Gallai pleidleiswyr cymwys yng Nghymru gael eu hychwanegu at y gofrestr etholiadol yn awtomatig yn fuan.
Ar 3 Tachwedd 2026, gofynnir i'r Senedd gymeradwyo rheoliadau i gyflwyno cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig (AVR) ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol. Caiff hyn ei gyflwyno cyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2027. Gallwch wylio’r ddadl yn fyw ar Senedd TV.
Mae'r rheoliadau yn dilyn cynlluniau peilot a grëwyd gan Lywodraeth Cymru mewn pedwar awdurdod lleol. Mae'r erthygl hon yn egluro beth yw cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, yn nodi canfyddiadau sy’n deillio o’r cynlluniau peilot, ac yn ystyried y cynigion o ran ei gyflwyno.
Cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig ar waith
O ganlyniad i gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig nid oes rhaid i bleidleiswyr eu cofrestru eu hunain mwyach i fod yn gymwys i bleidleisio, fel sy'n wir o dan y system bresennol.
Bydd gofyn i Swyddogion Cofrestru Etholiadol (EROs) ddefnyddio dull paru data i nodi pleidleiswyr cymwys posibl. Mae enghreifftiau o 'baru data' yn cynnwys enw, dyddiad geni, cyfeiriad, a rhifau cyfeirnod eiddo. Gallai ffynonellau data gynnwys, er enghraifft, rhestrau treth gyngor, rhestrau cymdeithasau tai, data addysg, a data gwasanaethau llyfrgell.
Pan fo Swyddog Cofrestru Etholiadol yn fodlon y gellir dilysu pleidleisiwr posibl gan ddefnyddio data o ddwy ffynhonnell ar wahân, bydd yn ofynnol iddynt hysbysu'r unigolyn ac yna ei ychwanegu at y gofrestr. Pan fydd Swyddog Cofrestru Etholiadol wedi nodi pleidleisiwr posibl drwy ddata addysg, ystyrir bod y ffynhonnell hon ar ei phen ei hun yn ddigon cadarn i fwrw ymlaen.
Gall unigolyn optio allan o gofrestru, gofyn am gael cofrestru’n ddienw, neu ddatgan nad yw'n credu ei fod yn gymwys i gael ei gofrestru.
Pan na all Swyddog Cofrestru Etholiadol nodi person drwy'r broses paru data yn sicr, ond ei fod yn credu ei fod wedi dod o hyd i unigolyn cymwys heb ei gofrestru, dylai wahodd y person hwnnw i’w gofrestru ei hun drwy'r broses bresennol.
Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd y newid i gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yn cynyddu cywirdeb a chyflawnrwydd y gofrestr etholiadol, ac yn dileu rhwystrau i bleidleisio.
I gael rhagor o wybodaeth am y system gofrestru gyfredol a chofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, gweler ein herthygl gynharach.
Rhaid aros i weld beth yw canlyniadau’r cynlluniau peilot
Yn 2025, cynhaliwyd cynlluniau peilot ar gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yn Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Casnewydd a Phowys, ble y nodwyd pleidleiswyr posibl gan ddefnyddio paru data. Roedd ganddyn nhw 60 diwrnod i optio allan o gofrestru awtomatig.
Cyhoeddodd y Comisiwn Etholiadol werthusiad o'r cynlluniau peilot. Nododd fod y cynlluniau peilot wedi ychwanegu “ychydig dros 14,500 o etholwyr newydd at y cofrestrau etholiadol”, yn ogystal â 1,500 o ‘gyrhaeddwyr’ (sef pobl ifanc 14 a 15 mlwydd oed sy’n gymwys i gofrestru.
Daeth y Comisiwn i’r casgliad y “gellid cyflwyno cofrestru awtomatig yng Nghymru a gallai gael effaith gadarnhaol ar gyflawnder cofrestrau etholiadol”. Fe wnaeth, fodd bynnag, nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y dylai wneud y canlynol:
- Asesu costau cyffredinol rhoi’r cynllun ar waith ynghyd â’r manteision tebygol;
- Ystyried yr amseru a’r amlder gorau ar gyfer proses gofrestru yn awtomatig;
- Ystyried lleihau’r cyfnod hysbysu am optio allan, o 60 diwrnod;
- Ystyried beth yw’r ffordd orau i roi'r math o gofrestru awtomatig a gyflwynwyd yng Nghymru ar waith er mwyn caniatáu integreiddio effeithlon yn y dyfodol ag unrhyw system ledled y DU.
Rheoliadau ar gofrestru
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod rheoliadau drafft i gyflwyno cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig ledled Cymru gerbron y Senedd.
Byddai'r rheoliadau hyn yn cyflwyno system gofrestru debyg i'r un a dreialwyd, gyda rhai gwelliannau o ganlyniad i argymhellion y Comisiwn Etholiadol, gan gynnwys:
- Byddai'r cyfnod hysbysu am ‘optio allan’ o 60 diwrnod yn cael ei leihau i 28 diwrnod; a hefyd
- Byddai'n ofynnol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol gynnal ymarfer corfrestru pleidleiswyr yn awtomatig o leiaf unwaith mewn blwyddyn galendr, yn hytrach na hyd at bedair gwaith.
Darparodd Llywodraeth Cymru amcangyfrifon cost wedi'u diweddaru ar gyfer cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yn yr asesiad effaith rheoleiddiol o’r rheoliadau drafft. Mae'n amcangyfrif y byddai cyfanswm y costau gweithredu ar gyfer 2026-27 yn £4.4 miliwn, sef cynnydd o dros £1.8 miliwn o gymharu â’r costau a amcangyfrifwyd gyntaf fel rhan o’r asesiad effaith rheoleiddiol sef £2.6 miliwn.
Cyn cyflwyno cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, roedd Llywodraeth Cymru o dan ddyletswydd i ddileu'r gofyn i Swyddogion Cofrestru Etholiadol baratoi a darparu cofrestrau golygedig (neu agored) o etholwyr llywodraeth leol. Cafodd y ddyletswydd ei gweithredu drwy reoliadau, a daeth i rym ar 1 Hydref 2026. Roedd y gofrestr olygedig ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd a'i phrynu. Gallai pleidleiswyr ddewis peidio ag ymddangos yn y gofrestr hon.
Mae'r gofrestr lawn ar gael o hyd, ond mae mynediad ati wedi'i gyfyngu at ddibenion penodol, fel gweinyddu etholiadau a galw rheithgor. Mae'r gofrestr lawn yn cynnwys manylion pawb nad ydynt wedi’u cofrestru yn ddienw.
Gwaith craffu yn y Senedd
Mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 yn rhoi'r opsiwn i'r Senedd graffu yn fanylach ar reoliadau diwygio etholiadol.
Dewisodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio ddefnyddio y weithdrefn well hon, a chynhaliodd sesiynau tystiolaeth ar y rheoliadau ar gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Yn ei sesiynau gyda rhanddeiliaid, clywodd y Pwyllgor bryderon ynghylch y cynnig i gyflwyno cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, gan gynnwys materion yn ymwneud ag:
- A yw'r cyfnod hysbysu am optio allan o 28 diwrnod yn ddigon hir, yn enwedig i bobl agored i niwed, fel goroeswyr cam-drin domestig, a allai fod eisiau peidio â chael eu cofrestru, neu gofrestru'n ddienw;
- Ansawdd y data sydd ar gael i awdurdodau lleol i nodi pleidleiswyr cymwys posibl;
- Ansicrwydd ynghylch costau parhaus cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig y tu hwnt i'r gweithredu cychwynnol; ac
- A yw'n bosibl cyflwyno cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig cyn yr etholiadau llywodraeth leol yn 2027.
Dywedodd Sian Gwenllian AS, y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio y byddai’r symud i gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig yn cyflwyno “cam hollbwysig ... i ehangu ein democratiaeth ni”, ond cydnabu’r amserlen “uchelgeisiol” cyn etholiadau lleol 2027.
Yn eu hadroddiad dilynol, argymhellodd y mwyafrif o Aelodau’r Pwyllgor y dylai’r Senedd dderbyn y rheoliadau heb unrhyw ddiwygiad sylweddol. Galwodd y Pwyllgor hefyd am yr hyn a ganlyn:
- Gwerthusiad rheolaidd o gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig;
- Llywodraeth Cymru i weithio gyda grwpiau sy'n cynrychioli pobl agored i niwed i godi ymwybyddiaeth o'r newidiadau; a
- Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch cael mynediad at ffynonellau data’r DU.
A yw Cymru yn arwain y ffordd?
Os bydd y Senedd yn pleidleisio i gymeradwyo'r rheoliadau ar 3 Tachwedd 2026, Cymru fydd y genedl gyntaf yn y DU i gyflwyno cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig. Mae Llywodraeth y DU, fodd bynnag, wedi nodi o'r blaen ei bod am wneud yr un peth. Mae papur polisi yn dweud am nod:
…to transform our registration practices, harnessing public sector data and moving towards an automated system so electors can easily and simply be correctly registered to vote.
Mae'n debyg y caiff camau cyntaf hwn eu cyflwyno gan Fil Cynrychiolaeth y Bobl 2026, os daw yn gyfraith. Mae'r Bil yn darparu ar gyfer cynlluniau peilot cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig i gael eu cynnal ar gyfer etholwyr Senedd y DU ac ar gyfer etholwyr llywodraeth leol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar ei chynlluniau, ac yn ceisio “lleihau unrhyw wahaniaethau lle bynnag y bo modd”.
Os bydd y Senedd yn cymeradwyo'r rheoliadau, etholiadau llywodraeth leol y flwyddyn nesaf fydd y cyfle cyntaf i weld sut y gallai cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig wneud pleidleisio'n haws a chynyddu cyfranogiad.
Erthygl gan Adam Cooke, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru