Cafodd yr erthygl hon ei diweddaru ddiwethaf ar 1 Mehefin 2020
Pryd y bydd yr ystadegau swyddogol yn dechrau adlewyrchu effaith y coronafeirws ar y farchnad lafur?
Bob mis, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cyhoeddi amcangyfrifon o gyfraddau cyflogaeth a diweithdra. Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar wybodaeth a gesglir gan yr arolwg o'r llafurlu ar gyfer y tri mis blaenorol. Mae'r oedi amser i'r ffigurau hyn yn golygu bod y datganiad marchnad lafur diweddaraf a gyhoeddwyd ar 19 Mai 2020 yn rhoi gwybodaeth rhwng mis Ionawr 2020 a mis Mawrth 2020. Felly, efallai na fydd yr arolwg o'r llafurlu’n dechrau adlewyrchu effaith y coronafeirws ar y farchnad lafur tan fis Mehefin.
Beth yw'r sefyllfa ddiweddaraf yng Nghymru?
Ar gyfer mis Ionawr 2020 tan fis Mawrth 2020, y gyfradd ddiweithdra ar gyfer pobl 16 oed neu’n hŷn yng Nghymru oedd 3.2 y cant, o'i chymharu â 2.9 y cant y chwarter blaenorol. Cynnydd o 4,000 o bobl yw hyn o'r chwarter blaenorol i 49,000. Mae'r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn is na Lloegr (4.0 y cant), y DU (3.9 y cant), yr Alban (4.1 y cant) ac yn uwch na Gogledd Iwerddon (2.4 y cant).
A oes data eraill y gallwn eu defnyddio i weld effaith y coronafeirws ar y farchnad lafur yng Nghymru?
Nifer yr hawlwyr – wedi'i haddasu'n dymhorol
Mae'r SYG yn cyhoeddi cyfres arbrofol sy'n cyfrif nifer y bobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ynghyd â'r rhai sy'n hawlio Credyd Cynhwysol ac mae'n ofynnol iddynt geisio gwaith a bod ar gael i weithio. Mae hyn yn disodli nifer y bobl sy'n hawlio’r Lwfans Ceisio Gwaith fel prif ddangosydd nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau yn bennaf am eu bod yn ddi-waith. Mae'r data diweddaraf ar gyfer mis Ebrill 2020 yn dangos bod nifer yr hawlwyr yng Nghymru wedi cynyddu 45,293 i 103,869.
Nifer yr hawlwyr yng Nghymru; mis Ebrill 2018 i fis Ebrill 2020
Ffynhonnell, NOMIS, Nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal SYG - addesir yn dymhorol
Nodiadau: O fis Mai 2013 ymlaen, ystyrir bod y ffigurau hyn yn ystadegau arbrofol. Dan y cynllun Credyd Cynhwysol, mae'n ofynnol i rychwant ehangach o hawlwyr geisio gwaith na chynllun y Lwfans Ceisio Gwaith. Wrth i Wasanaeth Llawn Credyd Cynhwysol gael ei gyflwyno mewn ardaloedd penodol, mae’n debygol y bydd cynnydd yn nifer y bobl y cofnodir eu bod yn ei hawlio. Caiff y cyfraddau ar gyfer rhanbarthau a gwledydd o 2018 ymlaen eu cyfrifo drwy ddefnyddio trigolion 16-64 oed canol 2015.
Nifer yr hawliau am Gredyd
Ymatebodd Therese Coffey AS, Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau, i lythyr gan Stephen Crabb AS, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, dyddiedig 21 Mai 2020. Yn y llythyr, ceir manylion ynghylch nifer yr unigolion ac aelwydydd fu’n hawlio Credyd Cynhwysfawr rhwng 1 Mawrth 2020 a 12 Mai 2020. Yn ystod y cyfnod hwn, cyfanswm yr hawliadau unigol am Gredyd Cynhwysfawr yng Nghymru oedd 122,000, gan gyrraedd uchafbwynt o 6,860 ar 27 Mawrth 2020.
