Coronafeirws: y sector gwirfoddol a gwirfoddoli

Cyhoeddwyd 27/04/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae pandemig y coronafeirws yn cyflwyno amryw o heriau i'r sector gwirfoddol.

Bydd incwm llawer o elusennau wedi gostwng oherwydd cyfyngiadau ar eu gweithgareddau codi arian. Yn yr un modd â busnesau, efallai y bydd angen help arnynt i dalu eu staff, ac i sicrhau eu bod yn gallu parhau i weithredu yn ystod ac ar ôl argyfwng y coronafeirws.

Efallai y bydd angen iddynt ddod o hyd i ffynonellau cyllid ychwanegol i'w cefnogi trwy'r amser heriol hwn, ac efallai y bu newidiadau i'w ffynonellau cyllid.

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn amcangyfrif bod 45% o incwm elusennau Cymru yn dod o weithgareddau elusennol (yn hytrach na chontractau a grantiau). Mae’r sector yn cyflogi bron i 100,000 o bobl yng Nghymru.

Mae'r heriau cyllido hyn yn digwydd yn wyneb cynnydd disgwyliedig yn y galw am wasanaethau, ochr yn ochr â phroblemau posibl o ran capasiti oherwydd salwch staff, hunanynysu a chyfrifoldebau gofalu.

Bu cynnydd hefyd yn nifer y bobl sydd eisiau gwirfoddoli. Mae hyn yn amrywio o ffurfio neu gymryd rhan mewn grwpiau Facebook lleol i helpu pobl sy’n agored i niwed yn y gymuned, i waith gwirfoddol mwy ffurfiol i'r GIG.

Mae data gan y Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol yn dangos bod gwirfoddolwyr yn fwy tebygol o fod yn bobl hŷn. Mae'r grwpiau hyn yn fwy tebygol o fod yn hunanynysu neu'n cael eu heffeithio gan y feirws, sy’n golygu bod angen recriwtio rhagor o wirfoddolwyr.

Mae’r erthygl blog hon yn amlinellu’r sefyllfa bresennol o ran y sector gwirfoddol a gwirfoddoli, y prif gynlluniau cymorth a pholisïau a gyhoeddwyd, a ffynonellau eraill o wybodaeth a chyllid.

Cymorth i'r sector gwirfoddol

Canfu data o arolwg effaith diweddar a gynhaliwyd ledled y DU ynglŷn â’r coronafeirws gan y Sefydliad Codi Arian, y Grŵp Cyllid Elusennau, a’r Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO):

  • Mae elusennau’n rhagweld y byddant yn colli 48% o’u hincwm gwirfoddol, a thraean o gyfanswm eu hincwm;
  • mae 52% o elusennau wedi gostwng lefelau gwasanaeth presennol neu flaenorol, ac mae 12% arall yn bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol;
  • dywedodd 83% mai'r peth pwysicaf ar gyfer cynaliadwyedd eu sefydliad dros y 3 i 6 mis nesaf yw mynediad at gyllid grant brys;
  • mae 84% o elusennau o'r farn y gallai eu sefydliad chwarae rhan o ran ymateb i'r coronafeirws, gyda'r mwyafrif yn dweud bod angen arian gan y llywodraeth i'w helpu i wneud hynny; ac
  • mae 91% o'r elusennau a arolygwyd eisoes wedi wynebu amhariad ar eu llif arian, neu’n disgwyl gweld hynny, ac mae 62% yn nodi y byddai hyn yn arwain at lai o weithgaredd elusennol.

Cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r sector

Mae dwy brif gronfa ar gael i gefnogi'r sector gwirfoddol yng Nghymru yn ystod argyfwng y coronafeirws - Cronfa Cadernid y Trydydd Sector, a Chronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol.

Mae'r ddwy gronfa’n rhan o Gronfa Ymateb Covid-19 y Trydydd Sector Llywodraeth Cymru gwerth £24 miliwn a gyhoeddwyd ar 6 Ebrill. Dywedodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt AC, y byddai'r Gronfa'n cefnogi tri maes gweithgarwch:

  • Helpu elusennau a sefydliadau yn y trydydd sector yn ariannol yn ystod argyfwng y coronafeirws drwy ddarparu cymorth ariannol uniongyrchol i sefydliadau yn y trydydd sector sydd angen help i ymdopi â'r argyfwng hwn er mwyn talu eu biliau a lliniaru problemau llif arian (Cronfa Cadernid y Trydydd Sector);
  • Helpu mwy o bobl i wirfoddoli a helpu gwasanaethau gwirfoddoli drwy gefnogi sefydliadau’r trydydd sector yn y gymuned sy'n cydlynu ymateb gwirfoddolwyr ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys eu helpu i dalu treuliau eu gwirfoddolwyr (Cronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol); a
  • Cryfhau seilwaith hanfodol yn y trydydd sector drwy alluogi Llywodraeth Cymru i gyllido Cefnogi Trydydd Sector Cymru er mwyn iddo gynyddu ei gapasiti dros dro i gefnogi'r sector, gan gynnwys datblygu platfform Gwirfoddoli Cymru (Cronfa Galluogi Seilwaith y Trydydd Sector).

