COP17: Adfer natur yng Nghymru ar lwyfan byd-eang

Cyhoeddwyd 13/10/2026   |   Amser darllen munud

Yr wythnos nesaf, bydd llywodraethau o bob cwr o’r byd yn ymgynnull yn Armenia i asesu ymdrechion byd-eang i adfer bioamrywiaeth.

Cynhelir 17eg Gynhadledd Partïon y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (COP17) rhwng 19 a 30 Hydref, yn Yerevan, i ystyried y ffordd y mae gwledydd yn cyflawni uchelgeisiau’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang (GBF) a osodwyd yn 2022 yn COP15.

Mae’r DU yn rhan o’r GBF. Gan fod bioamrywiaeth yn faes datganoledig, mae gan Lywodraeth Cymru rôl i’w chwarae. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i COP17.

Nod y GBF yw atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030 a sicrhau adferiad erbyn 2050.

Ffigur 1: Uchelgais y Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang i atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030 a sicrhau adferiad erbyn 2050.

Graff llinell yn dangos dirywiad bioamrywiaeth hyd at y 2020au ac uchelgais i gynnydd mewn bioamrywiaeth fod yn bositif net erbyn 2030 (o'i gymharu â 2020) a thuedd gynyddol hyd at 2050. Defnyddir eiconau o blanhigion ac anifeiliaid i gynrychioli bioamrywiaeth.

 

Ffynhonnell: wedi’i addasu o adnodd gan naturepositive.org

Mae’r GBF yn cynnwys 23 o dargedau byd-eang ar gyfer 2030 gan gynnwys materion fel diogelu cynefinoedd, adfer rhywogaethau, lleihau llygredd, cynhyrchu a defnyddio cynaliadwy, ariannu, ac integreiddio bioamrywiaeth ar draws polisi’r llywodraeth.

Bydd COP17 yn asesu a yw cynlluniau cenedlaethol a threfniadau cyllido yn ddigonol i gyflawni targed 2030. Gyda dim ond pedair blynedd i fynd, mae’r ymchwiliad pwyso a mesur hwn yn digwydd ar adeg hollbwysig.

Sut mae Cymru wedi ymateb i’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang?

Mae’r GBF yn ei gwneud yn ofynnol i wledydd lunio Strategaeth a Chynllun Gweithredu Cenedlaethol ar Fioamrywiaeth, sy’n nodi sut y byddant yn cyflawni ymrwymiadau’r GBF.

Wrth i Fframwaith Bioamrywiaeth y DU (2024) ddarparu ymateb cyffredinol y DU i ymrwymiadau COP15, mae Cymru wedi datblygu ei dulliau polisi ei hun mewn cyd-destun datganoledig. Ym mis Mawrth 2026, cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru ei Chynllun Gweithredu Adfer Natur, sef ei strategaeth o dan y GBF. Nid yw’n glir eto sut y bydd Llywodraeth newydd Cymru yn bwrw ymlaen â’r strategaeth hon.

Datblygodd Llywodraeth flaenorol Cymru fframwaith hefyd ar gyfer cyflawni targed ‘30 erbyn 30’ y GBF i amddiffyn a chadw yn effeithiol 30% o dir, dŵr croyw a môr ar gyfer natur erbyn 2030.

At hynny, mae Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru osod targedau bioamrywiaeth cyfreithiol rwymol i Gymru erbyn mis Ebrill 2028 i gyd-fynd ag uchelgeisiau’r GBF.

Sut mae Cymru a’r DU yn perfformio yn erbyn ymrwymiadau’r GBF?

Y 7fed Adroddiad Cenedlaethol (cyfnodol) a gyhoeddwyd yn ddiweddar yw adroddiad swyddogol y DU ar gynnydd yn erbyn targedau’r GBF i’r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol. Er ei fod yn adroddiad ar gynnydd ar lefel y DU, mae'n tynnu sylw at bolisïau perthnasol yng Nghymru hefyd.

