Coronafeirws: Y Gyllideb Atodol

Cyhoeddwyd 22/06/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae’r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2020-21 (a gyhoeddwyd ar 27 Mai) yn cynnwys dyraniadau sylweddol yn ymwneud â’r coronafeirws, gyda £2.5 biliwn yn ychwanegol wedi’i ddyrannu i adrannau Llywodraeth Cymru.

O’i gymharu â’r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2020-21, mae’r cronfeydd cyffredinol a reolir gan Lywodraeth Cymru wedi cynyddu dros 10 y cant i £22.0 biliwn (mae hyn yn cynnwys Gwariant a Reolir yn Flynyddol, sy’n elfen nad yw’n ddewisol o fewn y gyllideb).

Mae’r Gyllideb Atodol Gyntaf yn ddigwyddiad technegol yn gyffredinol. Mae’r Gyllideb Atodol ar gyfer 2020-21, fodd bynnag, yn dwyn ynghyd lawer o’r cyhoeddiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn ystod pandemig y coronafeirws.

Dyraniadau cyllid

Mae’r graffig isod yn dangos y dyraniadau mwy i adrannau yn dilyn y Gyllideb Atodol:

Ffeithlun 1: Graffig yn dangos newidiadau i gyllid Llywodraeth Cymru, gan gynnwys yr arian a ddyrannwyd i’r Prif Grwpiau Gwariant.

Mae rhai o’r dyraniadau sylweddol (gan gynnwys cyllid wedi’i ailddyrannu a’i ail-flaenoriaethu) yn y Gyllideb Atodol yn cynnwys:

  • Cefnogaeth i’r economi, gan gynnwys:
    • dros £1.2 biliwn ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes a grantiau cysylltiedig; ac
    • y Gronfa Cadernid Economaidd (CCE) gwerth £500 miliwn.
  • Nifer o ddyraniadau i Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol, gan gynnwys:
    • £166 miliwn ar gyfer ysbytai maes;
    • £91 miliwn ar gyfer staffio;
    • £100 miliwn ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol;
    • £21.3 miliwn ar gyfer offer a nwyddau traul ychwanegol eraill y GIG;
    • £57 miliwn ar gyfer strategaeth Profi Olrhain Diogelu Llywodraeth Cymru; a
    • £40 miliwn i wneud taliad unwaith ac am byth o £500 yr un i holl weithwyr cartrefi gofal a gofal cartref.
  • Cefnogaeth i wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys £188.5 miliwn drwy’r Gronfa Caledi Awdurdodau Lleol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi categoreiddio ei gwariant ychwanegol yn y Gyllideb Atodol o dan bedwar pennawd, a amlinellir isod:

Ffeithlun 2: Graffig yn dangos y pedwar maes y mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid ychwanegol iddynt yn y gyllideb.

Newidiadau o ran ariannu

Mae swm yr adnoddau cyllidol (nad yw’n cynnwys adnoddau heb fod yn arian parod) sydd ar gael i Lywodraeth Cymru wedi cynyddu £2.3 biliwn o’i gymharu â’r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2020-21. Mae’r rhan fwyaf o’r cynnydd hwn yn gysylltiedig â chyllid canlyniadol sy’n gysylltiedig ag ymateb Llywodraeth y DU i’r coronafeirws.

Mae cyllid canlyniadol sy’n deillio o bolisi Llywodraeth y DU a wnaed mewn meysydd datganoledig yn gyfanswm o £1.9 biliwn. Mae hefyd £122.8 miliwn o gyllid canlyniadol nad yw’n gysylltiedig â COVID-19 yn deillio o Gyllideb Llywodraeth y DU ym mis Mawrth 2020 , yn ogystal â ffynonellau cyllid eraill.

Mae cronfeydd wrth gefn cyllid cyfalaf cyffredinol hefyd wedi cynyddu £145.5 miliwn.

O ran refeniw treth, bu gostyngiad net o ran refeniw treth datganoledig a ragwelwyd o £27 miliwn. Mae hyn yn dilyn rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) a gyhoeddwyd ar adeg Cyllideb y DU ym mis Mawrth.

Addasu cyllidebau at ddibenion gwahanol a’u hail-flaenoriaethu

Er mwyn ariannu ei hymateb i’r coronafeirws, adolygodd Llywodraeth Cymru ei chyllidebau presennol, a nodi £256.2 miliwn o refeniw i’w ddychwelyd i gronfeydd wrth gefn ar gyfer ei adleoli. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio ar sail y rhagdybiaeth y gallai hyd at £245.0 miliwn o gyllid yr UE gael ei addasu at ddibenion gwahanol.