Ceir rhagor o wybodaeth am y tair cronfa isod.

Cronfa Cadernid y Trydydd Sector

Bydd y gronfa’n gymysgedd o 75% grant a 25% benthyciad (yn ddi-log i ddechrau) a fydd ar gael i fudiadau corfforedig yn y sector gwirfoddol tuag at gostau gwariant refeniw parhaus, gan gynnwys cyflogau.

Gall mudiadau wneud cais am hyd at £75,000. Mae’r gronfa hefyd yn cynnig opsiwn benthyciad pontio o hyd at £25,000 i helpu mudiadau gwirfoddol wrth iddynt aros am ad-daliadau ffyrlo gan Lywodraeth y DU (bydd y taliadau’n dechrau ddiwedd mis Ebrill).

Mae'r gronfa hon wedi'i chynllunio i gefnogi sefydliadau y mae angen cymorth ariannol arnynt i oroesi'r argyfwng presennol oherwydd cwymp digynsail yn eu hincwm codi arian a rhoddion yn bennaf.

Ar gyfer sefydliadau yr effeithiwyd yn bennaf ar eu sefyllfa ariannol gan golled mewn incwm masnachu, mae CGGC yn argymell mai’r opsiwn cyntaf ar eu cyfer fyddai’r gefnogaeth fusnes a gynigir gan Lywodraeth Cymru yn hytrach na'r cyllid hwn.

Mae rhagor o wybodaeth am y gronfa, gan gynnwys meini prawf cymhwysedd, sut i wneud cais, a gwybodaeth am sut y bydd y gronfa’n cael ei gweinyddu ar gael ar wefan CGGC. CGGC sy’n gweinyddu’r gronfa ar ran Llywodraeth Cymru.

Cronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol

Mae CGGC yn gweinyddu'r Gronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol, sef cynllun grant newydd i alluogi sefydliadau gwirfoddol sy'n darparu cefnogaeth hanfodol yn ystod pandemig y coronafeirws i barhau ac ehangu eu gwaith.

Bydd grantiau'n cefnogi sefydliadau dielw sy'n gweithio ar raddfa gymunedol hyd at lefel genedlaethol yng Nghymru, a gallant fod rhwng £10,000 a £100,000. Gellir defnyddio’r arian ar gyfer gwariant cyfalaf neu refeniw llai, gan gynnwys nwyddau traul (er enghraifft Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)). Rhaid i'r cais gyd-fynd â nodau'r grant o gynnal neu gynyddu gwasanaethau gwirfoddol ar gyfer unigolion a chymunedau sy’n agored i niwed ac yr effeithiwyd arnynt gan bandemig y coronafeirws. Bydd y cyllid cychwynnol am gyfnod o hyd at chwe mis.

At hynny, mae adran Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru CGGC (sy'n cefnogi mentrau cymdeithasol yng Nghymru yn ariannol gydag amrywiaeth o grantiau a benthyciadau) yn cynnig benthyciadau brys i sefydliadau'r sector gwirfoddol yng Nghymru.

Cyllido Cymru

Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn cynnwys 19 o’r cynghorau gwirfoddol sirol lleol a CGGC. Trwy Gefnogi Trydydd Sector Cymru sefydlodd Llywodraeth Cymru Cyllido Cymru, platfform sy’n cynnig gwasanaeth chwilotwr cyllid i helpu elusennau, grwpiau cymunedol neu fentrau cymdeithasol ddod o hyd i grantiau a chyfleoedd lleol am gyllid drwy ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae Cyllido Cymru bellach yn cynnwys a categori cyllid coronafeirws i ddod â chronfeydd sy'n cefnogi'r sector yn uniongyrchol at ei gilydd. Ar adeg ysgrifennu’r erthygl hon mae 10 cronfa wahanol sy’n canolbwyntio ar gymorth coronafeirws wedi eu rhestru ar wefan Cyllido Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cymorth cyllido o £40,000 ar gyfer clybiau chwaraeon cymunedol yng Nghymru (Chwaraeon Cymru);
  • Cronfa ymateb cyflym i helpu sefydliadau elusennol llai yr effeithir arnynt gan Covid-19, sy’n cynnig grantiau o hyd at £10,000 (Sefydliad Cymorth i Elusennau);
  • Mae Cronfa Gwydnwch Coronafeirws Cymru yn helpu grwpiau a sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau a chefnogaeth i unigolion a theuluoedd, boed yn unigol neu gyda'i gilydd, yr effeithir arnynt gan argyfwng y coronafeirws (Sefydliad Cymunedol Cymru);
  • Grantiau o hyd at £5,000 ar gyfer elusennau bach a chanolig sy'n gweithio i wella cyfleoedd bywyd rhai o'r plant mwyaf difreintiedig yng Nghymru a Lloegr (Ymddiriedolaeth Elusennol Sylvia Adams); a
  • Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn sicrhau bod cyllid brys ar gael yn gyflym i sefydliadau mewn dau gategori: cronfa oroesi sy’n cynnig cyllid llif arian brys i sefydliadau sydd mewn perygl o gau, a chronfa prosiect i gefnogi gwasanaethau ychwanegol sy'n diwallu anghenion cymunedol uniongyrchol.

