Coronafeirws: twristiaeth

Cyhoeddwyd 29/06/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cafodd yr erthygl hon ei diweddaru ddiwethaf ar 30 Mehefin 2020

Er ei fod fel arfer yn hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i dwristiaid, yng ngoleuni pandemig y coronafeirws, bu’r neges gan Croeso Cymru, asiantaeth hyrwyddo twristiaeth Llywodraeth Cymru, yn glir - Hwyl Fawr. Am y Tro.

Mae effaith y coronafeirws ar y diwydiant ers dechrau’r cyfyngiadau symud wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd ers hynny.

Mae’r erthygl hon yn edrych yn fanwl ar effaith y coronafeirws ar y diwydiant twristiaeth a’r problemau y mae’r rhai sy’n gweithio yn y sector yn eu hwynebu.

Twristiaeth yng Nghymru

“Mae twristiaeth yn dod ag arian mawr i Gymru”. Dyna yw neges arferol Llywodraeth Cymru ac mae llawer o bryderon wedi’u codi ynghylch sut y bydd y sector yn goroesi ar ôl y pandemig. Yn ôl ystadegau’r sector blaenoriaethol diweddaraf sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru (ystadegau a gyhoeddwyd yn 2018), cyflogir tua 144,000 o bobl yn y sector twristiaeth yng Nghymru.

Mae’r ystadegau perfformiad diweddaraf ym maes twristiaeth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru yn cwmpasu’r cyfnod cyn y pandemig, o fis Ionawr hyd fis Rhagfyr 2019, yn dangos bod 10.7 miliwn o deithiau domestig dros nos â Chymru yn ystod y cyfnod hwn, sy’n gynnydd o 6.8 y cant o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2018. Arweiniodd yr ymweliadau hynny at wariant o £2 biliwn, sef cynnydd o 8.1 y cant o’i gymharu â 2018. Yn ôl Llywodraeth Cymru mae’r ffigurau cyfatebol ar lefel Brydeinig yn dangos codiadau llai o 3.6 y cant a 2.9 y cant yn y drefn honno.

Yn ystod yr un cyfnod yn 2019 bu hefyd 87.3 miliwn o deithiau undydd gan dwristiaid i Gymru, a arweiniodd at wariant o £3.4 biliwn.

Rheoliadau’n ymwneud â’r coronafeirws

Ar 23 Mawrth 2020, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru y byddai parciau carafanau, meysydd gwersylla, mannau twristaidd a mannau harddwch poblogaidd yng Nghymru ar gau i ymwelwyr.

Gan ddefnyddio ei phwerau o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefyd) 1984, gwnaeth Llywodraeth Cymru y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020, (rheoliadau 2020), a ddaeth i rym ar 26 Mawrth 2020.

Cau llety gwyliau

Er bod rheoliadau 2020 wedi cael eu diwygio sawl gwaith ers iddynt gael eu gosod, mae adran 4 ac adran 5 yn nodi, ar adeg cyhoeddi’r erthygl hon, bod yn rhaid i lety gwyliau, gan gynnwys gwestai, pentrefi gwyliau a pharciau carafanau teithiol a pharciau gwersylla aros ar gau. Mae’r rheoliadau yn gosod rhwymedigaeth i’r adeiladau hyn gael eu gadael yn wag, ac eithrio mewn rhai amgylchiadau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau sy’n nodi’r eithriadau hyn, er enghraifft lle gellir gofyn i fusnesau aros yn agored i gartrefu gweithwyr allweddol neu bobl ddigartref.

Mae’r canllawiau’n nodi’n glir nad yw’r rheoliadau’n effeithio ar bobl sy’n byw’n barhaol mewn cartrefi mewn parciau.

Wrth i barciau gwyliau ledled y wlad gau, cafodd y Gymdeithas Genedlaethol Perchnogion Carafanau (NACO) lawer o gwestiynau gan berchnogion carafanau a oedd wedi’u lleoli mewn parciau sy’n codi ffioedd am leiniau. Roedd yn cynghori y dylai perchnogion barhau i dalu ffioedd o’r fath er mwyn cyflawni eu rhwymedigaethau cytundebol ac i helpu busnesau i oroesi’r cyfnod hwn.

Parciau a mannau harddwch

I ddechrau, roedd rheoliadau Llywodraeth Cymru yn caniatáu i bobl ymgymryd ag un math o ymarfer corff y dydd, ar eu pennau eu hunain neu gydag aelodau o’r un aelwyd. Ar yr adeg honno, amlinellodd Llywodraeth y DU hefyd y dylid gwneud ymarfer corff bob dydd yn agos at adref, gan osgoi unrhyw deithio diangen.

Ym mis Mawrth 2020, roedd llawer o fannau poblogaidd i dwristiaid a mannau harddwch wedi’u gorlifo â phobl a oedd yn teithio i’r ardal i wneud eu hymarfer corff dyddiol. Er enghraifft, dywedodd cynrychiolydd o Barc Cenedlaethol Eryri fod y parc wedi profi ei ddiwrnod prysuraf ers cyn cof ar 21 Mawrth 2020.

