Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: Gwaith Craffu yn y Chweched Senedd

Cyhoeddwyd 09/06/2022   |   Amser darllen munudau

Am y tro cyntaf ers i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ddod i rym yn 2015, mae gan un o bwyllgorau'r Senedd gyfrifoldeb penodol dros graffu ar y gwaith o weithredu’r Ddeddf honno. Yn ddiweddar, aeth y pwyllgor cyfrifol, sef y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ati i gynnal ei sesiwn flynyddol gyntaf i graffu ar waith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Sophie Howe.

Gan ddefnyddio ymchwiliad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Bumed Senedd i’r Rhwystrau i weithredu’r Ddeddf ac adroddiad blynyddol diweddaraf y Comisiynydd fel man cychwyn, mae adroddiad y Pwyllgor yn tynnu sylw’r Senedd ehangach at faterion y dylai’r Aelodau eu trafod ymhellach wrth graffu ar Lywodraeth Cymru. Canfu bryderon ynghylch y "bwlch gweithredu" rhwng polisi a’r camau ymarferol a gymerir, y dirwedd lywodraethu gymhleth a chwestiynau ynghylch cyllid hirdymor, y mae'n rhaid mynd i'r afael â phob un ohonynt er mwyn gwireddu potensial llawn y Ddeddf.

Saith mlynedd yn ddiweddarach, mae'r "bwlch gweithredu" yn parhau

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi mynegi pryder ynghylch y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu'r Ddeddf:

…repeatedly, examples where we’re seeing decisions taken by the Welsh Government that are not entirely congruent with the spirit of the Act. So, some examples of very good practice, but it’s a large organisation with a vast array of policy responsibilities within it, and genuinely to get the whole of that machinery operating in a way that is internally joined up enough to make a reality of the Act, I think, is a huge challenge.

Mae’r “bwlch gweithredu” rhwng polisi a’r camau ymarferol a gymerir yn thema a godwyd dro ar ôl tro gan nifer o gyrff, gan gynnwys Pwyllgorau’r Senedd ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, wrth iddynt graffu ar y Ddeddf a’r Comisiynydd. Mae’r sefyllfa wedi gwella rhywfaint ac mae’r Comisiynydd wedi nodi’r newid amlwg o ran ymrwymiad gwleidyddol ac arweinyddiaeth. Fodd bynnag, daeth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i’r casgliad fod tirwedd lywodraethu gymhleth, ynghyd â chymhwysiad anghyson gan gyrff cyhoeddus a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ledled Cymru, yn golygu nad yw’r Ddeddf yn cael ei gwireddu i’w llawn botensial .

Canfu'r Pwyllgor hefyd fod angen gwneud mwy i wella'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu'r Ddeddf, ac i sicrhau cysondeb o ran polisi a chamau ymarferol. Mae 43 y cant o’r ceisiadau am gymorth a wneir gan gyrff cyhoeddus i swyddfa'r Comisiynydd yn dod o Lywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys cyngor ar ddatblygu polisi, deddfwriaeth a chymryd rhan mewn cyfarfodydd. Dywedodd y Pwyllgor fod angen lleihau’r ddibyniaeth hon, a bod angen i Lywodraeth Cymru ddyblu ei hymdrechion i ymgorffori gwybodaeth am y Ddeddf a dealltwriaeth ohoni ar draws y Gwasanaeth Sifil.

Y Comisiynydd yn defnyddio ei phwerau cryfaf

Mae'r Comisiynydd yn dechrau ar flwyddyn olaf ei chyfnod o saith mlynedd yn y swydd – mae wedi nodi hynny drwy arfer ei phwerau cryfaf i lansio Adolygiad Adran 20 i'r ffordd y mae peirianwaith Llywodraeth Cymru yn gweithredu'r Ddeddf. Dyma'r ail dro yn unig iddi ddefnyddio'r pwerau hyn; y tro cyntaf oedd pan aeth ati yn 2020 i adolygu arferion caffael naw corff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru.

Penderfynwyd ymgymryd â'r adolygiad diweddaraf ar sail ystod o dystiolaeth, gan gynnwys adroddiadau Cenedlaethau'r Dyfodol, Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yr oedd pob un ohonynt yn tynnu sylw at rwystrau a meysydd i'w gwella o ran y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu’r Ddeddf. Mae'r adolygiad yn cael ei arwain gan grŵp llywio, a'r bwriad yw cyflwyno adroddiad ym mis Tachwedd eleni. Bydd yn ystyried sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ei phrosesau, ei phobl a'i diwylliant, ac arweinyddiaeth y sector cyhoeddus, yn hyrwyddo ei hamcanion llesiant ac yn gweithredu'n unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy. Mae’r cylch gorchwyl yn amlinellu manylion pellach am yr adolygiad.