Ffynonellau gwybodaeth a chymorth ychwanegol ar gyfer y sector gwirfoddol

Mae CGGC yn rhoi gwybodaeth ynghylch gwirfoddoli ar ei wefan, sy’n cael ei diweddaru’n rheolaidd. Mae wedi casglu amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth, adnoddau a chanllawiau ynglŷn â’r coronafeirws ar gyfer y sector gwirfoddol, gan gynnwys gwirfoddoli, cyllid, ymddiriedolwyr a llywodraethu, ac iechyd a lles. Mae hefyd wedi cyhoeddi ymatebion gan gyllidwyr ynghylch pandemig y coronafeirws.

Ar 30 Mawrth cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, gronfa newydd gwerth £500 miliwn i roi cefnogaeth ychwanegol i economi, busnesau ac elusennau Cymru sy'n wynebu cwymp sydyn mewn masnachu o ganlyniad i bandemig y coronafeirws. Efallai y bydd rhai elusennau’n gymwys i gael cefnogaeth drwy’r cynllun – mae rhagor o wybodaeth ar gael yma. Mae manylion llawn y meini prawf cymhwysedd ar y Gwiriwr Cymhwysedd Cymorth Busnes COVID-19 ar wefan Busnes Cymru.

Mae’r ffynonellau eraill o wybodaeth, cyngor a chymorth yn cynnwys:

Gwirfoddoli

Mae gwefan Gwirfoddoli Cymru yn rhestru cyfleoedd i wirfoddolwyr ac yn fodd i'r rhai sy'n ceisio recriwtio gwirfoddolwyr hysbysebu. Mae'n galluogi pobl i gofrestru fel gwirfoddolwr a chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli yn eu hardal leol, gan gynnwys cyfleoedd sy’n ymwneud yn benodol â COVID-19.

Ar 6 Ebrill dywedodd Llywodraeth Cymru fod dros 21,000 o bobl wedi'u cofrestru gyda Gwirfoddoli Cymru, a bod tua 10,000 o ohonynt wedi cofrestru ym mis Mawrth.

Gallai’r tasgau a wneir gan wirfoddolwyr gynnwys pethau fel dosbarthu meddyginiaethau o fferyllfeydd, gyrru cleifion i apwyntiadau; siopa am fwyd; a gwneud galwadau ffôn rheolaidd i weld a yw pobl sy'n hunanynysu gartref yn iawn.

Mae'r broses ar gyfer gwirfoddoli i gefnogi'r GIG yn wahanol yng Nghymru a Lloegr. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i wirfoddolwyr gofrestru drwy'r wefan Gwirfoddoli Cymru bresennol. Yn Lloegr, gofynnir i’r cyhoedd gofrestru fel Ymatebwyr Gwirfoddol y GIG drwy wefan GoodSAM.

Ar adeg ysgrifennu’r erthygl hon roedd cynllun Lloegr wedi cael 750,000 o geisiadau, ac roedd y broses recriwtio wedi cael ei hatal dros dro.

Edrych ar ôl ein gilydd yn ddiogel

Mae gwefan Edrych ar ôl ein gilydd yn ddiogel gan Lywodraeth Cymru yn rhoi canllawiau ynglŷn â sut i gefnogi pobl sy’n agored i niwed yn ystod pandemig y coronafeirws. Mae'n gwneud nifer o awgrymiadau ar gyfer helpu a gwirfoddoli gan gynnwys:

  • helpu’r rhai nad ydynt yn gallu mynd allan i siopa am fwyd;
  • casglu meddyginiaeth ar ran rhywun arall;
  • cadw mewn cysylltiad dros y ffôn neu drwy'r cyfryngau cymdeithasol;
  • ymuno â chymunedau ar-lein lleol;
  • annog pobl i barhau i wneud gweithgareddau sy’n ysgogi’r meddwl a chadw’n heini; a
  • rhannu ffynonellau gwybodaeth dibynadwy.

Erthygl gan Chloe Corbyn, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.