Mae amheuaeth gynyddol ymhlith dioddefwyr ledled Cymru a Lloegr na fydd y system cyfiawnder troseddol yn gallu rhoi cyfiawnder iddynt. Mae Arolwg Blynyddol Dioddefwyr 2024 — un o'r arolygon mwyaf a gynhaliwyd, sy'n casglu profiadau mwy na 6,500 o ddioddefwyr — yn nodi hyder isel yn nhegwch ac effeithiolrwydd y system. Fel y dywedodd Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr, y Farwnes Newlove, dylai'r canfyddiadau hyn beri pryder i bob un ohonom.
I Gymru, mae gostyngiad mewn hyder dioddefwyr yn codi cwestiynau ynghylch pa mor effeithiol yw'r system gyfiawnder a rennir a beth mae hyn yn ei olygu i ymddiriedaeth y cyhoedd a diogelwch cymunedol, yn enwedig lle mae'n rhaid i wasanaethau cyfiawnder datganoledig a rhai a reolir gan y DU gydweithio i gefnogi dioddefwyr.
Profiadau dioddefwyr: yr hyn y mae'r arolwg yn ei ddweud wrthym
Mae profiadau dioddefwyr yn ddangosydd gwerthfawr o ran sut mae'r system gyfiawnder yn gweithredu'n ymarferol. Er bod trafodaethau polisi yn aml yn canolbwyntio ar droseddwyr, sefydliadau neu ddiwygiadau strwythurol (fel yr adlewyrchir yn ein cyfres cyfiawnder troseddol), mae sylwadau dioddefwyr yn tynnu sylw at lle nad yw prosesau'n gweithio fel y bwriadwyd o bosibl.
Mae canfyddiadau Arolwg Blynyddol Dioddefwyr 2024 yn tynnu sylw at bryderon ynghylch oedi, cyfathrebu, a chysondeb:
- Hyder mewn canlyniadau: Roedd 42% o’r ymatebwyr yn credu y byddent yn cael cyfiawnder pe byddent yn rhoi gwybod am drosedd, ac roedd 46% yn ystyried y system cyfiawnder troseddol yn effeithiol.
- Hyder mewn erlyn: mynegodd tua hanner yr ymatebwyr hyder isel y byddai Gwasanaeth Erlyn y Goron yn erlyn yn effeithiol, gyda rhai yn nodi eu bod yn teimlo nad oeddent yn cael eu credu neu’n cael eu diystyru.
- Oedi a thrallod: Roedd ôl-groniadau Llys y Goron, gyda rhai treialon wedi'u rhestru mor bell â 2029, yn gysylltiedig â thrallod ac achosion o dynnu yn ôl o achosion.
- Hyder anghyson: roedd yr hyder isaf ymhlith grwpiau sy'n fwy tebygol o fod yn ddioddefwyr, gan gynnwys menywod, pobl anabl ac unigolion LHDTC+.
Ffigur 1: Cyfran yr ymatebwyr a oedd yn hyderus neu ddim yn hyderus gydag amryw agweddau ar y system cyfiawnder troseddol
Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol Dioddefwyr 2024
Ymhellach, mewn ymchwil a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd Dioddefwyr ym mis Mawrth 2025, nodwyd bod cyfathrebu gwael ac oedi hir yn rhwystrau rhag cyfranogi. Daeth yr adroddiad i’r casgliad y gallai amseroedd aros hir effeithio ar lesiant dioddefwyr ac ansawdd tystiolaeth, tra hefyd yn cynyddu’r pwysau ar wasanaethau cymorth i ddioddefwyr. Cafwyd adroddiadau gan staff cyfiawnder a dioddefwyr o ymddieithrio, heriau o ran capasiti a gostyngiad mewn hyder yng ngallu'r system i ddarparu cyfiawnder amserol.
Deall hawliau: yr addewid a'r arferion
Yn 2004, cyflwynwyd y Cod Dioddefwyr yn y DU o dan Adran 32 o Ddeddf Trais Domestig, Trosedd a Dioddefwyr 2004. Daeth y fersiwn gychwynnol i rym yn 2005. Ers ei gyflwyno, mae'r Cod wedi mynd drwy sawl diweddariad ac fe'i diwygiwyd ddiwethaf ym mis Ionawr 2025.
Mae'r Cod yn amlinellu’r gefnogaeth y dylai dioddefwyr yng Nghymru a Lloegr ei chael. Mae hyn yn cynnwys diweddariadau clir am eu hachos, cymorth i gael mynediad at wasanaethau cymorth, a chyfle i esbonio sut mae'r drosedd wedi effeithio arnynt drwy wneud Datganiad Personol Dioddefwr – gweler ‘Crynodeb o Hawliau Dioddefwyr’.
Fodd bynnag, mae tystiolaeth o'r Arolwg Dioddefwyr yn dangos bod ymwybyddiaeth o'r hawliau hyn yn parhau i fod yn gyson isel. Yn arolwg 2024, dim ond 19% o'r ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi clywed am y Cod Dioddefwyr. Yn 2023, roedd llai na dwy ran o dair (60%) o ddioddefwyr yn cofio cael cynnig cyfle i wneud Datganiad Personol Dioddefwr pan oedd achosion wedi mynd i'r llys.
Nododd y Comisiynydd fod asiantaethau yn rhy aml yn methu â chynnal hawliau dioddefwyr. Nododd llawer o ddioddefwyr nad oeddent yn cael gwybod am benderfyniadau cyhuddo, dyddiadau llys, na chanlyniadau.
Newidiadau deddfwriaethol: cryfhau hawliau dioddefwyr
Mae’r Bil Dioddefwyr a’r Llysoedd, sy’n mynd drwy Senedd y DU ar hyn o bryd, yn cynnig cryfhau dyletswyddau statudol ar gyfer y Comisiynydd Dioddefwyr, gan gynnwys cyflwyno adroddiad blynyddol ar gydymffurfiaeth a chydweithrediad gwell gan asiantaethau. Mae'r cynigion hyn yn canolbwyntio ar wella’r gwaith o ddiogelu hawliau dioddefwyr a sicrhau bod y Cod Dioddefwyr yn cael ei gymhwyso'n gyson yn ymarferol.
Mae hyn yn adeiladu ar y dyletswyddau cyfreithiol presennol ar asiantaethau i hyrwyddo hawliau dioddefwyr a monitro cydymffurfiaeth â'r Cod o dan Ddeddf Dioddefwyr a Charcharorion 2024. Yn ddiweddar, dywedodd Llywodraeth Cymru wrth Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ei bod yn gefnogol ar y cyfan i ddarpariaethau'r Ddeddf i wella gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr. Mae hefyd yn ystyried ei ymateb i ganllawiau statudol y DU a gyhoeddwyd o dan adran 16 o'r Ddeddf, sy'n nodi disgwyliadau ar gyfer rolau cymorth penodol i ddioddefwyr.
Cymru: materion allweddol sy'n wynebu dioddefwyr
Mae’r dystiolaeth yn dangos patrwm cyson: o arosiadau hir, hyder ac ymddiriedaeth isel, pwysau ar wasanaethau, a chanlyniadau anghyson. Mae ôl-groniad Llys y Goron yn cael effeithiau arbennig o ddifrifol - gall dioddefwyr aros blynyddoedd ac wynebu gohiriadau hwyr, gan ymestyn trawma a chynyddu cyfraddau tynnu’n ôl, yn enwedig mewn achosion o gam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae cyfraddau cyhuddo isel, yn enwedig mewn troseddau rhywiol, hefyd yn lleihau hyder y bydd adrodd yn arwain at gyfiawnder. Ymhellach, lle mae dioddefwyr yn teimlo nad yw hawliau'n cael eu gorfodi, mae llwybrau cwynion presennol yn aml yn cael eu hystyried yn gymhleth neu’n aneffeithiol.
Yng Nghymru, mae'r effeithiau hyn yn cael eu cynyddu gan gyllid dameidiog. Mae gwasanaethau'n dibynnu ar gymysgedd o gyllid gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, a Llywodraeth Cymru.
Mae Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu wedi adrodd y gall trefniadau comisiynu anghyson niweidio dioddefwyr a chreu ansicrwydd i ddarparwyr. Mae elusennau arbenigol yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy'n cefnogi goroeswyr trais a cham-drin domestig, yn rhybuddio bod pwysau ariannu a chostau cynyddol yn creu risg o ostyngiadau mewn gwasanaethau, gan wneud ymgysylltu ac adferiad yn anoddach i ddioddefwyr.
Ymhellach, cyhoeddodd Llywodraeth y DU yn ei Phapur Gwyn ar Ddiwygio'r Heddlu y bydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn cael eu diddymu ar ddiwedd y cylch etholiadol nesaf yn 2028, newid a allai gael goblygiadau ar gyfer sut y bydd gwasanaethau i ddioddefwyr, sy’n cael eu comisiynu gan y Comisiynwyr ar hyn o bryd, yn cael eu darparu yn y dyfodol. Mae’r Canllawiau ar Gomisiynu Gwasanaethau i Ddioddefwyr yn rhoi fframwaith cenedlaethol i helpu Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i gomisiynu gwasanaethau cymorth effeithiol i ddioddefwyr, gan gynnwys cymorth troseddau casineb, cynlluniau dargyfeirio sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol troseddu, a darpariaeth arbenigol megis cymorth mewn llety diogel a Chanolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol.
Beth fyddai’n ailennyn hyder?
Mae Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn dweud bod ailennyn hyder yn gofyn am newidiadau gweladwy ac ymarferol: cyfathrebu clir a rheolaidd, cynnydd amserol ar achosion, mynediad dibynadwy at gymorth, a sicrhau bod hawliau’n cael eu diogelu’n gyson.
Yr her ganolog yw sicrhau bod ymrwymiadau deddfwriaethol yn cael eu troi’n arferion pob dydd fel bod dioddefwyr yn cael eu trin ag urddas ac yn teimlo bod y system yn ymatebol.
Yn y pen draw, mae mynd i'r afael â'r materion systemig hyn yn bwysig nid yn unig i ddioddefwyr, ond i iechyd a hygrededd y system gyfiawnder ac i ymddiriedaeth y cyhoedd yng Nghymru. Pan fydd dioddefwyr yn colli hyder, mae'r effeithiau'n ymestyn y tu hwnt i achosion unigol, gan lywio canfyddiadau cymunedol o ddiogelwch, tegwch a hygrededd sefydliadau cyfiawnder.
|
Mae’r erthygl hon yn rhan o gyfres sy’n archwilio agweddau allweddol ar gyfiawnder troseddol yng Nghymru, o’r setliad datganoli presennol a gweithio rhynglywodraethol, i brawf, polisi cyfiawnder ieuenctid, a phlismona. |
Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Ôl-groniad Llys y Goron: Argyfwng Lloegr neu broblem rhannu awdurdodaeth?