Cynnwys mwy o gyrff cyhoeddus

Yn ei adroddiad, argymhellodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y dylai Llywodraeth Cymru adolygu'r cyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf, yn rhannol er mwyn ystyried y cyrff newydd hynny a grëwyd ers i'r Ddeddf ddod i rym. Mae'r adolygiad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, a disgwylir iddo ddod i ben erbyn haf 2022. Er gwaethaf pryderon y Comisiynydd yn ystod y sesiwn graffu y gallai fod 74 o gyrff ychwanegol o fewn cwmpas yr adolygiad, roedd Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bydd llai na deg corff cyhoeddus ychwanegol yn ddarostyngedig i'r Ddeddf yn dilyn yr adolygiad.

Fodd bynnag, bydd hyd yn oed cynnwys 10 corff newydd yn arwain at ofynion adrodd, monitro ac archwilio ychwanegol a goblygiadau cysylltiedig o ran cyllid ac adnoddau, yn enwedig i'r Comisiynydd. Mae hyn yn codi cwestiynau ynghylch faint o gyllid a roddir i’r Comisiynydd, ac a yw'n ddigonol i gyflawni ei rôl.

Pryderon ynghylch cyllid y Comisiynydd

Cyn y gyllideb ddrafft y llynedd, gofynnodd y Comisiynydd am adnoddau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Gan esbonio ei safbwynt, dywedodd:

Os na chytunir ar y cynnydd hwn, bydd fy nghyllid sylfaenol yn golygu y bydd yn rhaid imi wrthod hyd yn oed mwy o geisiadau am gefnogaeth a chymorth a chwtogi bron yn gyfan gwbl ar y cyngor a roddaf ar bolisi wrth imi ganolbwyntio fy adnoddau cyfyngedig ar fy nyletswyddau craidd i hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn gyffredinol a monitro ac asesu i ba raddau y mae amcanion llesiant yn cael eu cyflawni.

Dywedodd wrth Lywodraeth Cymru, heb gyllid ychwanegol, y byddai’n rhaid iddi roi’r gorau i ddarparu cyngor a chymorth i gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, a fydd yn cael effaith hynod niweidiol ar weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Er i Lywodraeth Cymru wrthod cynyddu cyllideb y Comisiynydd, cytunodd i gynyddu dros dro lefel y cronfeydd ariannol wrth gefn y câi’r Comisiynydd eu cario drosodd i 2022-23. Ond mae cwestiynau o hyd am gyllid y Comisiynydd yn y tymor hwy, yn enwedig o'i gymharu â’r cyllid a roddir i Gomisiynwyr eraill. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd gynnal adolygiad i ystyried y mater yn fanylach.

Cymhlethu tirwedd sydd eisoes yn gymhleth

Roedd Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru roi’r gorau i “gymhlethu tirwedd sydd eisoes yn gymhleth”. Roedd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cytuno â hyn, a ddaeth i'r casgliad bod:

…tirwedd gymhleth a biwrocrataidd cyrff partneriaeth a llu o ofynion deddfwriaethol ac adrodd wedi’i gwneud yn fwy anodd i gyrff cyhoeddus fabwysiadu’r Ddeddf hon ac, ar brydiau, wedi peidio â’i chymell yn weithredol.

Mynegodd y Comisiynydd bryder yn benodol am sefydlu'r haen ddiweddaraf o lywodraethu, sef Cyd-bwyllgorau Corfforedig, a sut y bydd y rhain yn rhyngweithio â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ac eraill. Ategodd y Pwyllgor y farn hon, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o arweiniad ac eglurder ynghylch hyn.

Y camau nesaf

Mae'n amlwg bod cyflawni'r newid trawsnewidiol a ddaw yn sgil y Ddeddf yn her enfawr i gyrff cyhoeddus ledled Cymru, yn enwedig i Lywodraeth Cymru. Bydd rhaglen drylwyr a chyson yn y Senedd o graffu ar y Ddeddf a'r Comisiynydd yn allweddol wrth olrhain a yw’r drefn yn gwella o ran gweithredu, ac os felly, sut. Bydd angen i’r gwaith o drafod y Ddeddf fod yn ‘llinyn aur’, sy’n plethu drwy bob agwedd ar waith y Senedd, o ymchwiliadau polisi i graffu ar y gyllideb ddrafft a deddfwriaeth. Mae’r neges gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn glir:

Caiff rôl unigryw y Comisiynydd ei hedmygu a’i chydnabod fel yr un gyntaf yn y byd. Mae’n hanfodol felly ein bod ni yng Nghymru yn manteisio ar y gydnabyddiaeth ryngwladol hon ac yn manteisio i’r eithaf ar y rôl a’r swyddfa.

Bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor ar 15 Mehefin. Gallwch wylio'r ddadl yn fyw ar Senedd TV.


Erthygl gan Chloe Corbyn, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru