Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru: Pigion

Cyhoeddwyd 31/05/2024   |   Amser darllen munudau

Yr wythnos nesaf bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn dilyn ei sesiwn graffu flynyddol ddiweddaraf gyda Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru. Dyma rai o’r prif bwyntiau cyn y ddadl:

  • Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn gorff cynghori anstatudol annibynnol i Weinidogion Cymru. Ei brif ddiben yw gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar anghenion seilwaith hirdymor Cymru dros gyfnod o bum i 80 mlynedd.
  • Yn ystod ei sesiwn graffu flynyddol ddiweddaraf ym mis Ionawr, holodd y Pwyllgor Gadeirydd a Dirprwy Gadeirydd y Comisiwn ar faterion yn cynnwys ei gyllideb, annibyniaeth ac ymgysylltiad â’r cyhoedd. Roedd Aelodau hefyd yn craffu ar raglen waith y Comisiwn, yn enwedig ei waith ar ynni adnewyddadwy.
  • Cyhoeddodd y Comisiwn ei adroddiad mawr cyntaf, sef Paratoi Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy 2050, ym mis Hydref 2023. Gwnaeth nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar faterion a oedd yn cynnwys rheoliadau adeiladu, hawliau datblygu a ganiateir a mynediad i’r grid. Galwodd hefyd am ddatganoli swyddogaethau Ystad y Goron yng Nghymru ac am gyflwyno bil ynni adnewyddadwy yn y Senedd nesaf.
  • Ar adeg ysgrifennu, nid oedd ymateb Llywodraeth Cymru i’r Comisiwn wedi cael ei gyhoeddi ond mae Ymchwil y Senedd ar ddeall ei fod wedi cael gafael yr ymateb.
  • Mae adroddiad y Comisiwn – sef testun y ddadl yr wythnos nesaf – yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru a’r Comisiwn. Mae nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar adolygiad o’r Comisiwn a fydd yn cael ei gynnal eleni.
  • Mae’r Comisiwn a Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r adroddiad – cafodd pob un o argymhellion y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor.

Gallwch wylio’r ddadl yn fyw ar Senedd TV ddydd Mercher 5 Mehefin.


Pigion gan Francesca Howorth, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru