Coronafeirws: gofal plant

Cyhoeddwyd 17/04/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Cafodd yr erthygl hon ei diweddaru ddiwethaf ar 18 Mai 2020.

Fel ysgolion, mae lleoliadau gofal plant yn chwarae rhan allweddol wrth ymateb yng nghyfnod y coronafeirws. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth ddarparwyr gofal plant y dylen nhw ond aros ar agor ar gyfer plant rhieni y mae eu rôl yn hanfodol i ddelio â’r coronafeirws, ac ar gyfer plant sy'n agored i niwed.

Atal y Cynnig Gofal Plant

Mae Llywodraeth Cymru wedi disodli ei Chynnig Gofal Plant arferol dros dro, gyda Chynllun Cymorth Coronafeirws Gofal Plant.

O dan y Cynnig Gofal Plant, mae rhieni sy'n gweithio yn cael cynnig hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth, ar gyfer plant 3 a 4 oed. Fodd bynnag, oherwydd y mesurau cadw pellter cymdeithasol a gyflwynwyd yng Nghymru a rhannau eraill o'r DU, dylid cadw nifer y plant sy'n mynychu lleoliadau gofal plant mor isel â phosibl. Mae Llywodraeth Cymru, felly, wedi penderfynu atal y Cynnig Gofal Plant am gyfnod o dri mis o 1 Ebrill ymlaen, i ganolbwyntio ei hadnoddau ar gefnogi anghenion gofal plant gweithwyr hanfodol.

Cynllun Cymorth Coronafeirws Gofal Plant

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu costau gofal plant ar gyfer plant cyn-ysgol (plant rhwng 0 a 5 oed) i weithwyr allweddol yn ogystal â gofal plant ar gyfer plant sy’n agored i niwed. I fod yn gymwys, mae’n rhaid bod y gofal plant gyda darparwr cofrestredig, a gall rhieni wneud cais am y ddarpariaeth am ddim trwy gyfrwng eu Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol.

Fodd bynnag, dylai hyd yn oed gweithwyr allweddol ond anfon eu plant i wasanaeth gofal plant os na allan nhw weithio gartref, ac na allan nhw wneud trefniadau gofal plant diogel arall.

Mae yna ganllaw ar gyfer darparwyr gofal plant yn ogystal â rhieni ar sut y bydd y Cynllun Cymorth Coronafeirws Gofal Plant yn gweithio. Bydd y cynllun yn para am dri mis i ddechrau, cyn y bydd Llywodraeth Cymru’n adolygu’r sefyllfa.

Cefnogaeth a chanllawiau ar gyfer lleoliadau gofal plant

Os oedd y plant eisoes yn gymwys i gael y Cynnig ac wedi cofrestru ar ei gyfer cyn 18 Mawrth, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i dalu am yr oriau o ofal a drefnwyd o dan y Cynnig am gyfnod o dri mis. Mae hyn hyd yn oed os nad yw plant yn mynychu neu ble mae lleoliad ar gau ar gyngor meddygol neu oherwydd diffyg staff.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gefnogaeth i ddarparwyr gofal plant a staff gofal plant, gan gynnwys manylion Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod Coronafeirws Llywodraeth y DU. Mae ein herthyglau eraill ar effaith coronafeirws ar gyflogaeth a busnesau yn rhoi mwy o wybodaeth.

Mae canllawiau iechyd a lles i ysgolion ar sut i reoli pellter cymdeithasol ymysg plant hefyd yn berthnasol ar gyfer lleoliadau gofal plant. Mae'r canllawiau'n cydnabod y bydd yn anodd cynnal pellter cymdeithasol mewn lleoliadau gofal plant gyda phlant ifanc iawn. Cynghorwyd staff i roi’r mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith i’r graddau eithaf posibl, gan wneud yn siŵr ar yr un pryd bod plant yn cael eu cadw'n ddiogel ac yn cael gofal da yn eu lleoliadau.

Fel gweithwyr hanfodol, gall staff gofal plant fod yn gymwys i gael prawf i ganfod a oes ganddynt y coronafeirws ar hyn o bryd dan bolisi Llywodraeth Cymru ar feini prawf profi seiliedig ar anghenion ar gyfer gweithwyr allweddol y GIG a gweithwyr allweddol eraill. Fodd bynnag,

Oni bai y dynodir yn benodol, dim ond os oes ganddynt symptomau fydd gweithwyr hanfodol (neu aelod o’u teulu sy’n byw gyda hwy) yn cael eu profi. Ni fydd gweithwyr (neu aelod o’u teulu sy’n byw gyda hwy) sydd wedi cael eu hanfon am brawf neu y gwnaed cais am brawf ar eu cyfer ac sydd heb symptomau’n cael eu profi.

Mae canllawiau eraill i ddarparwyr gofal plant ar gael gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Llacio gofynion dros dro mewn lleoliadau gofal plant

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn caniatáullacio rhai gofynion dros dro mewn lleoliadau gofal plant. Mae’n dweud mai diben hynny yw cefnogi argaeledd darpariaeth hanfodol mewn amgylchiadau heriol. Bydd angen cymeradwyaeth yr awdurdod lleol ar gyfer camau llacio o'r fath.

Mae'r Isafswm Safonau Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir (PDF) yn nodi cymarebau staffio sy'n ofynnol mewn lleoliadau gofal plant cofrestredig. Mae canllawiau newydd Llywodraeth Cymru yn nodi y gellid llacio'r cymarebau hyn dros dro fel a ganlyn.

Mewn lleoliadau gofal yn ystod y dydd:

  • Plant rhwng 3 a 7 oed: Gellid llacio'r gymhareb ofynnol ar gyfer un oedolyn i wyth o blant, i un oedolyn i ddeg o blant.
  • Plant rhwng 8 a 12 oed: Gellid llacio'r gymhareb ofynnol ar gyfer un oedolyn i ddeg o blant, i un oedolyn i ddeuddeg o blant.

Ar gyfer gwarchodwyr plant:

  • Gellid llacio'r gymhareb ofynnol o ddim mwy na chwech o blant o dan 8 oed er mwyn galluogi gwarchodwr plant i ofalu am hyd at ddeg o blant rhwng 5 a 7 oed (10 plentyn i bob gwarchodwr yw'r uchafswm a ganiateir yn achos plant o dan 12 oed).
  • Nid yw’r cymarebau gofynnol ar gyfer plant dan 5 oed wedi newid.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar sut mae’r newidiadau dros dro yn effeithio ar awdurdodau lleol a darparwyr gofal plant.

Dod allan o’r cyfyngiadau symud

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi dull goleuadau traffig ar gyfer codi’r cyfyngiadau symud, gan gynnwys cynyddu nifer y plant mewn gofal plant (Oren) cyn y bydd darpariaeth yn agored i bob plentyn (Gwyrdd). Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cynnig unrhyw ddyddiadau disgwyliedig ar gyfer newidiadau o’r fath; mae’n nodi y byddant yn dibynnu ar gyfradd trosglwyddiadau’r coronafeirws (R).

Mae gan Lywodraeth Cymru ragor o fanylion yn ei fframwaith penderfyniadau ar gyfer y cam nesaf i addysg a gofal plant, ac yn un o’n herthyglau eraill ni trafodir cynlluniau Cymru a gwledydd eraill y DU ar gyfer dod â’r cyfyngiadau i ben yn gyffredinol.

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn casglu barn ar hyn o bryd ar effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc. Mae’r Pwyllgor wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru (PDF) yn dilyn sesiynau tystiolaeth diweddar gyda Gweinidogion.


Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy'n nodi'r cymorth a'r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru'n rheolaidd.