“Mae Cymru’n wlad sy’n cael ei hamddiffyn yn gryf iawn gan fynyddoedd uchel, dyffrynnoedd dyfnion, coedwigoedd helaeth, afonydd a chorsydd.”
Mae'n anodd dychmygu bod coed yn gorchuddio Prydain gyfan ar un adeg. Hyd yn oed ym 1194, pan wnaeth yr hanesydd a'r awdur Gerallt Gymro ysgrifennu’r geiriau uchod wrth deithio, roedd y rhan fwyaf o'r coed gwyllt hynafol eisoes wedi diflannu yn sgil yr anghenion dynol am bren, coed tân a thir fferm.
Heddiw, dim ond tua 15% o Gymru sy'n goetir. Nod cynlluniau diweddar gan Lywodraeth Cymru i greu Coedwig Genedlaethol “ar hyd a lled Cymru” yw adfer rhannau o’r hyn a fu unwaith yn dominyddu tirwedd Prydain.
Beth yw'r Goedwig Genedlaethol?
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn ecosystem gysylltiedig o goetiroedd hynafol a newydd. Cafodd ei chynnig yn y lle cyntaf gan Mark Drakeford – sydd bellach yn Brif Weinidog – yn ei faniffesto ar gyfer arweinyddiaeth ei blaid yn 2018. Mae cwmpas ac uchelgais creu’r Goedwig Genedlaethol yn cyfateb i Lwybr Arfordir Cymru, lle byddai'r coetiroedd presennol yn cael eu gwella er mwyn bodloni safonau coedwigaeth y DU, ond byddai coed newydd yn cael eu plannu hefyd. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cydweithio â chymunedau, ffermwyr, coedwigwyr, cyrff cyhoeddus ac eraill. Dywedodd y Prif Weinidog yn 2020:
“Mae coed yn gwella ansawdd aer; yn tynnu nwyon tŷ gwydr niweidiol o'r atmosffer; yn darparu deunyddiau naturiol ar gyfer adeiladu; yn adfer pridd ar gyfer tyfu bwyd; yn glanhau'r dŵr yn ein hafonydd; ac yn darparu cartrefi ar gyfer yr holl greaduriaid byw sy'n cysgodi yn eu canopi.”
Hyd yn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi 14 o goetiroedd presennol fel Coedwig Genedlaethol, ym mis Tachwedd 2020. Fodd bynnag, nid oes darlun manwl o ble mae'r Goedwig Genedlaethol yn mynd i fod, na sut olwg fydd arni, wedi'i gyhoeddi eto.
Targedau o ran coetiroedd
Mae lefelau gwirioneddol o blannu coetiroedd yn parhau i fod yn is na thargedau Llywodraeth Cymru. Yn 2017, daeth Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Senedd i'r casgliad canlynol yn ei adroddiad ar bolisïau coedwigaeth a choetiroedd yng Nghymru:
“mae bwlch enfawr rhwng dyhead a realiti, ac mae angen newid sylfaenol wrth ymdrin â chreu coetiroedd yng Nghymru. […] Rhaid i Lywodraeth Cymru arwain drwy esiampl a chynyddu coedwigo ar dir cyhoeddus.”
Yn 2018, y targed a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer plannu coetiroedd yn ei Strategaeth Coetiroedd i Gymru oedd 2,000 hectar y flwyddyn. Ailbwysleisiodd y Cynllun Cyflenwi Carbon Isel (2019) y targed hwn, a chynnig y dylid ei gynyddu i 4,000 hectar y flwyddyn “cyn gynted ag y bo modd”. Mae cymharu hynny â ffigurau diweddar (plannwyd 80 hectar yn y flwyddyn hyd at 31.03.2020) yn dangos cwmpas yr her hon.
Ffynhonnell: Forest Research, Woodland Statistics
Cyllid ar gyfer coed
Gwnaeth Llywodraeth Cymru ddyrannu £5m yn 2020-21 i'r Goedwig Genedlaethol. Mae rhannau o hynny wedi'u neilltuo ar gyfer Coetiroedd Cymunedol – sy’n gynllun grant cyfalaf gan Gynllun Treftadaeth y Loteri Genedlaethol – sy'n darparu £2.1m i brosiectau coetiroedd cymunedol. Mae cyllid pellach ar gyfer coetiroedd ar gael trwy Glastir, sef cynllun rheoli tir cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Mae'n darparu cyllid i ffermwyr a rheolwyr tir ar gyfer creu coetiroedd (£17m yn 2020) a’u hadfer (£2.1m yn 2020).
Buddiannau Coedwig Genedlaethol
Dywedir bod buddiannau posibl, neu wasanaethau ecosystem coetiroedd yn aruthrol, ac o ganlyniad mae yna lawer o resymau dros gael Coedwig Genedlaethol. Mae coetiroedd yn ddalfa garbon sylweddol, ac maen nhw’n gallu helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae nhw’n cefnogi bioamrywiaeth ac yn cynnig cynefin cyfoethog ac amrywiol ar gyfer planhigion ac anifeiliaid sydd mewn perygl yng Nghymru, er enghraifft gwiwerod coch neu glychlysau. Mae coetiroedd yn lefydd agored ar gyfer gweithgareddau hamdden ac ymarfer corff, a gellir dadlau eu bod wedi dod yn bwysicach fyth i'n lles meddyliol yn ystod pandemig y Coronafeirws. At hynny, mae coetiroedd yn adnodd economaidd ac yn darparu pren a choed tân.
Yn seiliedig ar: Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol, Gwasanaethau ecosystem
Buddiannau cystadleuol
Mae rhai o'r buddiannau hyn yn cystadlu, a gallai fod yn anodd dod o hyd i'r cydbwysedd cywir. Mae'r Adolygiad Tystiolaeth o ran Coedwig Genedlaethol yng Nghymru yn tynnu sylw at y ffaith y byddai cynyddu un amcan yn arwain yn anochel at gyfnewid a chyfaddawdu, fyddai’n effeithio ar y buddiannau eraill. Mae'r amcan a ddewisir hefyd yn penderfynu pa ddulliau rheoli a rhywogaethau coed sy'n cael eu mabwysiadu. Mae Cynllun Creu Coetir Glastir yn gwahaniaethu rhwng coetiroedd at ddibenion dal a storio carbon a choetiroedd ar gyfer bioamrywiaeth.
Newid hinsawdd
Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn argymell mwy o blannu coed fel cam allweddol tuag at darged allyriadau nwy tŷ gwydr sy’n sero net. Wrth i'r coed dyfu, mae carbon yn cael ei gymryd o’r aer a’i storio ar ffurf biomas. Fodd bynnag, mae yna oedi tyngedfennol rhwng plannu coeden, a'r cyfnod pan fydd y goeden yn tyfu ac yn amsugno’r mwyaf o garbon. Mae angen ystyried hynny wrth geisio mynd i'r afael â thargedau allyriadau tymor byr. Mae gan goetiroedd sydd wedi'u creu i wneud y gorau o gynhyrchu biomas a chael gwared ar garbon deuocsid yn yr hirdymor (dal a storio carbon) ddwysedd uwch o ran coed. Maen nhw’n defnyddio rhywogaethau sy'n tyfu'n gyflym, er enghraifft conwydd, a dylid eu cynaeafu ar ôl iddyn nhw dyfu i’r eithaf.
