Coronafeirws: cynnal profion

Cyhoeddwyd 01/05/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Diweddarwyd: 06 Mai 2020

Mae cam presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer profion COVID-19 yn canolbwyntio ar weithwyr hanfodol (gan gynnwys gweithwyr nad ydynt yn weithwyr gofal iechyd), cleifion â symptomau mewn ysbytai a phreswylwyr â symptomau mewn cartrefi gofal. Ar 28 Ebrill 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd system archebu apwyntiad ar-lein ar gyfer profion coronafeirws ar gael o 30 Ebrill 2020 a bod gan labordai gapasiti i gynnal dros 2000 o brofion y dydd. Mae'r polisi a'r trefniadau ar gyfer profi yng Nghymru yn wahanol i'r rhai yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'r blog hwn yn nodi sut mae’r polisi ar gyfer cynnal profion COVID-19 yng Nghymru wedi newid dros amser, beth yw’r polisi ar hyn o bryd, a nifer y profion sy’n cael eu cynnal yng Nghymru.

Y prawf a ddefnyddir yn rheolaidd yng Nghymru a’r DU yw prawf antigen. Defnyddir y prawf swab hwn i ganfod a yw rhywun wedi’i heintio â’r feirws ar hyn o bryd. Mae canllawiau ar y broses brofi, gan gynnwys gwybodaeth am drefnu prawf antigen, wedi cael eu cyhoeddi. Mae Llywodraethau yn y DU ar hyn o bryd yn chwilio am brawf gwrthgyrff effeithiol a dibynadwy (prawf gwaed) i’w ddefnyddio, i ganfod amlygiad blaenorol i COVID-19 ac imiwnedd posibl.

Sut mae’r polisi ar gyfer cynnal profion wedi newid dros amser yng Nghymru

Ymateb cychwynnol

Roedd y cam 'cyfyngu' cychwynnol o ymateb y DU i’r coronafeirws yn canolbwyntio ar ganfod achosion cynnar a mynd ar drywydd cysylltiadau agos. Cafodd unigolion â symptomau eu profi am y feirws; yng Nghymru dechreuodd hyn ar 29 Ionawr 2020 ar y rhai a oedd yn dychwelyd o dramor. Dechreuodd Cymru brofi staff rheng flaen y GIG ar 7 Mawrth 2020 hefyd.

Canolbwyntio ar dderbyniadau i ysbytai

Ar 12 Mawrth 2020, symudodd y DU i'r cam 'oedi', gyda'r nod o arafu lledaeniad COVID-19. Yn dilyn hynny, cyhoeddodd Prif Swyddog Meddygol Cymru gyngor (PDF 168KB) i'r GIG ar newidiadau i’r meini prawf profi. Roedd yn nodi nad oedd profi unigolion sy’n arddangos symptomau o COVID-19 yn cael ei argymell fel mater o drefn, ac amlinellodd feini prawf ar gyfer profi unigolion â symptomau yr oedd angen eu danfon i’r ysbyty. Roedd hefyd yn cynnwys meini prawf dros dro i brofi gweithwyr gofal iechyd rheng flaen allweddol, a chlystyrau o glefydau mewn lleoliadau gofal preswyl neu leoliadau gofal eraill.

Ar yr adeg hon, gofynnwyd i Lywodraeth Cymru (a llywodraethau eraill ar draws y DU) pam oedd dull y DU ar gyfer cynnal profion, yn ôl pob golwg, yn wahanol i gyngor Sefydliad Iechyd y Byd (WHO). Dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd y dylai pob achos a amheuir o COVID-19 gael ei brofi, yn ogystal â'r bobl y buont mewn cysylltiad agos â nhw.

Cynllun profi newydd

Ar 7 Ebrill 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fanylion ei chynllun profi COVID-19 ar gyfer Cymru. Roedd yn nodi’r blaenoriaethau o ran profi a'r bwriad i brofi mwy o weithwyr allweddol ac yn y pen draw y cyhoedd (wrth i'r capasiti i gynnal profion gynyddu). Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ei chynllun yn “ategu ac yn rhyngweithredu” â strategaeth brofi Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr, a gyhoeddwyd hefyd ddechrau mis Ebrill.

Polisi newydd ar gyfer profi gweithwyr hanfodol

Ar 18 Ebrill 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bolisi ychwanegol sy'n nodi ei dull presennol o brofi "gweithwyr hanfodol". Mae'r categorïau eang o weithwyr hanfodol yn cynnwys:

  • Gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol;
  • Gweithwyr diogelwch cyhoeddus (gweithwyr argyfwng) a diogelwch cenedlaethol;
  • Gweithwyr llywodraeth leol a chenedlaethol;
  • Gweithwyr addysg a gofal plant;
  • Gweithwyr busnesau sy’n ymwneud â bwyd a nwyddau angenrheidiol eraill;
  • Gweithwyr trafnidiaeth;
  • Gweithwyr cyfleustodau, cyfathrebu a gwasanaethau ariannol; a
  • Gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus allweddol.

