Coronafeirws: y marwolaethau a gofrestrwyd

Cyhoeddwyd 23/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Ni fydd Ymchwil y Senedd yn cyhoeddi ymchwil newydd yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, o 7 Ebrill tan 6 Mai. Ni fyddwn yn diweddaru’r erthygl hon yn ystod y cyfnod hwn. Ceir lincs i’r data a gwybodaeth ddiweddaraf yn ein herthygl cyfeirio Coronafeirws (COVID-19).


Bob wythnos mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi Ffigurau wythnosol y marwolaethau a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr. Mae'r data hyn yn rhoi ffigur dros dro ar gyfer nifer y marwolaethau a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys marwolaethau yn ymwneud â'r coronafeirws (COVID-19). Er mwyn caniatáu amser ar gyfer cofrestru a phrosesu, mae'r ffigurau hyn yn cael eu cyhoeddi 11 diwrnod ar ôl i'r wythnos ddod i ben. Felly mae'r ffigurau a gyhoeddwyd ar 23 Mawrth 2021 yn dangos y marwolaethau wythnosol yn 2020 hyd at yr wythnos a ddaeth i ben ar 12 Mawrth 2021.

Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi’u seilio ar y dyddiad cafodd y farwolaeth ei chofrestru yn hytrach na’r dyddiad y digwyddodd. Mae o leiaf pum diwrnod yn mynd heibio fel arfer rhwng achos o farwolaeth a phryd y caiff ei gofrestru.

Data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (yr wythnos a ddaeth i ben ar 12 Mawrth)

Yr holl farwolaethau a gofrestrwyd a marwolaethau COVID-19

Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos yr holl farwolaethau a gofrestrwyd gan gynnwys pobl a fu farw yn y gymuned yn ogystal ag yn yr ysbyty. Mae hyn yn golygu y gallwn weld faint o bobl a fu farw o bob math o achosion, sef rhywbeth y byddem fel arfer yn disgwyl ei weld drwy edrych ar gyfartaledd dros bum mlynedd. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn defnyddio 2015 – 2019 fel cyfartaledd dros bum mlynedd oherwydd effaith pandemig COVID-19 ar y marwolaethau a gofrestrwyd yn 2020. Gelwir cynnydd mewn marwolaethau sy’n uwch na’r cyfartaledd dros bum mlynedd yn aml yn ‘farwolaethau ychwanegol’. Mae'r data diweddaraf yn dangos bod nifer y marwolaethau wedi’u cofrestru yn is na chyfartaledd pum mlynedd 2015 i 2019 am yr ail wythnos yn olynol yn 2021. Mae’r SYG yn nodi y dylid bod yn ofalus iawn wrth ddehongli’r tueddiadau yn wythnos 1 o 2021.

The number of deaths in Week 1 (2021) is likely to have been increased by late registrations from the previous week, which included both the Boxing Day and New Year's Day Bank Holidays, so comparisons should be interpreted with caution.

Mae’r data hefyd yn dangos nifer y marwolaethau COVID-19 yng Nghymru gan ddechrau yn ystod yr wythnos a ddaeth i ben ar 20 Mawrth 2020. Bu 68 o farwolaethau oherwydd COVID-19 yn ystod yr wythnos yn gorffen ar 12 Mawrth 2021.

Ffigurau dros dro ar gyfer y marwolaethau wythnosol a gofrestrwyd yng Nghymru yn 2020-21 o gymharu â’r cyfartaledd rhwng 2015 a 2019.

Marwolaethau wythnosol arfaethedig a gofrestrwyd yng Nghymru yn 2020-21 o’u cymharu â’r cyfartaledd dros 2015-2019. Yn yr wythnos sy’n dod i ben ar 12 Mawrth 2021, mae nifer y marwolaethau cofrestredig islaw’r cyfartaledd pum mlynedd.

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Marwolaethau a gofrestrir yn wythnosol yng Nghymru a Lloegr, dros dro (Saesneg yn unig)

Lleoliad marwolaethau COVID-19

Mae data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn cael eu cyhoeddi yn ôl awdurdod lleol, yn ôl bwrdd iechyd ac yn ôl lleoliad y farwolaeth, gan gynnwys yn yr ysbyty (acíwt neu gymunedol, nid seiciatrig), gartref, mewn cartref gofal, hosbis neu gyfleuster cymunol arall ac mewn mannau eraill.