Hyd yn hyn, dim ond tri o’r 23 o dargedau y mae’r DU ar y trywydd iawn i’w cyflawni erbyn 2030

Targed 2030

Statws y DU

1

Cynllunio a rheoli pob ardal i fynd i’r afael â newid defnydd o dir a môr a lleihau colli bioamrywiaeth

Gwnaed cynnydd, ond ddim yn ddigon cyflym

2

Sicrhau bod o leiaf 30% o ecosystemau sydd wedi diraddio yn cael eu hadfer yn effeithiol

Gwnaed cynnydd, ond ddim yn ddigon cyflym

3

Cadw a rheoli o leiaf 30% o dir a 30% o gefnfor yn effeithiol (30 erbyn 30)

Gwnaed cynnydd, ond ddim yn ddigon cyflym

4

Atal difodiant rhywogaethau, amddiffyn amrywiaeth enetig, a rheoli gwrthdaro rhwng pobl a bywyd gwyllt

Gwnaed cynnydd, ond ddim yn ddigon cyflym

5

Sicrhau bod rhywogaethau gwyllt yn cael eu defnyddio, eu cynaeafu a’u masnachu mewn ffordd gynaliadwy, ddiogel a chyfreithlon

Gwnaed cynnydd, ond ddim yn ddigon cyflym

6

Lleihau’r rhywogaethau estron goresgynnol a gyflwynir 50% a lleihau eu heffaith

Gwnaed cynnydd, ond ddim yn ddigon cyflym

7

Lleihau llygredd o bob ffynhonnell i lefelau nad ydynt yn niweidiol i fioamrywiaeth

Gwnaed cynnydd, ond ddim yn ddigon cyflym

8

Lleihau effeithiau newid hinsawdd ar fioamrywiaeth a meithrin gwydnwch

Gwnaed cynnydd, ond ddim yn ddigon cyflym

9

Sicrhau bod rhywogaethau gwyllt yn cael eu rheoli a’u defnyddio mewn ffordd gynaliadwy sy’n sicrhau manteision i bobl

Anhysbys

10

Gwella bioamrywiaeth a sicrhau bod amaethyddiaeth, dyframaeth, pysgodfeydd a choedwigaeth yn cael eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy

Gwnaed cynnydd, ond ddim yn ddigon cyflym

11

Adfer, cynnal a gwella cyfraniadau natur at bobl

Gwnaed cynnydd, ond ddim yn ddigon cyflym

12

Gwella mannau gwyrdd a glas a chynllunio trefol ar gyfer iechyd, llesiant a bioamrywiaeth

Gwnaed cynnydd, ond ddim yn ddigon cyflym

13

Sicrhau bod manteision adnoddau genetig, gwybodaeth am ddilyniant digidol a gwybodaeth draddodiadol yn cael eu rhannu’n deg ac yn gyfartal

Ar y trywydd iawn

14

Integreiddio bioamrywiaeth i wneud penderfyniadau ar bob lefel

Gwnaed cynnydd, ond ddim yn ddigon cyflym

15

Annog busnesau i fonitro, asesu a datgelu risgiau sy’n gysylltiedig â bioamrywiaeth

Gwnaed cynnydd, ond ddim yn ddigon cyflym

16

Galluogi dewisiadau defnydd cynaliadwy a lleihau gwastraff a gorddefnydd

Gwnaed cynnydd, ond ddim yn ddigon cyflym

17

Sefydlu mesurau bioddiogelwch a dosbarthu manteision biotechnoleg

Ar y trywydd iawn

18

Lleihau cymhellion sy’n niweidiol i fioamrywiaeth a gwella cymhellion cadarnhaol

Gwnaed cynnydd, ond ddim yn ddigon cyflym

19

Cynyddu adnoddau ariannol ar gyfer bioamrywiaeth

Gwnaed cynnydd, ond ddim yn ddigon cyflym

20

Cryfhau’r broses o feithrin gallu, trosglwyddo technoleg a chydweithio ar wyddoniaeth a thechnoleg ar gyfer gweithredu bioamrywiaeth yn effeithiol

