Coronafeirws: cadw pellter cymdeithasol ac aros gartref

Cyhoeddwyd 16/04/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cafodd yr erthygl hon ei diweddaru ar 12 Mai 2020.

Rydym wedi cyhoeddi erthygl newydd yn amlinellu'r cyfyngiadau presennol yn sgil y coronafeirws yng Nghymru, y gallwch ei darllen yma.

Mae pobl ledled Cymru yn arfer cadw pellter cymdeithasol ac yn aros gartref i arafu lledaeniad y coronafeirws a sicrhau nad yw'r GIG yn cael ei orlwytho. Bydd yr erthygl hon yn amlinellu'r hyn mae'n ei olygu i bob un ohonom, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Bydd y rheoliadau sy'n gorfodi’r mesurau aros gartref yn cael eu trafod hefyd.

Beth yw cadw pellter cymdeithasol ac ‘aros gartref’ yn ei olygu?

Mae cadw pellter cymdeithasol yn cynnwys nifer o fesurau sy'n lleihau cyswllt cymdeithasol â phobl i helpu i leihau trosglwyddiad y coronafeirws. Er enghraifft:

  • osgoi tyrfaoedd mawr, ac osgoi ymgasglu mewn mannau cyhoeddus llai fel tafarndai a bwytai;
  • osgoi trafnidiaeth gyhoeddus;
  • gweithio gartref;
  • cadw pellter o 2 fetr oddi wrth eraill; a
  • cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu yn ogystal â gwasanaethau iechyd dros y ffôn a’r rhyngrwyd.

Mae Aros gartref yn mynd gam ymhellach ac yn golygu y dylech ond gadael y tŷ am nifer fechan o resymau. Pan fyddwch yn gadael y tŷ dylid cadw pellter cymdeithasol. Ar hyn o bryd, gallwch fynd allan i:

  • siopa am angenrheidiau sylfaenol;
  • ymarfer corff yn lleol;
  • ymweld â gwasanaethau gofal iechyd lleol, gan gynnwys rhoi gwaed;
  • rhoi gofal neu help i berson bregus;
  • rhoi arian yn y banc, a chael arian allan;
  • casglu eitemau o fusnes sy’n cael bod ar agor;
  • mynd i ganolfannau ailgylchu;
  • ymweld â llyfrgell;
  • mynd i angladd os cawsoch eich gwahodd, ac ymweld â mynwent, claddfa neu ardd goffa;
  • bodloni rhwymedigaeth gyfreithiol i fynd i’r llys, i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol neu i fodloni amodau mechnïaeth;
  • teithio i'r gwaith ac yn ôl, ond dim ond lle mae'n hollol angenrheidiol ac nad yw'n bosibl gweithio gartref; a
  • gadael eich tŷ i osgoi anaf, salwch neu risg o niwed oherwydd cam-drin domestig, neu i ddefnyddio gwasanaethau cymorth cam-drin domestig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar ymarfer corff. Mae'n cynghori y dylid ymarfer corff ar eich pen eich hun, gydag aelodau o'ch aelwyd neu gyda gofalwyr, a dylid gwneud hynny'n lleol. Mae hefyd yn dweud y dylech ddechrau’ch ymarfer corff yn y cartref, a gorffen yno, ac na ddylech deithio i gael ymarfer corff.

Dylai pawb arfer cadw pellter cymdeithasol, a rhaid i ni gyd gadw at y mesurau aros gartref.

Beth y mae 'gwarchod’ yn ei olygu?

Mae gwarchod yn golygu diogelu’r bobl hynny sy'n eithriadol o agored i’r coronafeirws oherwydd bod ganddynt gyflwr iechyd penodol sy'n bodoli eisoes. Mae rhestr o'r cyflyrau iechyd wedi’u cynnwys yn y canllawiau gwarchod gan Lywodraeth Cymru.

Caiff y bobl hynny eu cynghori’n gryf i beidio â gadael eu cartrefi o gwbl, a dylent osgoi cyswllt wyneb yn wyneb tan 15 Mehefin 2020 o leiaf. Dylai pobl y nodwyd eu bod yn eithriadol o agored i niwed gael llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru. Ym mis Mai, cafodd y meini prawf gwarchod eu diweddaru, a nodir yn awr y dylai’r rhai sy’n cael dialysis yr arennau warchod eu hunain. Mae 21,000 o gleifion ychwanegol wedi’u hychwanegu at y rhestr o gleifion sy’n gwarchod eu hunain yng Nghymru.

Os yw person yn credu ei fod yn perthyn i un o'r categorïau o bobl eithriadol o agored i niwed ac nad ydynt wedi cael llythyr, mae Llywodraeth Cymru yn ei gynghori i drafod pryderon â'i feddyg teulu neu glinigydd yr ysbyty. Mae’r Llywodraeth hefyd yn dweud y bydd meddygon teulu’n cael rhestr ddiwygiedig o’r cleifion yn eu gofal sydd wedi’u hychwanegu at y rhestr a gallant ychwanegu cleifion at y rhestr eu hunain.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dewis ffordd wahanol o weithredu i Loegr wrth ddarparu cymorth i’r rhai hynny sy’n gwarchod eu hunain. Ni all pobl yng Nghymru gofrestru fel rhywun sy’n agored i niwed, fel y gall pobl yn Lloegr. Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru yn cynghori pobl sy’n agored i niwed i ofyn i deulu, ffrindiau a chymdogion am help yn gyntaf, ac wedyn gofyn i fudiadau gwirfoddol lleol, cyn cysylltu â'u hawdurdod lleol am help.