Ar 22 Ebrill 2020, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (y Gweinidog) yn y Cyfarfod Llawn "rydym bellach yn profi holl breswylwyr cartrefi gofal sy'n dangos symptomau a phob preswylydd cartref gofal sy'n dychwelyd o'r ysbyty. Gellir atgyfeirio pob aelod o staff cartrefi gofal sy'n dangos symptomau i gael profion hefyd yn awr.” Ar 2 Mai, cafodd profion eu hymestyn i gynnwys holl drigolion a staff cartrefi gofal sydd wedi nodi achosion o’r feirws.

Ar 28 Ebrill 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd system archebu apwyntiad ar-lein ar gyfer profion coronafeirws ar gael o 30 Ebrill 2020, a fydd yn caniatáu i bobl drefnu prawf mewn canolfannau gyrru i mewn yng Nghaerdydd a Chasnewydd. Bydd y system newydd yn cael ei chyflwyno'n ddiweddarach mewn rhannau eraill o Gymru. Ar 29 Ebrill 2020, cyhoeddwyd canllawiau ar y broses brofi, gan gynnwys gwybodaeth am drefnu prawf.

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am brofi yn dangos, ers 1pm ar 26 Ebrill 2020, bod 33,257 o brofion wedi'u cynnal (13,406 o weithwyr gofal iechyd).

Capasiti i gynnal profion

Mae'r cynllun profi ar gyfer Cymru yn tynnu sylw at y ffaith fod y capasiti i gynnal profion yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys argaeledd pecynnau prawf, y gallu i gynyddu gwaith yn ddiogel mewn labordai, staffio priodol, a systemau rheoli gwybodaeth addas.

Ar 5 Ebrill 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei nodau i gynyddu capasiti:

Ar hyn o bryd, mae gennym gapasiti i gynnal tua 1,100 o brofion y dydd yng Nghymru. Erbyn canol mis Ebrill, byddwn yn gallu darparu hyd at 5,000 o brofion antigen y dydd i bobl a dderbynnir i ysbytai yr amheuir bod ganddynt coronafeirws, staff rheng flaen y GIG a phobl yr ystyrir eu bod yn eithriadol o agored i niwed. Bydd 4,000 o brofion antigen ychwanegol ar gael bob dydd fel rhan o gytundeb pedair gwlad ar gyfer y DU - bydd y rhain ar gael i bobl yn y gymuned. Cyn gynted ag y bydd prawf gwrthgyrff wedi’i gymeradwyo i'w ddefnyddio yn y DU, caiff hyn ei gynnig yng Nghymru, yn ogystal â’r profion antigen.

Ar 18 Ebrill 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad o'i threfn brofi ar gyfer coronafeirws. Disgrifiodd hyn “oedi amrywiol” a “phroblemau â’r gadwyn gyflenwi”, a chadarnhaodd na fyddai'n cyrraedd y targed o 5,000 o brofion erbyn trydedd wythnos mis Ebrill. Pan holwyd Llywodraeth Cymru yn ystod ei chynhadledd i'r wasg ar 20 Ebrill, dywedodd na fyddai'n gosod targedau ar gyfer profion mwyach.

Mae adolygiad Llywodraeth Cymru yn cynnwys argymhellion i wella’r broses gyfeirio at brofion a’r canlyniadau, ac ymrwymiad i ddarparu diweddariadau wythnosol yn nodi’r cynnydd disgwyliedig a gwirioneddol o ran capasiti profi. Dangosodd y prif ddiweddariad wythnosol (22 Ebrill 2020) fod gan labordai gapasiti i gynnal 1,800 o brofion, gyda 1,033 o brofion wedi’u cynnal yn y 24 awr ddiwethaf. Dangosodd hefyd fod dros 98 y cant o'r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn tridiau ni waeth ble y maent yn cael eu cynnal (boed yn ganolfan gyrru i mewn, ysbyty neu uned brofi). Fodd bynnag, nid yw'n nodi faint o amser y mae'n ei gymryd i unigolyn gael ei ganlyniad ar ôl cael ei brofi. Dywedodd y bydd "yr wybodaeth hon yn cael ei darparu pan fydd yr ap atgyfeirio i gael prawf ar gael”.

Mae’r ail ddiweddariad wythnosol (28 Ebrill 2020) yn dangos bod capasiti labordai i gynnal profion yn parhau i fod yn 1,800 o brofion, gydag 1,250 o brofion wedi’u cynnal yn y 24 awr ddiwethaf. Ar 28 Ebrill 2020, yn dilyn sesiwn friffio'r cyfryngau, dywedodd y BBC fod y Gweinidog wedi dweud bod y capasiti dyddiol bellach wedi cyrraedd 2,000 gydag 1,191 o brofion wedi’u cynnal ddoe.

Canolfannau profi

Mae adolygiad Llywodraeth Cymru o’i threfn brofi yn nodi cynlluniau i gynyddu mynediad at brofion ledled Cymru. Ar 22 Ebrill 2020, dywedodd y Gweinidog hefyd yn y Cyfarfod Llawn bod Llywodraeth Cymru yn credu ei bod yn "agosáu at allu profi yn y cartref”.

Mae'r diweddariad wythnosol diweddaraf ar brofi a gyhoeddwyd ar 28 Ebrill 2020 yn datgan:

Mae safle profi Dinas Caerdydd a Chasnewydd wedi dechrau profi unigolion nad ydynt yn weithwyr iechyd allweddol, gan gynnwys diffoddwyr tân, swyddogion yr heddlu, swyddogion carchar a gweithwyr cartrefi gofal yn ardal y De-ddwyrain. Mae’r profion hyn yn gysylltiedig â’r rhaglen brofi sy’n cael ei chynnal ledled y DU gan Deloitte. Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe uned brofi ar faes chwaraeon oddi ar yr M4 y tu allan i Gastell-nedd Port Talbot. Ein nod yw cael rhwydwaith o’r safleoedd hyn y gall unigolion deithio iddynt i gael prawf o fewn 30 munud i’w cartrefi.

Ar 28 Ebrill 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai canolfan brofi yn agor yn Llandudno ar 29 Ebrill 2020, ac y byddai canolfan yng Nghaerfyrddin yn dechrau cynnal profion ar weithwyr hanfodol ar 30 Ebrill 2020.

Fframwaith ar gyfer adferiad Cymru

Ar 24 Ebrill 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru “Arwain Cymru allan o’r pandemig coronafeirws: fframwaith ar gyfer adferiad”. Er nad yw'r fframwaith yn cynnwys gwybodaeth benodol am brofion, mae'n nodi bod Llywodraeth Cymru yn "canolbwyntio ar ddeall a mesur y lefelau haint yng Nghymru” ac yn “cynyddu ein capasiti a’n gallu i brofi” i wneud hyn.

O ran cadw golwg ar iechyd y cyhoedd, mae'n nodi cynlluniau i:

... fonitro lefelau trosglwyddo yn y gymuned, ymhlith grwpiau agored i niwed ac yn lleoliadau’r GIG. Pan fydd brechlyn ar gael bydd y mesurau cadw golwg yn canolbwyntio ar fonitro effaith y brechlyn, nifer yr unigolion a fydd yn cael eu brechu, methiannau gyda’r brechlyn a digwyddiadau niweidiol, newidiadau o ran epidemioleg ac amrywiad o ran y math o’r feirws, a rheoli achosion o’r feirws.

Rhagor o wybodaeth

  • Mae dangosfwrdd data rhyngweithiol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys data dyddiol ar nifer yr achosion a gadarnhawyd a'r profion a gynhaliwyd (wedi’u dadansoddi yn ôl bwrdd iechyd lleol ac ardal awdurdod lleol), a nifer y marwolaethau (yn ôl y bwrdd iechyd lleol).
  • Gwefan Llywodraeth Cymru ar y nifer diweddaraf o achosion o COVID-19 a lefel y risg yn y DU.
  • Data a dadansoddiadau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol mewn perthynas â phandemig y coronafeirws (COVID-19) a'i effaith ar ein heconomi a'n cymdeithas.
  • Papur briffio gan Lyfrgell Tŷ'r cyffredin gyda rhagor o wybodaeth am brofion coronafeirws yn Lloegr.
  • Cwestiynau Cyffredin Canolfan Wybodaeth Senedd yr Alban (SPICe) ynghylch COVID-19.

Erthygl gan Philippa Watkins a Emily Williams, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau ar y pandemig coronafeirws, gan gynnwys erthygl sy’n nodi’r cymorth a’r canllawiau sydd ar gael i bobl yng Nghymru ac amserlen o ymateb llywodraethau Cymru a’r DU.

Gallwch weld ein holl gyhoeddiadau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy glicio yma. Caiff pob un ei ddiweddaru’n rheolaidd.