Ar y trywydd iawn

21

Sicrhau bod gwybodaeth ar gael ac yn hygyrch i arwain camau gweithredu bioamrywiaeth

Gwnaed cynnydd, ond ddim yn ddigon cyflym

22

Sicrhau cyfranogiad, mynediad at wybodaeth a chyfiawnder mewn penderfyniadau a wneir ar fioamrywiaeth

Gwnaed cynnydd, ond ddim yn ddigon cyflym

23

Sicrhau cydraddoldeb rhywedd a dull ymatebol o ran rhywedd i weithredu bioamrywiaeth

Gwnaed cynnydd, ond ddim yn ddigon cyflym

 

Ffynhonnell: Gwybodaeth o’r 7fed Adroddiad Cenedlaethol i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol

Y llynedd, lluniodd y sector amgylcheddol ei adroddiad cynnydd ei hun ar gyfer y DU, yn benodol ar y targed ‘30 erbyn 30’ (Ffigur 2).

Gwnaeth Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn y Chweched Senedd gyhoeddi adroddiad hefyd ar gynnydd tuag at atal colli natur erbyn 2030 a’r targed ‘30 erbyn 30’.

Daeth yr adroddiadau hyn i’r un casgliad, sef er bod cynnydd wedi’i wneud tuag at y 23 o dargedau’r GBF, nad yw wedi bod yn ddigon cyflym. Mae’r adrannau isod yn canolbwyntio ar rai o’r themâu allweddol.

Mae bioamrywiaeth yn parhau i ddirywio

Mae Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol 2025 Cyfoeth Naturiol Cymru yn dod i’r casgliad bod colli bioamrywiaeth yn parhau i fod yn bryder sylweddol. Mae’n nodi bod ecosystemau ar draws amgylcheddau daearol, dŵr croyw a moroedd yn parhau i wynebu pwysau sylweddol ee o lygredd, defnydd tir anghynaliadwy a newid hinsawdd. Mae’r adroddiad yn nodi bod Cymru ymhlith y gwledydd sydd wedi’u disbyddu fwyaf o ran natur yn y byd, gyda bron i un o bob pum rhywogaeth mewn perygl o ddifodi.

Mae’r targed ‘30 erbyn 30’ yn her fawr

Un o’r dangosyddion cliriaf o faint yr her yw’r ymrwymiad ‘30 erbyn 30’.

Nododd Llywodraeth flaenorol Cymru y mathau o ardaloedd gwarchodedig a fyddai’n bodloni’r meini prawf i gyfrif tuag at 30 erbyn 30: Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Parthau Cadwraeth Morol, safleoedd Ramsar, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Ochr yn ochr â’r safleoedd hyn, cydnabyddir ardaloedd eraill sy’n cyflawni canlyniadau hirdymor cyfatebol ar gyfer bioamrywiaeth hefyd yn y fframwaith 30 erbyn 30. Gelwir y rhain yn ‘safleoedd Naturfa‘ yng Nghymru (neu ‘Mesurau Cadwraeth Effeithiol Eraill ar sail ardal’ yn rhyngwladol).

Mae’r 7fed Adroddiad Cenedlaethol yn dweud bod safleoedd gwarchodedig a mesurau cadwraeth effeithiol eraill yn gorchuddio 10.9% o arwynebedd tir Cymru a 50.3% o arwynebedd môr Cymru yn 2025.

Fodd bynnag, cydnabyddir yn dda nad yw dynodi ar ei ben ei hun yn ddigon a bod angen rheolaeth effeithiol ar gyfer adfer natur, ac felly nid yw’r ffigurau hyn yn rhoi’r darlun cyfan. Clywodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn y Chweched Senedd dystiolaeth a oedd yn awgrymu cyflwr gwael llawer o safleoedd gwarchodedig. Dywedodd rhanddeiliaid fod diffyg adnoddau wedi bod yn ddifrifol ar gyfer monitro a rheoli safleoedd.