Mae’r Gyllideb Atodol yn nodi bod ail-flaenoriaethu “wedi gofyn am wneud dewisiadau anodd”. Mae gwariant sy’n dod o dan dri chategori wedi ei warchod, os yw:

  • yn wariant sy’n amddiffyn bywydau dinasyddion;
  • yn wariant mewn meysydd lle mae ymrwymiad cyfreithiol neu statudol i’w darparu; neu
  • yn wariant mewn meysydd blaenoriaeth i Llywodraeth Cymru.

Mae’r Gyllideb Atodol yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ceisio lleihau effaith yr ymarfer hwn i’r eithaf. Mae wedi ceisio nodi lle na ellir defnyddio cyllid at y dibenion a fwriadwyd, neu lle nad yw gweithgareddau newydd a gynlluniwyd yn ystod 2020-21 wedi dechrau ac y gellir eu gohirio tan yn ddiweddarach.

Mae’r cyllid o £256.2 miliwn a ddychwelwyd i’r cronfeydd wrth gefn gan y Prif Grwpiau Gwariant (MEGs) yn cynnwys £114 miliwn yn yr adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, £50 miliwn yn yr adran Economi a Thrafnidiaeth a £46.6 miliwn yn yr adran Addysg. Dychwelwyd y £45.6 miliwn sy’n weddill gan y pedwar MEG arall.

Yn ogystal â nodi cyllid i fod ar gyfer ei adleoli, mae’r Gyllideb Atodol yn nodi bod Gweinidogion hefyd wedi ail-flaenoriaethu eu cynlluniau gwariant o fewn MEGs.

Hyblygrwydd o ran cyllido yn y dyfodol

Gyda’r pandemig yn parhau a bod adferiad bellach yn ystyriaeth allweddol, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn edrych yn fanwl sut y gall gynyddu hyblygrwydd o ran ei hopsiynau cyllido. Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd yn ceisio pwerau ychwanegol gan Drysorlys y DU mewn tri phrif faes:

  • Cronfeydd wrth gefn: Er y gall Cronfa Wrth Gefn Cymru gadw £350 miliwn, mae terfyn blynyddol ar y swm y gellir ei ddefnyddio ohoni (£125 miliwn ar gyfer refeniw a £50 miliwn ar gyfer cyfalaf). Mae’r Gweinidog yn ceisio hyblygrwydd i ddefnyddio rhagor o Gronfa Wrth Gefn Cymru ac i gario rhagor o arian o un flwyddyn i’r nesaf, os oes angen.
  • Benthyca: Mae terfynau hefyd ar fenthyca Llywodraeth Cymru (£150 miliwn y flwyddyn, cyfanswm o £1 biliwn). Mae’r Gweinidog yn ceisio cynyddu’r terfynau hyn ac mae’n awgrymu y byddai hyn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ymateb yn gyflymach i’r pandemig a’r adferiad ohono.
  • Newid cyfalaf i refeniw: Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio’r awdurdod i newid cyllid cyfalaf i refeniw. Mae gwahaniaeth rhwng refeniw (gwariant o ddydd i ddydd) a chyllidebau cyfalaf (gwariant unwaith ac am byth, fel seilwaith). Byddai newid adnoddau o gyfalaf i refeniw yn cynyddu cyllideb y naill ar draul y llall. Mae’r Gweinidog, fodd bynnag wedi nodi: “…every penny that we switch from capital to revenue is money that we’re not investing in that work on infrastructure and all other kinds of capital spend, which is so important in terms of the recovery.”

Yn y pen draw, byddai unrhyw benderfyniadau ynghylch newid y rheolau ynghylch cronfeydd wrth gefn, benthyca a newid cyfalaf i refeniw yn destun trafodaeth gyda Llywodraeth y DU.

Beth nesaf?

Bu’r Pwyllgor Cyllid yn craffu ar waith ar y Gweinidog ar 4 Mehefin a chyhoeddodd ei adroddiad ar y Gyllideb Atodol ar 18 Mehefin (PDF, 1.5MB). Bydd y Gyllideb Atodol yn cael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 24 Mehefin. Gallwch wylio’r drafodaeth yn fyw ar SeneddTV.

Mae’n debygol y bydd cyhoeddiadau ynghylch cyllido yn parhau, ac y bydd camau yn parhau i gael eu cymryd mewn ymateb i bandemig y coronafeirws. Caiff unrhyw gyllid canlyniadol ychwanegol ei gadarnhau yn Amcangyfrifon Atodol y DU. Adroddir ynghylch manylion y newidiadau o ran gwariant Llywodraeth Cymru ar ôl y Gyllideb Atodol Gyntaf yn Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru, sydd i’w chyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol (tua mis Chwefror fel arfer).


Erthygl gan Owen Holzinger, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.