Mewn ymateb i hynny, cyflwynodd Llywodraeth Cymru fesurau newydd drwy reoliadau 2020 i:

atal sefyllfa debyg i’r un a welwyd y penwythnos diwethaf pan ymgasglodd niferoedd mawr o bobl ar draethau, parciau a mynyddoedd Cymru.

Mae Adran 9 o reoliadau 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gau llwybrau cyhoeddus a thir mynediad pan maent, er enghraifft, o’r farn bod y defnydd o lwybr neu dir yn peri risg sylweddol o ledaenu’r coronafeirws. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi rhestr o lwybrau neu dir caeedig ar ei wefan, ynghyd â chodi arwyddion ar y tir dan sylw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr o feysydd parcio a llwybrau troed poblogaidd sydd ar gau, ynghyd â lincs at wybodaeth am gau mewn gwahanol ardaloedd awdurdodau lleol. Mae pob un o Barciau Cenedlaethol Cymru hefyd wedi cyhoeddi rhestr lawn o lwybrau troed a thir sydd ar gau ar hyn o bryd:

Mae’r rheolau cychwynnol o ran ymarfer corff a gadael y tŷ bob dydd wedi cael eu llacio ychydig, ond mae’n rhaid i bobl yng Nghymru aros yn lleol o hyd, yn gyffredinol o fewn 5 milltir i’w cartref, fel yr amlinellwyd yn ein blog ar y cyfyngiadau presennol

Tra ym mis Mawrth 2020, pan roddwyd cyfyngiadau ar waith i ddechrau, roedd dulliau gweithredu tebyg iawn ar draws pob rhan o’r DU, dros amser mae gwahaniaethau wedi dod i’r amlwg. Er enghraifft, er bod y rheolau i aros yn lleol yn dal yn berthnasol yng Nghymru, ers 13 Mai mae pobl yn Lloegr wedi gallu teithio pellteroedd diderfyn. Wrth i gyfyngiadau ddechrau cael eu llacio’n gyflymach yn Lloegr mae rhai pobl wedi mynegi pryder am y gwahaniaethau, a nododd Twristiaeth Gogledd Cymru y byddai’n anghywir i Loegr fod yn agor tra bod Cymru yn parhau ar gau.

Gweithwyr tymhorol

Gyda llawer o weithwyr yn y diwydiant twristiaeth yn cael eu cyflogi yn ystod y tymor gwyliau yn unig, yn draddodiadol rhwng y Pasg a mis Hydref, codwyd pryderon ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael i weithwyr tymhorol.

Roedd yn rhaid i weithwyr ar ffyrlo drwy Gynllun Cadw Swyddi Coronafeirws Llywodraeth y DU (yr edrychir arno’n fanylach yn ein herthygl ar wahân ar y coronafeirws a chyflogaeth) fod ar gyflogres Talu wrth Ennill cyflogwr ar 19 Mawrth 2020 neu cyn hynny. Y dyddiad cau yn flaenorol oedd 28 Chwefror, ond cafodd ei estyn yn dilyn galwadau gan lawer o ddiwydiannau. Ysgrifennodd y Gynghrair Twristiaeth at y Canghellor ar 3 Ebrill ynglŷn â’r mater hwn. Fodd bynnag, ni fyddai gweithwyr tymhorol, y cafodd eu contractau eu gohirio neu eu canslo oherwydd y pandemig (ac felly na fyddent wedi bod ar y gyflogres ar 19 Mawrth) yn parhau i allu cael eu rhoi ar ffyrlo.

Yr effaith ar y diwydiant

Er na fydd modd i ni wybod maint yr effaith ar y sector am gryn amser, mae Croeso Cymru wedi cynnal arolygon ffôn i gael arwydd o’r effeithiau y mae’r pandemig yn eu cael a sut mae busnesau’n ymateb.

Cynhaliwyd y gyfres gyntaf o arolygon ar 12 a 13 Mawrth 2020. Roedd y canlyniadau bryd hynny yn dangos y bu rhywfaint o effaith, ond ni effeithiwyd ar fwyafrif y busnesau ar yr adeg honno.

Roedd natur y sefyllfa a oedd yn newid yn gyflym yn golygu pan gynhaliwyd yr ail gyfres o arolygon, a ddigwyddodd rhwng 26 a 31 Mawrth, nododd busnesau fod yr effaith arnynt yn fwy sylweddol erbyn hynny. Roedd bron pob busnes a holwyd (96 y cant) ar yr adeg hon yn disgwyl i effaith y feirws fod yn negyddol iawn arnynt yn y dyfodol.

Canfu’r gyfres ddiweddaraf o arolygon, a gynhaliwyd rhwng 22 Ebrill ac 1 Mai na fyddai tua chwarter (23 y cant) y busnesau a holwyd yn disgwyl goroesi’r tri mis nesaf pe bai’r cyfyngiadau ar symud yn parhau. Roedd y pryderon a nodwyd gan fusnesau yn yr arolwg yn cynnwys:

  • Peidio â gwneud digon o arian yn yr haf i oroesi’r gaeaf nesaf;
  • Ofni wynebu gwrthwynebiad gan bobl leol wrth agor eto i dwristiaid;
  • Ymdrin â rheolau cadw pellter cymdeithasol - a allai fod yn anodd iawn i rai mathau o fusnes; ac
  • Adferiad araf oherwydd pryderon cwsmeriaid a / neu berchnogion ynghylch peryglon iechyd.

Mae pryderon ynghylch ymateb pobl leol wrth i’r diwydiant ddechrau ailagor hefyd wedi cael eu cydnabod gan Lywodraeth Cymru, oherwydd awgrymodd y Prif Weinidog y bydd pryderon mewn cymunedau lle gallai mewnlifiad o dwristiaid arwain at gynnydd yn lledaeniad y feirws pe bai atyniadau yn ailagor.

Cymorth Ariannol

Mae nifer o gynlluniau wedi’u sefydlu ar gyfer perchnogion busnes gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fel y soniwyd yn ein herthygl ar gymorth i fusnesau.

Gwnaed galwadau gan y diwydiant, fodd bynnag, bod angen cefnogaeth benodol ar y sector twristiaeth gan fod y feirws yn effeithio’n anghymesur arno. Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau (ESS) y Senedd ar 30 Ebrill, galwodd Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) yng Nghymru am wneud amrywiadau i’r cynlluniau cymorth ariannol presennol er mwyn i fusnesau twristiaeth allu gweithredu’n rhannol drwy gydol gweddill y tymor hwn. Yn yr un modd, awgrymodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) yng Nghymru bod angen dull fesul sector o ran dod o’r cyfyngiadau drwy’r cynllun cadw swyddi: “a sectoral approach to the exit through the job retention scheme…that would allow certain sectors to be treated differently”.

Ar 11 Mai 2020, dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wrth Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Lywodraeth y DU am gefnogaeth benodol i sectorau penodol, yn bennaf ar gyfer hedfan, twristiaeth a hefyd i’r sector dur.

Edrych tua’r dyfodol

Er bod llawer o fusnesau ar draws y sector yn poeni am y dyfodol, yn ei llythyr at Ganghellor y Trysorlys y DU, mae’r Gynghrair Twristiaeth yn awgrymu y bydd y diwydiant yn hanfodol i gynorthwyo’r economi i gael adferiad yn sgîl y feirws. Dywed:

In 2010…at the height of the Global Economic Crisis, the Government identified tourism as one of six key industries that could provide much needed employment and growth to reshape and rebalance the UK economy.

Ar 11 Mehefin 2020, galwodd Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru ar Lywodraeth Cymru i nodi ei chynlluniau ar gyfer sut y gall y diwydiant ailagor, ac awgrymodd y gall diffyg gweithredu y llywodraeth arwain at drychineb economaidd.

Ar hyn o bryd, mae rheoliadau 2020 yn cael eu hadolygu bob tair wythnos ac ar 10 Mehefin 2020 dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gobeithio gallu dweud rhywbeth positif ar gyfer y diwydiant twristiaeth pan gaiff y cyfyngiadau ar symud eu hadolygu ym mis Gorffennaf.

Ar 19 Mehefin cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru fod adolygiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o’r rheoliadau yn rhoi rhywfaint o obaith i’r diwydiant. Dywedodd y Prif Weinidog y gallai’r cyfyngiad o ran aros yn lleol gael ei godi ar 6 Gorffennaf, sy’n golygu y gallai pobl deithio i ymweld ag atyniadau i dwristiaid. Amlinellodd hefyd y dylai’r diwydiant ddefnyddio’r cyfnod yn dilyn y cyhoeddiad i ddechrau gwneud paratoadau ar gyfer ailagor. Cyhoeddwyd hefyd y byddai Llywodraeth Cymru, yn ei hadolygiad nesaf o’r rheoliadau ar 9 Gorffennaf, yn ystyried caniatáu i lety gwyliau hunangynhwysol ailagor.

Ar 29 Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau i fusnesau twristiaeth a lletygarwch i ailagor yn raddol ac yn ddiogel. Mae’n awgrymu y gallai atyniadau awyr agored ailagor ar 6 Gorffennaf, ac y gallai llety gwyliau hunangynhwysol ailagor ar 13 Gorffennaf os bydd yr amodau yn parhau’n ffafriol.

Gan fod yn rhaid aros i weld beth fydd yr effaith lawn ar y diwydiant twristiaeth yng Nghymru, bydd llawer o fusnesau, serch hynny, yn awyddus i ail-gydio. Efallai bod y sector yn awyddus i godi’r cyfyngiadau presennol cyn gynted â phosibl, fodd bynnag, ar 10 Mehefin 2020, yn ystod cynhadledd i’r wasg, nododd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru yn glir, wrth godi unrhyw gyfyngiadau, y byddai angen i Lywodraeth Cymru fod:

yn hyderus na fydd yn difetha rhagolygon yr economi o ran ymwelwyr ar gyfer 2021 drwy agor [y diwydiant] yn rhy gynnar.


Erthygl gan Francesca Howorth, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.