Bioamrywiaeth
Bioamrywiaeth yw'r amrywiaeth o wahanol rywogaethau sydd i’w cael mewn ecosystem. Mae bioamrywiaeth yn buddio’n fawr o gynefinoedd digyffro a phren marw, a gall amrywiaeth o rywogaethau brodorol yn eu tro gefnogi amrywiaeth pellach mewn ecosystemau. Mae’r Adolygiad Tystiolaeth o ran Coedwig Genedlaethol yng Nghymru yn dod i’r casgliad y gallai'r buddiannau ar gyfer bioamrywiaeth fod ar eu huchaf pan fydd ansawdd coetiroedd yn cael ei wella, yn hytrach gwella maint y coetiroedd. Gellir colli bioamrywiaeth hyd yn oed, os yw coetiroedd yn cael eu hehangu i gynefinoedd eraill. Mae RSPB Cymru wedi rhybuddio yn erbyn plannu coed ar gynefinoedd mawndir, gan ddweud y gallai hyn nid yn unig amharu ar ecosystemau prin, ond allyrru carbon sydd wedi'i storio yn ogystal. Mae'n cefnogi egwyddor o osod ‘y goeden iawn yn y lle iawn' – paru rhywogaethau coed ag amodau safleoedd presennol, ac yn y dyfodol. Wrth reoli coetiroedd, dylid ystyried y newid yn yr hinsawdd a'r risg o danau gwyllt a phlâu coed.
Coedwigaeth
Mae’r galw am bren yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael ei ddiwallu gan fewnforion yn bennaf. Mae Llywodraeth Cymru eisiau hyrwyddo'r defnydd o bren mewn gwaith adeiladu, i leihau allyriadau carbon sy'n deillio o ddur neu goncrit. At hynny, mae diddordeb cynyddol mewn deunydd lleol.
Mae Confor – sef cymdeithas fasnach y DU ar gyfer y diwydiant coedwigaeth – yn croesawu Coedwig Genedlaethol fel newid byd i goedwigaeth ac yn ei gweld yn ysgogi twf economaidd gwledig, a chreu swyddi. At hynny, byddai’n galluogi ffermwyr – fel y tirfeddianwyr sylweddol – i ddatblygu ffrydiau refeniw amgen.
Yn ôl NFU Cymru, byddai ffermwyr yn awyddus i blannu coed ar eu ffermydd, i ddarparu aer glân a hwyluso’r broses o ddal a storio carbon, pe bai cefnogaeth briodol ar gael. Fodd bynnag, mae gan yr Undeb bryderon am faint coedwigo yng Nghymru ac yn ofni ei fod yn gosod beichiau anghyfartal ar ffermio a chymunedau gwledig. Mae Undeb Ffermwyr Cymru yn mynegi ei barn mai amaethyddiaeth yw asgwrn cefn ardaloedd gwledig, ac y byddai plannu coed ar raddfa fawr yn cael effaith ddinistriol.
Hamdden
Gall cadwraeth natur a buddiannau economaidd fel ei gilydd gystadlu â thwristiaeth a hamdden. Mae angen seilwaith, llwybrau a meysydd parcio ar ymwelwyr, mae angen lleoedd arnynt i orffwys, toiledau cyhoeddus a lletygarwch. Ar yr un pryd, mae tystiolaeth yn awgrymu bod yn well gan ymwelwyr “naturioldeb” canfyddedig ac efallai na fyddant yn hoff o blanhigfeydd masnachol, torri coed neu weithgareddau rheoli coetir eraill.
Beth nesaf?
Gallai Coedwig Genedlaethol sydd wedi'i dylunio'n dda, ei lleoli'n briodol a'i rheoli'n gywir gynnig buddiannau enfawr, ac mae sefydliadau amgylcheddol a rhanddeiliaid eraill yn cytuno, ar y cyfan, â hynny. Byddant yn aros i gael manylion pellach ar gwmpas a dibenion y Goedwig Genedlaethol gan Lywodraeth Cymru, gyda diddordeb. Yn y pen draw, bydd llwyddiant Coedwig Genedlaethol yn cael ei fesur yn erbyn pa mor dda y mae buddiannau cystadleuol yn cael eu cydbwyso, ac i ba raddau y mae targedau ac amcanion yn cael eu cyflawni.
Erthygl gan Matthias Noebels, Gwasanaeth Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.
Mae Gwasanaeth Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Matthias Noebels gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, a’i gwnaeth yn bosibl cwblhau’r Erthygl hon.