Mae ymdrechion yng Nghymru i wella cyflwr y rhwydwaith safleoedd gwarchodedig yn cynnwys Cronfa Rhwydweithiau Natur. Mae Llywodraeth newydd Cymru wedi addo £10 miliwn i’r gronfa hon gefnogi prosiectau bioamrywiaeth, sef yr un lefel o gyllid a ddyrannodd Llywodraeth flaenorol Cymru yn 2025.

Mae’r 7fed Adroddiad Cenedlaethol yn nodi bod Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd Cymru wedi adfer 3,600 ha o fawndir (gan ragori ar ei tharged).

Er gwaethaf yr ymdrechion hyn, daeth adroddiad cynnydd y sector amgylcheddol i’r casgliad mai dim ond 2.14% o dir oedd gan Gymru yn 2025 yn bodloni’r meini prawf 30 erbyn 30, ac nad oedd digon o ddata i asesu’r sefyllfa ar gyfer yr amgylchedd morol.

Ffigur 2: Asesiad y sector amgylcheddol o gynnydd tuag at y targed 30 erbyn 30 ar dir ledled y DU.

Pedair siart doesen yn dangos cyfran y tir ym mhob un o wledydd y DU sy’n bodloni’r meini prawf 30 erbyn 30 o’i gymharu â’r targed o 30% (Cymru: 2.14%, Lloegr: 2.83%, Gogledd Iwerddon: 4%, yr Alban: 12.63%).

 

Ffynhonnell: 30by30, 2025 UK Progress Report, Cyswllt Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad

Bydd prif ffrydio bioamrywiaeth yn allweddol

Mae’r GBF yn ei gwneud yn ofynnol integreiddio bioamrywiaeth yn y broses benderfynu ar bob lefel.

Ymrwymodd Llywodraeth flaenorol Cymru i ymgorffori ymatebion i’r argyfyngau hinsawdd a natur ar draws y llywodraeth, a sefydlu Tasglu Bioamrywiaeth i hwyluso hyn. Fodd bynnag, cafwyd yn ystod gwaith craffu Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith nad oedd ystyriaethau bioamrywiaeth yn cael eu hymgorffori yn y broses benderfynu.

Mae adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo gwydnwch ecosystemau ym mhob un o’u swyddogaethau, a llunio adroddiad ar gydymffurfedd bob tair blynedd. Fodd bynnag, mae Archwilio Cymru wedi canfod bod gweithrediad y ddyletswydd hon i’w weld yn fratiog.

O ran Llywodraeth newydd Cymru, mae Deddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion roi ‘sylw arbennig’ i’r egwyddorion amgylcheddol wrth lunio polisi. Ar ben hynny, nod fframwaith targed bioamrywiaeth y Ddeddf yw sbarduno camau gweithredu trawslywodraethol a thraws-sector. Bydd rhanddeiliaid yn edrych i weld sut mae hyn yn datblygu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn datblygu Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur gyda’r bwriad o “sefydlu rhaglen weithredu traws-lywodraethol”.

Mae cyllid yn parhau i fod yn broblem sylfaenol

Mae rhanddeiliaid a llywodraethau fel ei gilydd yn cydnabod fwyfwy y bydd angen buddsoddi llawer mwy i adfer bioamrywiaeth, gan gynnwys oddi wrth y sector preifat.

Ymgynghorodd Llywodraeth flaenorol Cymru ar egwyddorion i ategu buddsoddiad cyfrifol wrth adfer natur. Fodd bynnag, clywodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith bryderon am gyflymder y gwaith hwn. Mae’r Gweinidog Cabinet newydd wedi ymrwymo i ymgynghori “yn ddiweddarach eleni” ar ddull gweithredu “i ddatgloi cyllid preifat cyfrifol i adfer tir a morluniau”.

Edrych tua’r dyfodol

Bydd COP17 yn darparu cefndir rhyngwladol ar gyfer craffu ar gynnydd domestig ar fioamrywiaeth. Er bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau pwysig i gysoni ei pholisi â’r GBF, mae tystiolaeth yn awgrymu bod cyflawni amcanion y fframwaith yn parhau i fod yn her sylweddol.


Erthygl gan Dr Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru