byd.
Erthygl gan Joe Wilkes a Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru