Coronafeirws: pysgodfeydd

Cyhoeddwyd 07/05/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yn ôl adroddiad gan Lywodraeth Cymru, mae busnesau pysgota a dyframaethu yng Nghymru wedi ‘dioddef ergyd arbennig o fawr’ yn sgîl effeithiau COVID-19, yn enwedig wrth i farchnadoedd allforio a marchnadoedd domestig gau. Ar 14 Ebrill 2020 cyhoeddodd Grant Pysgodfeydd Cymru i gefnogi'r diwydiant yng Nghymru.

Y cymorth sydd ar gael

Yn ôl Llywodraeth Cymru:

Mae argyfwng iechyd cyhoeddus COVID-19 yn cael effaith niweidiol sylweddol ar draws diwydiant bwyd môr Cymru. Mae’r sector yn wynebu problem uniongyrchol ac acíwt gyda chwymp y marchnadoedd allforio a lletygarwch o ganlyniad i argyfwng COVID-19, yn ogystal â cholli refeniw ac incwm yn sgil methu â gweithio oherwydd salwch cysylltiedig.

Mae amrywiaeth o gefnogaeth ar gael i fusnesau sy'n ei chael hi'n anodd oherwydd COVID-19. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod efallai na fydd llawer ohonynt yn berthnasol i fusnesau pysgota yng Nghymru, gan ddweud:

Mae cymorth sy’n bodoli eisoes ar gyfer y sector busnes ehangach yn aml yn seiliedig ar ffactorau megis gwerth ardrethol eiddo sefydlog, neu nifer yr aelodau staff a gyflogir – ond yn aml nid yw’r rhain yn berthnasol i fusnesau pysgota.

Er mwyn cydnabod hynny, ar 14 Ebrill 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grant newydd i gefnogi'r diwydiant pysgota a dyframaethu yng Nghymru. At hynny, lluniodd ganllawiau ar eu cyfer, gan gynnwys gwybodaeth am fusnes cyffredinol a chymorth lles.

Grant diwydiant pysgota Cymru

Mae grant diwydiant pysgota COVID-19 Llywodraeth Cymru wedi'i dargedu at fusnesau pysgota sy'n berchen ar gychod. Fe'i cynlluniwyd i gefnogi busnesau gyda chymorth i helpu i dalu’r costau penodol sy’n gysylltiedig â bod yn berchen ar long pysgota’. Mae'r grant yn seiliedig ar faint y llong a berchnogir, gyda thaliad uchaf o £10,000 ‘i sicrhau synergedd gyda’r Gronfa Cadernid Economaidd.’ Bydd y grant yn agored i bob busnes gweithredol bwyd y môr sydd â llongau trwyddedig yng Nghymru, hyd at 40 metr o hyd, ac a gofnododd werthiannau o £10,000 neu fwy yn 2019. Bydd budd-daliad sengl yn cael ei ddarparu i bob pysgotwr cymwys.

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i bysgotwyr cymwys gofrestru ar-lein gyda Taliadau Gwledig Cymru (RPW), er mwyn iddynt allu defnyddio’r cyfrwng hwnnw i gyflwyno ceisiadau i’r gronfa grantiau. Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio dogfen ganllaw, sy'n amlinellu pwy sy’n gymwys, a'r broses o gyflwyno ceisiadau, yn fwy manwl. Agorodd y broses o ymgeisio ar-lein ar 23 Ebrill 2020. Rhaid cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau erbyn 31 Mai 2020 fan bellaf, ond mae'r dyddiad hwn yn destun adolygiad. Mae'r canllaw yn tynnu sylw at yr amserlen rhwng cais a thaliad:

Ar ôl iddynt ddod i law, bydd ceisiadau wedi'u cwblhau yn cael eu hadolygu ac, yn amodol ar yr holl wiriadau angenrheidiol, bydd y taliad Grant yn cael ei wneud. Disgwylir i’r broses dalu gymryd tua 10 diwrnod gwaith ar ôl i’r ffurflen gais ar-lein wedi’i chwblhau ddod i law. Bydd cefnogaeth ar gael i'r rheiny sydd angen cymorth digidol, ond mae'n debygol y bydd talu trwy'r dull hwn yn cymryd mwy o amser.

At hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi llunio canllaw 'sut i lenwi’ch cais' i fusnesau sy'n cyflwyno ceisiadau. Mae hwn yn tynnu sylw at y ffaith, os yw'r ymgeisydd yn cyflogi unrhyw un ar sail TWE ac wedi'i gofrestru ar gyfer TAW, y gall fod yn gymwys ar gyfer yr Gronfa Cadernid Economaidd. Os yw'r ymgeisydd yn gymwys ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd, rhaid iddo hawlio cefnogaeth gan y Gronfa Cadernid Economaidd yn hytrach na Grant Pysgodfeydd Cymru.

Ymdrechion i roi hwb i'r farchnad ddomestig

Ym mis Mawrth 2020 lansiodd Llywodraeth y DU ymgyrch farchnata bwyd môr Prydain “Sea for yourself”. Fe'i chefnogir gan y corff cyhoeddus an-adrannol Seafish. Mae'r ymgyrch yn cael ei hyrwyddo ar wefan Seafish, Fish is the dish ac mae map o fusnesau sy'n cynnig danfoniadau bwyd y môr ar-lein ar y wefan. Cynlluniwyd yr ymgyrch cyn y pandemig COVID-19, fodd bynnag, mae Seafish wedi dweud ei fod yn

…continuing with the campaign to highlight the healthy and great tasting seafood caught and landed in the UK. It’s not designed to solve all of the problems the seafood industry is facing. But we hope that offering guidance and support on buying, cooking and eating local seafood will help increase consumer confidence around species they aren’t familiar with.

Mae canllaw Llywodraeth Cymru i bysgotwyr o Gymru yn tynnu sylw at brosiect parhaus arall i hybu bwyta bwyd y môr o Gymru ar lefel ddomestig; sef y Prosiect Porth i’r Plât. Nod y prosiect hwn yw hyrwyddo cynhyrchion Bwyd y Môr o Gymru i wella enw da a chyfle'r farchnad ar gyfer Diwydiant Bwyd y Môr o Gymru, gan annog cynnydd yn nhwf busnes bwyd y môr o Gymru ar draws y gadwyn gyflenwi.

At hynny, mae Seafish wedi llunio canllaw ar gyfer gwerthu bwyd y môr yn uniongyrchol i fwytawyr, ac wedi sicrhau newidiadau i orfodaeth rheoliadau labelu ar gyfer bwyd y môr, gyda'r nod o hybu masnach bwyd y môr. Nid oedd gwybodaeth bellach am hyn ar gael yn rhwydd ar adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn.

Cymorth ychwanegol

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru’n tynnu sylw at y ffaith bod gweithwyr busnesau pysgota – yn yr un modd â gweithwyr cynhyrchu bwyd – wedi'u rhestru fel bod yn weithwyr allweddol ac felly gallant gael buddion ychwanegol fel darpariaeth addysg wedi’i blaenoriaethu ar gyfer eu plant. At hynny, mae’n bosibl y gallant gael mynediad at brofion COVID-19.

Mae sefydliadau anllywodraethol hefyd wedi bod yn sicrhau bod grantiau ar gael i fusnesau pysgota yn y DU. Gan y gall y cyfnod pan ellir cyflwyno ceisiadau ar gyfer y rhain fod yn fyr, mae lincs ar ddiwedd y briff hwn i dudalennau gwe lle y caiff grantiau o'r fath eu hysbysebu fel mater o drefn.

Gwybodaeth ychwanegol

Gweithgareddau pysgota anghyfreithlon

Ar 28 Ebrill 2020, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru ddatganiad i'r wasg i dynnu sylw at y ffaith bod patrolau i atal pysgota anghyfreithlon yn parhau yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud yng Nghymru. Mae'r datganiad yn annog y cyhoedd i roi gwybod am weithgareddau pysgota anghyfreithlon.

Lincs i ragor o wybodaeth


Erthygl gan Emily Williams, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.