Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Senedd wedi cyhoeddi dau adroddiad sy'n nodi ei ganfyddiadau cynnar o ran effaith pandemig y coronafeirws ar feysydd o fewn ei gylch gwaith.
Bydd y ddau yn cael eu trafod yn y Senedd ar 1 Gorffennaf.
Cyhoeddwyd adroddiad cyntaf y Pwyllgor, Effaith COVID-19: Crynodeb o'r canfyddiadau cychwynnol (PDF 206KB) ar 4 Mehefin. Trafododd faterion sy'n effeithio ar yr economi, trafnidiaeth a sgiliau a gwnaeth 34 o argymhellion.
Cyhoeddwyd yr ail adroddiad, Effaith COVID-19: Sgiliau – canfyddiadau cynnar (PDF 107KB) ar 19 Mehefin ac roedd yn canolbwyntio'n llwyr ar sgiliau. Mae ei 8 argymhelliad yn cwmpasu iechyd a llesiant prentisiaid, diweithdra ymysg ieuenctid a hyfforddiant.
O ystyried y cyfnod byr ers cyhoeddi, nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r naill adroddiad na'r llall hyd yn hyn.
Mae'r Pwyllgor hefyd yn cynnal "galwad agored am dystiolaeth a phrofiadau" mewn perthynas â'r pandemig. Mae tystiolaeth ysgrifenedig a gafwyd mewn ymateb wedi’i chyhoeddi ar ei wefan.
Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi amrywiaeth o erthyglau sy'n berthnasol i'r materion a gwmpesir gan yr adroddiadau a'r portffolio economi a thrafnidiaeth ehangach.
Rhestrir rhai o'n prif erthyglau isod, ynghyd â rhai ffynonellau ehangach sy'n berthnasol i'r ddadl yn y Cyfarfod Llawn:
- Coronafeirws: cymorth i fusnesau: erthygl sy’n crynhoi'r cymorth sydd ar gael i fusnesau gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU;
- Coronafeirws: cyflogaeth: erthygl sy’n nodi’r cymorth sydd ar gael mewn perthynas â chyflogaeth;
- Coronafeirws: hawliau cyflogaeth: erthygl sy’n trafod materion hawliau cyflogaeth allweddol yn sgil y pandemig;
- Coronafeirws: twristiaeth: erthygl sy’n trafod effaith y feirws ar y diwydiant twristiaeth a'r rhai sy'n gweithio yn y sector;
- Coronafeirws: diweddariad mis Mehefin ar y farchnad lafur: erthygl sy’n crynhoi data ar y farchnad lafur yng Nghymru;
- Coronafeirws: Y Gyllideb Atodol: erthygl sy’n crynhoi'r prif ffigurau yng Nghyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ar 27 Mai;
- Coronafeirws: trafnidiaeth gyhoeddus: erthygl sy’n canolbwyntio ar effaith y feirws ar drafnidiaeth gyhoeddus a sut mae Llywodraethau Cymru, y DU a'r Alban wedi ymateb hyd yn hyn. Ers cyhoeddi'r erthygl hon, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cronfa o £15 miliwn ar gyfer teithio di-Covid;
- Coronafeirws: archebion gwyliau a hawliau teithwyr: ynghyd â gwybodaeth am wyliau a hawliau teithwyr, mae'r erthygl hon yn cynnwys gwybodaeth am effaith y pandemig ar gwmnïau awyrennau a hedfan;
- Clywodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau dystiolaeth: ar drafnidiaeth gyhoeddus gan yr undebau llafur, maes awyr Caerdydd a chwmnïau bysiau o ran y pandemig ar 18 Mehefin. Yn dilyn hyn, ysgrifennodd y Pwyllgor at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth (PDF 194KB) i godi nifer o faterion;
- Clywodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau dystiolaeth hefyd a oedd yn dadlau bod diweithdra ymysg pobl ifanc bellach yn fater o bwys mawr ar y gorwel. Mae tystiolaeth a gyflwynwyd gan Gynghrair Cymunedau Diwydiannol Cymru fel rhan o alwad agored y Pwyllgor am safbwyntiau, yn nodi data, a barn y Gynghrair, ar yr effaith ar gyflogaeth pobl ifanc yn awdurdodau lleol y Gynghrair;
- Mae’r Resolution Foundation hefyd wedi cyhoeddi adroddiad a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Nuffield, the Class of 2020, sy'n trafod effaith bosibl COVID-19 ar ragolygon cyflogaeth pobl sy'n gadael addysg, ac sy’n amcangyfrif lefel y gyflogaeth a’r niwed i’w cyflog y gallent eu dioddef ledled y DU; a
- Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chynllun cadernid ar gyfer y sector ôl-16 sy'n mynd i'r afael â materion tymor byr, canolig a thymor hwy yn y sector oherwydd y pandemig COVID-19. Mae'r cynllun yn egluro y byddai Llywodraeth Cymru yn "disgwyl mai’r bobl a fydd yn dioddef yr effeithiau mwyaf difrifol fydd y rhai hynny sydd eisoes dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur”, gan gynnwys gweithwyr ifanc a’r rhai sydd â lefelau sgiliau is.
Erthygl gan Andrew Minnis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.
Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.