O’r wythnos a ddaeth i ben ar 20 Mawrth 2020 i’r wythnos a ddaeth i ben ar 12 Mawrth 2021, roedd 72.1 y cant (5,574) o’r marwolaethau oherwydd COVID-19 wedi digwydd mewn ysbytai, 21.4 y cant (1,652) mewn cartrefi gofal, 5.1 y cant (395) gartref ac 1.4 y cant (110) mewn mannau eraill.

Marwolaethau COVID-19 yn ôl awdurdod lleol a lleoliad y farwolaeth

Mae’r graff isod yn dangos cyfanswm y marwolaethau COVID-19 yng Nghymru o’r wythnos a ddaeth i ben ar 20 Mawrth 2020 hyd at yr wythnos a ddaeth i ben ar 12 Mawrth 2021, ond a gofrestrwyd hyd at 20 Mawrth 2021, yn ôl awdurdod lleol preswyl a lleoliad y farwolaeth. Mae hyn yn dangos mai Rhondda Cynon sydd â’r nifer fwyaf o farwolaethau yn sgil COVID-19 ac Ynys Môn sydd â’r nifer isaf. Yr wythnos hon, ym Mhowys (9), Caerdydd (7) a Rhondda Cynon Taf (6) y bu’r nifer fwyaf o farwolaethau.

Marwolaethau COVID-19 yn ôl awdurdod lleol preswyl a lleoliad y farwolaeth o 20 Mawrth 2020 hyd at 12 Mawrth 2021, a gofrestrwyd hyd at 20 Mawrth 2021

Cyfanswm y marwolaethau COVID-19 yng Nghymru o’r wythnos a ddaeth i ben ar 20 Mawrth 2020 hyd at yr wythnos a ddaeth i ben ar 12 Mawrth 2021, ond a gofrestrwyd hyd at 20 Mawrth 2021, yn ôl awdurdod lleol a lleoliad y farwolaeth. Rhondda Cynon Taf sydd â’r nifer fwyaf o farwolaethau COVID-19 ac Ynys Môn sydd â’r nifer leiaf.

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Marwolaethau a chofrestriadau marwolaethau yn ôl awdurdod lleol a bwrdd iechyd (Saesneg yn unig)

Marwolaethau’n gysylltiedig â COVID-19 – map rhyngweithiol y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cynhyrchu map rhyngweithiol sy’n dangos nifer y marwolaethau a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod o fis Mawrth 2020 i fis Chwefror 2021, lle nodwyd COVID-19 fel achos ar y ffurflen farwolaeth. Defnyddiwyd Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol (MSOAs) fel daearyddiaeth gan fod ganddynt boblogaeth o faint tebyg ac maent yn parhau i fod yn gyson dros gyfnod o amser. Mae 410 o MSOAs yng Nghymru, pob un â phoblogaeth o rhwng 5,000 a 15,000.

Nifer y marwolaethau’n gysylltiedig â COVID-19 mewn Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol, marwolaethau a ddigwyddodd rhwng mis Mawrth 2020 a Mis Ionawr 2021. Cymru a Lloegr.

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Marwolaethau’n gysylltiedig â COVID-19 – map rhyngweithiol

Pam mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn wahanol i ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru?

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn esbonio bod y ffigurau hyn yn wahanol i’r rhai a gyhoeddwyd gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Lloegr ac Iechyd Cyhoeddus Cymru:

These figures are different from the daily surveillance figures on COVID-19 deaths published by the Department of Health and Social Care (DHSC) on the GOV.UK website, for the UK as a whole and constituent countries. Figures in this report are derived from the formal process of death registration and may include cases where the doctor completing the death certificate diagnosed possible cases of COVID-19, for example, where this was based on relevant symptoms but no test for the virus was conducted.

Mae ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys y marwolaethau a gofnodwyd ymhlith cleifion ysbytai neu breswylwyr cartrefi gofal lle y mae COVID-19 wedi’i gadarnhau drwy ganlyniad positif mewn prawf mewn labordy a bod y clinigwr yn amau bod hyn yn un o’r ffactorau a achosodd y farwolaeth. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi ffigurau marwolaethau yn ôl bwrdd iechyd lleol ond nid yn ôl awdurdod lleol na lleoliad y farwolaeth.

Os hoffech ddarllen mwy am ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae rhagor o wybodaeth ar ein blog Coronafeirws: ystadegau.


Erthygl gan Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.