Cymorth i'r rhai sy'n gwarchod eu hunain

Os oes gan y rhai sy’n gwarchod eu hunain bresgripsiwn rheolaidd nad yw'n cael ei danfon na'i gasglu gan eraill, ac ni all teulu a ffrindiau helpu ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn cynghori y dylent gysylltu â'u fferyllfa er mwyn trefnu gwasanaeth danfon.

Os yw'r unigolyn sy'n gwarchod ei hun hefyd yn cael anawsterau wrth gael bwyd, maent yn gallu gofyn am focs bwyd wythnosol am ddim. Mae manylion cyswllt yr awdurdod lleol wedi eu cynnwys yn y llythyr gan y Prif Swyddog Meddygol i wneud cais am hyn.

Ar 8 Ebrill 2020, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, fod "Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £15 miliwn ar gael ar gyfer y cynllun danfon bwyd uniongyrchol”. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud that “Erbyn hyn mae manylion y rheiny sydd wedi derbyn llythyr gwarchod gyda'r archfarchnadoedd. Bydd hyn yn eu galluogi i flaenoriaethu archebion dros y we i'r rheiny sy'n gwarchod.” Bydd awdurdodau lleol ac archfarchnadoedd yn cael y rhestr ddiwygiedig o gleifion a ddylai warchod eu hunain gan Lywodraeth Cymru.

Sut y mae aros gartref yn cael ei orfodi?

Mae Rheoliadau wedi’u gwneud ar draws pedair gwlad y DU i amlinellu’r rheolau cadw pellter cymdeithasol ac aros gartref. Gwnaeth y Prif Weinidog Cymru y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 ("y rheoliadau") ar 26 Mawrth 2020. Cafwyd gwelliannau i’r rheoliadau hyn ar 3 Ebrill 2020, 24 Ebrill 2020 ac eto ar 11 Mai 2020 gan Brif Weinidog Cymru.

Beth y mae'r Rheoliadau yn ei wneud?

Ymysg darpariaethau eraill, mae’r rheoliadau yn cyflwyno cyfyngiadau ar symud a chynulliadau fel na chaiff neb adael y cartref nac aros o’r man ble maent yn byw heb ‘esgus rhesymol’, fel yr amlinellir uchod. Mae hefyd yn gwahardd mwy na dau berson rhag ymgynnull yn gyhoeddus, ac eithrio pobl sy’n byw ar yr un aelwyd, y rhai sy’n gweithio, neu’n mynd i angladd.

Mae gan gwnstabliaid yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol bwerau i gyfarwyddo unrhyw un y canfyddir eu bod yn torri'r cyfyngiadau i ddychwelyd i'w cartrefi. Gallant hefyd wasgaru pobl sy’n ymgynnull a mynd â phobl yn ôl i’w cartrefi a “defnyddio grym rhesymol” i wneud hynny.

Mae’r rheoliadau yn ei gwneud yn drosedd i dorri’r cyfyngiadau hyn, y gellir ei chosbi drwy ddirwy (hysbysiad cosb benodedig). Y ddirwy yw £60, ond £30 sy’n daladwy os caiff ei thalu o fewn 14 diwrnod. Os yw person eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig o dan y rheoliadau hyn, bydd yn cael dirwy o £120.

Pryd y daw'r rheoliadau i ben?

Byddant yn dod i ben chwe mis o’r dyddiad y daethant i rym (26 Medi 2020). Fodd bynnag, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r cyfyngiadau bob 21 diwrnod a rhaid i'r adolygiad cyntaf gael ei gynnal cyn 16 Ebrill 2020.

Gall y cyfyngiadau ddod i ben cyn mis Medi 2020 os yw Gweinidogion Cymru o'r farn nad ydynt bellach yn angenrheidiol a'u bod yn cyhoeddi cyfarwyddyd i derfynu un neu fwy o'r cyfyngiadau.

Yn dilyn cyfarfod COBR ar 16 Ebrill 2020, penderfynodd pedair gwlad y DU byddai’r cyfyngiadau presennol yn parhau am dair wythnos arall.

Cynhaliwyd yr ail adolygiad ar 7 Mai 2020. Dywedodd Prif Weinidog Cymru ei bod yn rhy gynnar i godi’r cyfyngiadau felly rhai i’r rheoliadau “aros gartref” barhau tan ddyddiad yr adolygiad nesaf. Fodd bynnag, cyflwynwyd rhai mân newidiadau i ganiatáu i bobl ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd ac i ganiatáu i ganolfannau garddio agor os os modd iddynt sirhau bod 2 fetr o bellter rhwng y cwmseriaid. Gall awdurdodau lleol hefyd ddechrau cynllunio i ailagor llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu.

Caiff yr adolygiad nesaf ei gynnal erbyn 28 Mai 2020.

Cadw’n ddiogel

Mae cadw pellter cymdeithasol ac aros gartref yn gallu bod yn ddiflas, yn rhwystredig ac yn anodd i bob un ohonom, felly mae'n bwysig gofalu amdanoch chi eich hun ac eraill. Mae nifer o wefannau sy’n cynnig cyngor defnyddiol ar sut i gynnal iechyd meddwl yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys Mind ac Every mind matters.


Erthygl gan Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.