Nifer yr hawliadau am Gredyd Cynhwysfawr yng Nghymru: 1 Mawrth 2020 – 12 Mai 2020
Ffynhonnell: Pwyllgor Materion Cymreig Senedd y DU, Cynnydd o 120,000 yn nifer yr hawliadau am Gredyd Cynhwysfawr yng Nghymru ers achosion y coronafeirws, 22 Mai 2020.
Arolwg SYG o effaith COVID-19 ar fusnes
Mae'r SYG wedi dechrau arolwg ar-lein newydd, sef arolwg o effaith COVID-19 ar fusnes sy'n cynnwys tua 17,600 o fusnesau yn y DU bob pythefnos. Mae'r arolwg hwn yn gofyn cwestiynau ar gyflogaeth, trosiant, disgwyliadau busnes a chymorth y llywodraeth. Cyhoeddwyd y gyfres ddiweddaraf o ganlyniadau ar 21 Mai 2020 ar gyfer y cyfnod rhwng 20 Ebrill a 3 Mai 2020. Ymatebodd cyfanswm o 6,196 o fusnesau i'r arolwg yn y DU, gyda 652 o fusnesau â phresenoldeb yng Nghymru yn ymateb. Mae'r SYG yn nodi’r canlynol:
Estimates from the Business Impact of Coronavirus (COVID-19) Survey (BICS) are currently unweighted and should be treated with caution when used to evaluate the impact of COVID-19 across the UK economy. Each business was assigned the same weight regardless of turnover, size or industry, and the data in the latest period are final.
Pan ofynnwyd iddynt beth yw statws masnachu presennol eu menter, nododd 79.3 y cant o'r busnesau yng Nghymru a ymatebodd i'r arolwg eu bod yn parhau i fasnachu o gymharu hynny â 80.5 y cant yn Lloegr. Ymatebodd 20.7 y cant arall o fusnesau yng Nghymru eu bod wedi cau dros dro neu fod masnachu ar saib dros dro.
Canran yr holl fusnesau a ymatebodd, wedi'u dadansoddi yn ôl gwlad, y DU, rhwng 20 Ebrill a 3 Mai 2020. Beth yw statws masnachu presennol eich menter?
Ffynhonnell: SYG, Arolwg o effaith COVID-19 ar fusnes, 21 Mai 2020.
Nodiadau: Mae'r data hyn yn ymwneud â'r cyfnod rhwng 20 Ebrill 2020 a 3 Mai 2020. Canlyniadau terfynol, ton 4 o arolwg SYG o effaith y Coronafeirws (COVID-19) ar fusnes. (n = 6,196).
Mae canlyniadau’r arolwg hwn yn dangos bod 79.8 y cant o fusnesau o Gymru a ymatebodd wedi gwneud cais am y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, bod 69.3 y cant wedi gohirio taliadau TAW, bod 40.6 y cant wedi gwneud cais am wyliau ardrethi busnes, a bod 25.5 y cant wedi gwneud cais ar gyfer Cynllun Amser Talu Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Mae'r canrannau hyn yn uwch na'r rhai ar gyfer y gwledydd eraill.
Mae canrannau’r busnesau sydd naill ai'n parhau i fasnachu neu wedi rhoi'r gorau i fasnachu dros dro neu y mae masnachu ar saib dros dro, wedi'u dadansoddi yn ôl gwlad, y DU, rhwng 20 Ebrill a 3 Mai 2020. A yw'ch menter wedi gwneud cais am unrhyw un o'r mentrau a ganlyn?
Ffynhonnell: SYG, Arolwg o effaith COVID-19 ar fusnes, 21 Mai 2020.
Nodiadau: Mae'r data hyn yn ymwneud â'r cyfnod rhwng 20 Ebrill 2020 a 3 Mail 2020. Canlyniadau terfynol, ton 4 o arolwg SYG o effaith y Coronafeirws (COVID-19) ar fusnes. (n = 6,196).
Erthygl gan Helen Jones, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.
Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.