Yn sgil y pandemig coronafeirws, mae heddluoedd Cymru bellach yn gyfrifol am orfodi cyfyngiadau symud ac ymgynnull er mwyn achub bywydau a diogelu'r GIG. Yn y blog hwn, ceir amlinelliad o’r sefyllfa bresennol o ran plismona'r pandemig, crynodeb o'r rheoliadau perthnasol ac ystadegau ar y rhai sy'n torri’r rheoliadau cyfyngu.
Coronafeirws (COVID-19): Plismona a chyfiawnder troseddol
Pa elfennau o’r ymateb i’r coronafeirws y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt?
Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am yr ymateb i’r pandemig coronafeirws yng Nghymru o safbwynt iechyd y cyhoedd. Mae Llywodraeth Cymru’n gyfrifol am y prif wasanaethau cyhoeddus y mae’r pandemig yn effeithio arnynt, gan gynnwys y GIG, gofal cymdeithasol ac addysg. Fodd bynnag, nid yw plismona na chyfiawnder wedi cael eu datganoli i Gymru; mae Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn gyfrifol amdanynt.
Rhoddodd Deddf y Coronafeirws 2020 bwerau newydd i Weinidogion Cymru mewn meysydd fel iechyd ac addysg. Er enghraifft, mae'r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i Weinidogion o’r gweinyddiaethau datganoledig ddarparu indemniad i weithwyr iechyd yn ystod y pandemig, ac i gau sefydliadau addysg dros dro. Roedd angen cydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Fil y Coronafeirws cyn y gellid ei wneud yn gyfraith gan ei fod yn cynnwys pwerau mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig. Rhoddodd y Cynulliad ei gydsyniad ffurfiol i fil Senedd y DU ddydd Mawrth 24 Mawrth 2020.
Rheoliadau’r coronafeirws
Symudodd Llywodraeth Cymru yn gyflym i arfer ei phwerau newydd, gan greu rheoliadau diogelu iechyd i osod cyfyngiadau a gofynion ar bobl yng Nghymru. Creodd pob un o bedair gwlad y DU ei rheoliadau diogelu iechyd ei hun. Er bod eu cwmpas yn debyg, o ran gosod cyfyngiadau ar symud ac ymgynnull yn gyhoeddus a mynnu bod ystod eang o adeiladau a busnesau yn cau, mae'r rheoliadau'n cynnwys rhai gwahaniaethau nodedig.
Mae’r amrywiadau yn rheoliadau cyfyngu’r coronafeirws yng Nghymru a Lloegr (a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2020) wedi peri rhywfaint o ddryswch i’r heddlu a’r cyhoedd. Nid yw plismona wedi cael ei ddatganoli i Gymru, ond cafodd yr heddlu yng Nghymru eu hunain mewn sefyllfa lle roedd angen iddynt ddilyn rheolau Llywodraeth Cymru ar orfodi mesurau cadw pellter cymdeithasol.
Cyhoeddwyd canllawiau ar gyfer heddluoedd Lloegr yn unig. Roedd y canllawiau a gyhoeddwyd gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a’r Coleg Plismona yn manylu ar yr hyn y dylai heddlu Lloegr ei ystyried yn “esgus rhesymol” i rywun adael ei gartref yn ystod y cyfyngiadau symud. Roedd y cyngor yn cynnwys pethau fel gyrru i gefn gwlad i fynd am dro, neu fynd allan i wneud ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd. Mae'r gwahaniaethau yn rheoliadau’r coronafeirws rhwng Cymru a Lloegr bellach wedi cael eu nodi mewn canllawiau penodol ar gyfer yr heddlu yng Nghymru, sy'n egluro’r gwahaniaethau rhwng cadw dau fetr ar wahân, ymarfer corff, pwerau mynediad, cau tir a llwybrau cyhoeddus a rhoi dirwyon.
Rheoliadau’r coronafeirws – gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr
- Pellter dau fetr. Yng Nghymru, rhaid i fusnesau sy'n darparu gwasanaethau hanfodol (fel manwerthwyr bwyd, siopau diodydd trwyddedig a fferyllfeydd) ac addoldai sydd ar agor am resymau a ganiateir gymryd yr holl gamau rhesymol i sicrhau bod pobl yn cadw pellter o ddau fetr oddi wrth ei gilydd. (Yn Lloegr, awgrymir y mesur hwn fel arweiniad gan y llywodraeth yn unig ac, felly, ni ellir ei orfodi o dan y rheoliadau).
- Gwneud ymarfer corff unwaith y dydd. Yng Nghymru, ni chaiff unigolion adael eu cartrefi i wneud ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd, a rhaid i bobl wneud yr ymarfer corff beunyddiol hwn ar eu pennau eu hunain, neu gydag aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr (yn Lloegr, awgrymir y mesur hwn fel arweiniad gan y llywodraeth yn unig ac, felly, ni ellir ei orfodi o dan y rheoliadau). Diwygiodd Llywodraeth Cymru ei rheoliadau ar 24 Ebrill i ganiatáu ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd mewn rhai achosion, hynny yw pan fo rheswm meddygol dros wneud hynny. Bwriad hyn yn benodol yw helpu teuluoedd sydd â phlant ag awtistiaeth ac anableddau dysgu.
- Gorfodi. Mae’r rhestr o bersonau perthnasol yn rheoliadau Cymru yn ehangach na rhestr Lloegr. Gall Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru a Chyfoeth Naturiol Cymru ddynodi personau perthnasol a all orfodi'r gwaharddiad ar bobl sy'n mynd ar lwybrau neu diroedd a gaewyd.
- Gorfodaeth i gau llwybrau a thir cyhoeddus yn ystod cyfnod yr argyfwng. Mae rheoliadau Cymru wedi gosod rhwymedigaeth ar awdurdodau perthnasol i gau llwybrau cyhoeddus neu dir mynediad sy'n debygol o ddenu nifer fawr o bobl a fyddai’n agos at ei gilydd. Mae’r awdurdodau perthnasol yn cynnwys awdurdodau lleol, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
- Pŵer mynediad. Mae’r rheoliadau yng Nghymru yn rhoi pwerau mynediad os oes gan berson perthnasol sail resymol dros amau bod gofyniad a osodir gan Reoliadau Cymru yn cael ei dorri, wedi cael ei dorri neu ar fin cael ei dorri yn y fangre, a bod angen cael mynediad i’r fangre i gadarnhau hynny.
- Swm hysbysiad cosb benodedig. Mae rheoliadau Cymru’n nodi dirwy gychwynnol o £60 ar gyfer y drosedd gyntaf. Y swm ar gyfer unrhyw gosb benodedig ddilynol yw £120, heb unrhyw ostyngiad ar gyfer talu’n gynnar. (Yn Lloegr, mae'r ddirwy yn dyblu am droseddau dilynol hyd at uchafswm o £960.)
- Codi dirwy. Mae heddlu Lloegr yn codi hysbysiad cosb ar gyfer y coronafeirws, gan fod eu dirwyon yn cael eu casglu gan Swyddfa Cofnodion Troseddol ACRO. Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio negodi’r un broses ar gyfer y pedwar heddlu yng Nghymru.
Plismona cyfyngiadau symud y coronafeirws yng Nghymru
Ymateb yr heddlu i orfodi'r mesurau a nodir yn rheoliadau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol i gau adeiladau a busnesau, a chyfyngu ar symud ac ymgynnull yw ‘plismona trwy gydsyniad’. Dyma ddull o blismona sy'n seiliedig ar gydnabod bod pŵer yr heddlu i gyflawni ei swyddogaethau a'i ddyletswyddau yn dibynnu ar gymeradwyaeth y cyhoedd a'i allu i sicrhau a chynnal parch y cyhoedd.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Mike Cunningham, Prif Weithredwr y Coleg Plismona, mai prif flaenoriaeth yr heddlu yw cadw pobl yn ddiogel ac atal COVID-19 rhag lledaenu. Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu – sef y corff cynrychiadol ar gyfer prif swyddogion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr – wedi ei gwneud yn glir bod defnyddio pŵer yr heddlu o dan Ddeddf y Coronafeirws 2020 a rheoliadau cysylltiedig yn cael ei arwain gan iechyd y cyhoedd. Dywedodd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu nad yw'r heddlu'n ceisio gwneud pobl yn droseddwyr, ond yn hytrach sicrhau bod pobl yn dilyn y cyngor iechyd cyhoeddus: “Aros gartref, diogelu’r GIG, achub bywydau”.
Mae’r heddlu yng Nghymru a Lloegr yn dilyn egwyddorion uwchgyfeirio pedwar cam: Ymgysylltu; Egluro; Annog; a Gorfodi.
Mae'r canllawiau'n nodi y dylai’r heddlu annog cydymffurfiad gwirfoddol fel ymateb cyntaf; gan bwysleisio'r risg i iechyd y cyhoedd a'r GIG a gofyn i unigolion, grwpiau neu fusnesau a ydynt wedi clywed am y canllawiau newydd, a pha mor gyflym y gallant gydymffurfio â hwy.
Prif ffocws yr heddlu yw'r rheoliadau sy'n ymwneud ag unigolion. Os yw'r heddlu'n credu bod rhywun y tu allan i'r man lle mae’n byw heb esgus rhesymol, mae gan swyddogion y pŵer i ddweud wrth yr unigolyn hwnnw i ddychwelyd i'r man lle mae’n byw. Mae gan yr heddlu bwerau i wasgaru mwy na thri o bobl sydd wedi ymgynnull (hynny yw, cyfarwyddo neu symud unrhyw berson o'r grŵp hwnnw i'w gartref, os nad ydynt yn aelodau o'r un aelwyd).
Mae unrhyw un sy’n mynd yn groes i'r gofynion hyn yn cyflawni trosedd, sydd, o'i gollfarnu'n ddiannod, yn agored i ddirwy. Yng Nghymru, gellir rhoi dirwy o £60, sy’n daladwy o fewn 28 diwrnod, ond bydd hyn yn gostwng i £30 os caiff ei dalu o fewn 14 diwrnod. Gellir dwyn achos llys mewn achosion o beidio â thalu. Os bydd rhywun yn cyflawni trosedd am yr ail dro, bydd y ddirwy yn cynyddu i £120.
Yng Nghymru, mae’r rheoliadau sy'n effeithio ar fannau manwerthu a busnesau a ganiateir yn cael eu gorfodi yn bennaf gan awdurdodau lleol. Mae eu swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach yn arwain ar orfodi a monitro cau adeiladau busnes a byddant yn gallu cyhoeddi hysbysiadau gwahardd.
Mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu’r cyfyngiadau bob tair wythnos. Roedd yr adolygiad cyntaf ar 16 Ebrill 2020, pan estynnwyd y cyfyngiadau am dair wythnos arall. Dyddiad yr adolygiad nesaf yw 7 Mai 2020.
Faint o bobl yng Nghymru sy’n torri’r rheolau cyfyngiadau symud?
Mae data dros dro gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr yn dangos bod mwyafrif llethol y cyhoedd yn dilyn rheoliadau'r llywodraeth i aros gartref i ymateb i bandemig y coronafeirws.
Mae swyddogion heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi rhoi 3,203 o ddirwyon am dorri rheoliadau iechyd cyhoeddus y llywodraeth rhwng 27 Mawrth a 13 Ebrill 2020.
Dywedodd Martin Hewitt, sef Cadeirydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, ynglŷn â gorfodi rheoliadau iechyd y cyhoedd:
The vast majority of people are staying at home in order to protect the NHS and help save lives. However, we have seen a small minority of people who, despite our best efforts, have refused to follow the instructions and officers have needed to use their enforcement powers.
I want to thank everyone who is being responsible and following the regulations.
Provisional data on the number of fines issued by police forces shows proportionate policing of these new regulations. Police have interacted with the public in their tens of thousands, with most engagements ending positively and with no need for a fine.
Our approach of - engage, explain and encourage, and only as a last resort, enforce - is working and will continue.
Yng Nghymru, rhoddwyd cyfanswm o 290 dirwy rhwng 27 Mawrth a 13 Ebrill 2020. O'r rhain:
- rhoddwyd 123 gan Heddlu Dyfed-Powys;
- rhoddwyd 80 gan Heddlu Gwent;
- rhoddwyd 61 gan Heddlu De Cymru; a
- rhoddwyd 26 gan Heddlu Gogledd Cymru.
Adroddiad y Pwyllgor Dethol Materion Cartref
Ar 17 Ebrill, cyhoeddodd Pwyllgor Dethol Materion Cartref Tŷ’r Cyffredin ei adroddiad plismona ar baratoadau'r Swyddfa Gartref ar gyfer y coronafeirws a’r ymateb iddo.
Dywed yr adroddiad fod ymateb cyffredinol yr heddlu i’r coronafeirws wedi bod yn gymesur ac yn effeithiol ond mae'n rhybuddio y bydd cadw at y rheoliadau yn dibynnu ar gefnogaeth ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn y pen draw, a chynnal yr egwyddor o blismona trwy gydsyniad. Mae'r adroddiad yn galw ar Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a'r Coleg Plismona i fonitro defnydd yr heddlu o fesurau gorfodi yn rheolaidd, ac mae’n nodi bod patrymau troseddu yn newid yn ystod y pandemig.
Bydd y Pwyllgor yn llunio adroddiadau pellach, gan gynnwys adroddiad ar gam-drin domestig yn ystod y pandemig.
Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.
Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.