Coronafeirws: gweithdrefn y Senedd

Cyhoeddwyd 06/05/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Fel nifer o sefydliadau, mae'r Senedd wedi gorfod newid y ffordd y mae'n gweithio yn ystod pandemig y coronafeirws. Mae'r blog hwn yn trafod newidiadau i weithdrefnau ac arferion y Senedd yn ystod y cyfnod hwn ac yn cymharu ymateb y Senedd ag ymatebion deddfwrfeydd eraill yn y DU.

Cyfarfod Llawn rhithwir

Y Senedd oedd y cyntaf o ddeddfwrfeydd y DU i gynnal cyfarfod rhithwir ffurfiol ar 1 Ebrill. Roedd 16 o Aelodau o’r Senedd yn bresennol a darparwyd cofnod o’r cyfarfod yn fuan wedi hynny. Ers hynny, mae dau Gyfarfod Llawn rhithwir arall wedi cael eu cynnal a’u darlledu’n fyw gyda hyd at 28 o Aelodau bob tro.

Ni fu’n rhaid i’r Senedd newid y Rheolau Sefydlog – sef y rheolau sy’n llywodraethu sut y mae’n gweithredu – i ddechrau cynnal cyfarfodydd o bell, gan nad yw’n ofynnol i’r Senedd gwrdd mewn unrhyw le penodol. Fodd bynnag, gwnaeth y Senedd newidiadau i’r Rheolau Sefydlog i’w gwneud yn haws i gynnal cyfarfodydd corfforol â phellter cymdeithasol a chyfarfodydd rhithwir. Cynigiwyd y newidiadau gan y Pwyllgor Busnes – sef y grŵp sy'n trefnu busnes y Senedd, sy’n cynnwys rheolwyr busnes y pleidiau (neu chwipiaid) ac a gadeirir gan y Llywydd. Ar sail argymhelliad y Pwyllgor Busnes, cytunodd y Senedd y gallai'r Llywydd, lle bo angen am resymau iechyd y cyhoedd:

Pleidleisiodd y Senedd hefyd i greu swydd Llywydd dros dro dynodedig a Chadeirydd dros dro, ac etholwyd David Melding AC i'r swydd. Cytunodd y Senedd ar 24 Mawrth i atgyfnerthu’r rhain a mesurau dros dro eraill (gweler isod) mewn Rheol Sefydlog 34 newydd. Bydd Rheol Sefydlog 34 yn peidio â chael effaith pan gaiff y Senedd ei diddymu, neu pan fydd y Senedd yn penderfynu felly, pa un bynnag sydd gyntaf.

[table id=8 /]

Mae deddfwrfeydd eraill yn y DU hefyd wedi dechrau cynnal eu holl gyfarfodydd ar-lein, neu rai ohonynt. Mae Senedd yr Alban wedi cynnal cyfarfodydd corfforol â phellter cymdeithasol a chwestiynau rhithwyr ar gyfer Aelodau Senedd yr Alban ac arweinwyr y pleidiau. Mae Llywydd Senedd yr Alban wedi dweud y bydd holl Aelodau Senedd yr Alban yn gallu cymryd rhan mewn cyfarfod rhithwyr erbyn 7 Mai. Ar 21 Ebrill, cymeradwyodd Tŷ'r Cyffredin gynigion ar gyfer ‘trafodion hybrid’. Mae’r rhain yn caniatáu i hyd at 120 o Aelodau Seneddol gymryd rhan yn rhithwyr ac i 50 yn rhagor gymryd rhan yn gorfforol. Cyfarfu Tŷ'r Arglwyddi o bell am y tro cyntaf ar yr un diwrnod. Mae Cynulliad Gogledd Iwerddon yn parhau i gyfarfod yn gorfforol, gydag uchafswm o 22 o Aelodau’r Cynulliad Deddfwriaethol yn siambr Stormont.

Mae'r Senedd wedi cynnal ei chyfarfodydd rhithwir drwy fersiwn drwyddedig o'r ap fideogynadledda Zoom. Mae Tŷ'r Cyffredin wedi defnyddio Zoom hefyd. Ar 3 Ebrill, dywedodd Clerc Tŷ'r cyffredin y byddai trwyddedau’n cael eu cynnig i Aelodau Seneddol ar gyfer ‘fersiwn seneddol o Zoom’. Eglurodd nad oedd ar gael yn gynt oherwydd bu’n rhaid i’r gwasanaeth digidol seneddol sicrhau bod ei fersiwn yn bodloni ‘gofynion cyfreithiol, diogelwch a phreifatrwydd.' Defnyddiodd Tŷ’r Arglwyddi Microsoft Teams i ddechrau, cyn symud i Zoom.

Y Cyfarfod Llawn: Busnes fel arfer?

Mewn wythnos arferol, mae'r Senedd yn cynnal ystod o wahanol fathau o fusnes yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mawrth a dydd Mercher. Mae hyn yn cynnwys datganiadau, cwestiynau a dadleuon y Llywodraeth a heblaw’r Llywodraeth, yn ogystal â deddfwriaeth. Yn y cyfarfodydd rhithwir ar ddydd Mercher ym mis Ebrill, cynhaliodd y Senedd ystod fwy cyfyngedig o fusnes na'r arfer, gan glywed datganiadau'r Llywodraeth ynghylch pandemig y coronafeirws, ystyried un Bil yng Nghyfnod 1, a phleidleisio i gymeradwyo rheoliadau cyfyngiadau coronafeirws Llywodraeth Cymru . Roedd y newidiadau hyn i fusnes i Senedd yn golygu y byddai angen gwneud newidiadau i’r weithdrefn.

Ar 17 Mawrth, cytunodd Pwyllgor Busnes y Senedd i ohirio bron pob busnes nad yw'n fusnes y Llywodraeth hyd y gellir rhagweld. Cytunodd y Llywodraeth hefyd i ohirio'r rhan fwyaf o'i busnes i ganolbwyntio ar yr ymateb i’r coronafeirws. Yn dilyn hynny, gwnaeth y Senedd newidiadau i’r Rheolau Sefydlog i lacio’r rheolau ar fusnes. Ar sail argymhelliad y Pwyllgor Busnes, pleidleisiodd y Senedd i alluogi'r Llywydd i ddatgymhwyso'r gofynion yn y Rheolau Sefydlog ar gyfer Cwestiynau’r Prif Weinidog, cwestiynau llafar i Weinidogion a chwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Bydd cwestiynau amserol – sef cwestiynau llafar heb rybudd – yn ailddechrau o 6 Mai. Yn ogystal, mae'r Llywydd wedi arfer ei disgresiwn i gyfyngu ar nifer y Cwestiynau Ysgrifenedig y caiff bob Aelod eu cyflwyno i uchafswm o ddeg bob wythnos.

Mae deddfwrfeydd eraill yn y DU hefyd wedi gwneud newidiadau i’w busnes wrth iddynt symud ar-lein yn llawn neu’n rhannol. Ar 21 Ebrill, cymeradwyodd Tŷ’r Cyffredin gynigion dros dro i Aelodau Seneddol gymryd rhan mewn Cwestiynau’r Prif Weinidog, cwestiynau brys a datganiadau ar ffurf hybrid rhithwyr a ffisegol. Y diwrnod canlynol, cymeradwyodd Aelodau Seneddol gynigion i ymestyn busnes hybrid i gynigion a deddfwriaeth ac i ganiatáu pleidleisio electronig. Mae Tŷ'r Arglwyddi yn cynnal rhywfaint o’i fusnes o bell, ond yn parhau i gynnal dadleuon ar ddeddfwriaeth yn gorfforol: nid yw’n gallu gwneud penderfyniadau ar drafodion rhithwyr gan nad yw Byrllysg yn bresennol. Er bod Senedd yr Alban dim ond wedi cynnal cwestiynau rhithwir o bell hyd yn hyn, mae wedi gwneud newidiadau dros dro i'w rheolau sefydlog i ganiatáu pleidleisio o bell.

Pasio deddfwriaeth

Mae pasio deddfwriaeth yn rhan allweddol o fusnes y Senedd. Mae'r Senedd fel arfer yn trafod deddfwriaeth sylfaenol mewn pedwar cam, drwy'r Cyfarfod Llawn a phwyllgorau.

Daeth Llywodraeth Cymru â'r ddadl Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) i'r Cyfarfod Llawn rhithwyr ar 8 Ebrill. Pleidleisiodd cynrychiolwyr grwpiau'r pleidiau ar a ddylid cymeradwyo’r egwyddorion cyffredinol yn y Bil. Ni ellir cyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 1. Ar 27 Ebrill, cytunodd y Pwyllgor Busnes i atal trafodion Cyfnod 2 dros dro, gan gynnwys gwahardd cyflwyno gwelliannau. Ar yr un pryd, mae'r Llywodraeth wedi bod yn adolygu pa Filiau yr hoffai eu trafod cyn etholiad nesaf y Senedd ym mis Mai 2021. Mae wedi penderfynu bod y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a'r Bil Cwricwlwm ac Asesu yn flaenoriaethau.

Yn ogystal â phasio deddfwriaeth sylfaenol, rhaid i'r Senedd hefyd graffu ar is-ddeddfwriaeth – sef deddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y pwerau a roddwyd mewn deddfwriaeth sylfaenol. Fel arfer, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad sy'n gyfrifol am ystyried is-ddeddfwriaeth cyn i’r Senedd bleidleisio arni, os bydd angen. Yn dilyn atal cyfarfodydd pwyllgorau, cymeradwyodd y Senedd newidiadau i'r Rheolau Sefydlog i ddileu cyfrifoldebau ffurfiol y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn y maes hwn, gan sicrhau bod yr Aelodau’n parhau i gael cyngor ar is-ddeddfwriaeth. Daeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn gyfrifol am is-ddeddfwriaeth unwaith eto pan ailddechreuodd gweithgareddau pwyllgorau.

Mae’r Llywodraeth wedi dweud y bydd angen iddi wneud is-ddeddfwriaeth i fynd i'r afael â phandemig y coronafeirws. Mae nifer o reoliadau bellach wedi'u gwneud. Mewn rhai achosion, bydd angen i’r rheoliadau hyn gael eu cymeradwyo gan y Senedd. Er enghraifft, byddai’n rhaid i'r Senedd gymeradwyo'r rheoliadau sy'n gorfodi cyfyngiadau symud y coronafeirws o fewn cyfnod penodol neu byddant yn peidio â chael effaith. Mae’r Llywodraeth hefyd wedi dweud ‘y bydd angen swm arwyddocaol o is-ddeddfwriaeth â blaenoriaeth’ i baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio Brexit ar 31 Rhagfyr.

Mae’r Senedd yn gyfrifol hefyd am ystyried a ddylid rhoi cydsyniad i ddeddfwriaeth y DU sy’n effeithio ar bwerau datganoledig. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol gerbron y Senedd ar sawl Bil y DU. Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud mai nod Llywodraeth Cymru yw sicrhau y gall y Senedd barhau i bleidleisio ar gynigion cydsyniad deddfwriaethol ac y byddai'n 'argymell y cyfnodau craffu arferol lle bo amserlen Senedd y DU yn caniatáu.’ Mewn rhai achosion, mae Senedd y DU wedi atal y trafodion ar filiau mewn meysydd datganoledig yn sgil y pandemig ac mae Pwyllgor Busnes y Senedd wedi cytuno i ymestyn rhai dyddiadau cau ar gyfer gwaith craffu.

Pwyllgorau

Mae’r pwyllgorau yn cyflawni amrywiaeth o rolau pwysig, gan gynnwys holi Gweinidogion, cynnal ymchwiliadau a chraffu ar ddeddfwriaeth. Fel arfer, mae'r Senedd yn cynnal mwy na deg cyfarfod pwyllgor bob wythnos yn ystod y tymor. Cytunodd y Pwyllgor Busnes na fyddai'r pwyllgorau'n cyfarfod oherwydd y pandemig ar 23 Mawrth. Ar ôl treialu'r Cyfarfod Llawn yn rhithwir, ailddechreuodd y pwyllgorau gyfarfod ar 29 Ebrill. Ar hyn o bryd, mae capasiti i gynnal pedwar cyfarfod pwyllgor yn gyhoeddus (hynny yw, wedi'u darlledu) bob wythnos, er y bydd y nifer hwnnw'n cynyddu. Mae’r Senedd wedi cytuno ar newidiadau i'r Rheolau Sefydlog i alluogi cadeiryddion pwyllgorau i lacio’r gofynion o ran mynediad y cyhoedd i gyfarfodydd ffurfiol. Gall pwyllgorau hefyd ymgymryd â rhywfaint o weithgarwch yn breifat, fel casglu tystiolaeth a chyhoeddi gohebiaeth.

Mae deddfwrfeydd eraill wedi ymdrin â'r mater hwn mewn ffyrdd gwahanol. Mae pwyllgorau Tŷ'r cyffredin wedi parhau i gynnal cyfarfodydd rhithwir ffurfiol yn ystod toriad y Pasg ar ôl pleidleisio i lacio'r rheolau ar gynnal cyfarfodydd o bell. Mae Tŷ'r Cyffredin wedi dweud ei fod bellach yn disgwyl gallu cefnogi hyd at 20 o gyfarfodydd pwyllgor bob wythnos, tra bod Tŷ'r Arglwyddi hefyd yn cynnal cyfarfodydd pwyllgor yn rhithwir. Cymeradwyodd Senedd yr Alban newidiadau dros dro i'r Rheolau Sefydlog i ganiatáu i bwyllgorau gyfarfod o bell ar 21 Ebrill. Mae Llywydd Senedd yr Alban wedi cadarnhau y bydd Senedd yr Alban bellach yn gallu cefnogi 16 o gyfarfodydd pwyllgor a’r Cyfarfod Llawn yn rhithwyr. Mae Senedd yr Alban a Thŷ’r Arglwyddi wrthi’n sefydlu pwyllgorau coronafeirws dros dro, tra bod Cynulliad Gogledd Iwerddon wedi sefydlu pwyllgor dros dro ar yr ymateb i’r coronafeirws sy’n cynnwys holl Aelodau’r Cynulliad Deddfwriaethol.


Erthygl gan Lucy Valsamidis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.