Codi ffi ar ddefnyddwyr ffyrdd: cynnig Caerdydd a chynlluniau mewn mannau eraill

Cyhoeddwyd 11/02/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd (a gyhoeddwyd ar 15 Ionawr) yn amlinellu ei weledigaeth ar gyfer trafnidiaeth yn y ddinas hyd at 2030. Mae'n cynnig cyflwyno “cynllun codi ffi ar ddefnyddwyr ffyrdd”, y cyfeirir ato'n aml fel “ffi tagfeydd”, yn 2024. Dyma'r cynnig cyntaf o'r fath yng Nghymru, ond ceir cynsail mewn rhannau eraill o'r DU ac Ewrop.

Mae'r cynlluniau wedi sbarduno dadl ynghylch pwy ddylai dalu'r ffi a sut y dylid defnyddio'r refeniw o'r cynllun.

Beth yw’r cynnig?

Mae'r Papur Gwyn yn cynnig codi ffi dyddiol o £2 ar gerbydau sy'n dod i mewn i'r ddinas. Yn yr opsiwn a ffefrir gan y Cyngor, byddai preswylwyr Caerdydd yn cael eu heithrio rhag talu’r ffi a byddai'r refeniw a godir yn cael ei wario ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r ffi yn rhan o strategaeth drafnidiaeth ehangach y Cyngor, sy'n cynnwys datblygu Metro De Cymru, gwelliannau i'r gwasanaeth bysiau a hyrwyddo teithio llesol.

Mae bron i 100,000 o bobl yn cymudo i Gaerdydd i weithio bob dydd. Mae'r Papur Gwyn yn awgrymu bod 80,000 o'r siwrneiau hyn yn cael eu gwneud mewn car a bod 100,000 o drigolion eraill Caerdydd hefyd yn cymudo mewn car bob dydd. Mae dros hanner amseroedd teithio mewn car yn ystod y cyfnodau prysuraf yn cael eu treulio mewn tagfeydd. Dangosodd Arolwg Trafnidiaeth Caerdydd 2017 mai “llai o dagfeydd” oedd y gwelliant i drafnidiaeth yr oedd y mwyafrif o’r ymatebwyr (64.1%) eisiau ei weld.

Mae gan y ddinas hefyd beth o'r llygredd aer gwaethaf yn y DU, gyda lefelau uwch o ddeunydd gronynnol na Manceinion a Birmingham. Yn 2019, lansiodd Llywodraeth Cymru ei chynllun cyflenwi 'Cymru Carbon Isel', gyda'r nod o annog pobl i ddibynnu’n llai ar geir.

Mae Deddf Trafnidiaeth 2000 yn nodi'r broses ar gyfer cyflwyno cynlluniau codi ffi i ddefnyddio ffyrdd. Ymhlith y gofynion, mae'n nodi bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gydsynio i unrhyw gynllun newydd sy’n codi ffi ar ddefnyddwyr ffyrdd. Mae hefyd yn caniatáu Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau yn ymwneud â ffioedd, megis pennu eithriadau.

Sut ymateb a gafodd hyn?

Ysgrifennodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates AC, at Arweinydd Cyngor Caerdydd mewn ymateb i'r Papur Gwyn. Croesawodd uchelgais y cynlluniau ar y cyfan, ond nododd y bydd Llywodraeth Cymru yn comisiynu astudiaeth i “ddulliau o reoli’r galw”, gan gynnwys eu heffaith ranbarthol ehangach.

Roedd Cyfeillion y Ddaear Cymru a Sustrans yn cefnogi'r cynigion i godi ffi ar ddefnyddwyr ffyrdd. Fodd bynnag, ceir adroddiadau bod Adrian Field, o Caerdydd AM BYTH, wedi dweud ei fod yn croesawu sylwadau’r Cynghorydd Wild nad codi ffi yw’r unig opsiwn i godi arian, ac y byddant yn ystyried opsiynau eraill mewn unrhyw achos busnes.

Codwyd y cynigion yng Nghwestiynau'r Prif Weinidog ar 21 a 28 Ionawr. Ailadroddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, gynnwys y llythyr at Arweinydd y Cyngor ac ychwanegodd, “mae yna gyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i wyntyllu’r cynigion hyn mewn cyd-destun rhanbarthol.”

Mae Aelodau'r Cynulliad sy'n cynrychioli etholaethau o fewn y rhanbarth wedi mynegi pryderon am y ffi. Gan gyfeirio at gynllun y Cyngor, dywedodd Alun Davies AC: “Bydd nifer ohonom yn cefnogi eu huchelgeisiau, ond ni fydd llawer ohonom yn goddef treth ar y Cymoedd i dalu’r am yr uchelgais honno”. Cododd Vikki Howells AC yr effaith y bydd y ffi yn ei chael ar gymunedau ‘lle nad yw trafnidiaeth gyhoeddus, ar hyn o bryd, yn effeithiol wrth ddod â phobl i’r ddinas’.

Ar 22 Ionawr, esboniodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters AC fod rhesymau ymarferol yn sail i benderfyniad y cyngor i godi ffi dim ond ar bobl nad ydynt yn breswylwyr:

“…gan fod y pwyntiau mynediad i'r ddinas yn llai niferus, a gallwch osod y seilwaith i nodi rhifau ceir, ond pe baech yn ei gymhwyso i holl drigolion Caerdydd, byddai angen camerâu ym mhob rhan o'r ddinas a bydd hynny'n anodd ac yn ddrud i'w wneud.”

Yng nghyfarfod Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad ar 29 Ionawr, holodd Hefin David AC Brif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru (TfW), y corff sy'n gyfrifol am wasanaethau Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau, ynghylch p’un a oedd Cyngor Caerdydd wedi ymgynghori â TrC ar y cynnig i godi ffi. Daeth yr Aelod i'r casgliad nad ymgynghorwyd â TrC, er gwaethaf effaith y cynnig ar y galw am wasanaethau rheilffordd yn ôl pob tebyg.

Cynlluniau codi ffioedd yn y DU

Durham a gyflwynodd y ffi defnyddiwr ffyrdd cyntaf yn y DU yn 2002. Codir £2 y dydd ar gerbydau i yrru i ganol y ddinas fach hanesyddol trwy Saddler Street. O ganlyniad i’r cynllun, cafwyd gostyngiad 85% yn nifer y ceir sy'n defnyddio'r ffordd sengl.

Dechreuodd cynllun codi ffi ar raddfa lawer mwy yn Llundain ym mis Chwefror 2003. Codwyd y ffi dyddiol, sef £5 i ddechrau ond bellach mae’n £11.50, ar y mwyafrif o gerbydau sy'n dod i mewn i barth canol y ddinas rhwng 07:00 a 18:00 yn ystod yr wythnos, ond mae rhai cerbydau wedi'u heithrio. Mae gyrwyr sy'n byw yn y parth yn derbyn gostyngiad o 90% ar y ffi, ac mae'r holl refeniw a godir yn cael ei wario ar gynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus.

Flwyddyn ar ôl cyflwyno'r cynllun, roedd tagfeydd yn Llundain wedi gostwng 30% ac roedd llwybrau bysiau yn y parth wedi gweld 60% yn llai o dagfeydd traffig. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth na fu newid yn ansawdd yr aer yn y parth tagfeydd ar ôl i'r ffi gael ei gweithredu.

I ddechrau, roedd cerbydau hurio preifat wedi'u heithrio o'r ffi tagfeydd. Gwelwyd cynnydd yn niferoedd cerbydau o’r fath o 49,854 o gerbydau trwyddedig yn 2012-13 i 87,921 yn 2017-18, yn rhannol oherwydd twf gwasanaethau fel Uber. Penderfynodd Maer Llundain, Sadiq Khan, gael gwared ar yr eithriad ym mis Rhagfyr 2018, er i Gynulliad Llundain bleidleisio o blaid cadw’r eithriad. Daeth y trefniadau newydd i rym ym mis Ebrill 2019.

Cynlluniau codi tâl yn Ewrop

Yn Stockholm, ar ôl cyfnod prawf o 7 mis a refferendwm ar draws y ddinas, cyflwynwyd ffi tagfeydd parhaol ym mis Awst 2007. Mae toll, sy'n amrywio mewn pris trwy gydol y dydd, yn gymwys i gerbydau sy'n dod i mewn i'r parth neu sy'n gadael y parth, ac nid oes eithriad i breswylwyr. Gwelwyd cyfartaledd o 20% o ostyngiad yn ystod yr oriau gweithredol yn y flwyddyn ar ôl cyflwyno'r ffi.

Yn refferendwm 2006, cymeradwywyd y ffi gan 53% o’r pleidleiswyr ym mwrdeistref canolog Stockholm. Cynhaliwyd refferenda ymgynghorol hefyd mewn 14 o’r 25 bwrdeistref arall yn rhanbarth Sir Stockholm, a gwrthododd pob un y ffi.

Ym Milan, cyflwynwyd ffi tagfeydd yng nghanol y ddinas ym mis Ionawr 2012. Mae’r cynllun yn codi ffi safonol o €5 i fynd i mewn i'r parth codi ffi ac mae'n weithredol rhwng 07:30 a 19:30 ar y mwyafrif o ddyddiau'r wythnos. Mae'r cerbydau sydd â’r lefelau llygru mwyaf yn cael eu gwahardd o'r ardal, ac mae’r ffi wedi’i hepgor i gerbydau trydan a hybrid. Mae preswylwyr y parth lle codir ffi yn talu ffi ostyngedig o €2 ac yn derbyn 40 tocyn am ddim bob blwyddyn. Mae’r lefelau traffig wedi gostwng 31% yn y flwyddyn yn dilyn cyflwyno’r ffi, ac adroddir bod lefelau’r deunydd gronynnol wedi gostwng 18%.

Cynlluniau wedi'u gwaredu a chynlluniau ar gyfer y dyfodol

Cynigiwyd ffi defnyddwyr ffyrdd yn cwmpasu ardal Manceinion Fwyaf yn 2008. Ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno, yn dilyn refferendwm ar y cynigion bu i 78.8% o’r pleidleiswyr wrthod y cynllun, gan arwain at waredu’r cynlluniau bryd hynny.

Gwrthodwyd cynnig tebyg yng Nghaeredin hefyd mewn refferendwm ar draws y ddinas ym mis Chwefror 2005. Roedd 74.4% o bleidleiswyr yn erbyn cyflwyno'r cynllun.

Fodd bynnag, mae Manceinion a Caeredin, ynghyd â dinasoedd eraill y DU gan gynnwys Leeds a Birmingham, bellach yn ystyried neu'n gweithredu cynlluniau codi ffi newydd. Fodd bynnag, mae'r cynigion hyn ar gyfer Parthau Aer Glân neu Barthau Allyriadau Isel yn hytrach na ffioedd a godir ar ddefnyddwyr ffyrdd.

Roedd llythyr y Gweinidog at Arweinydd Cyngor Caerdydd yn nodi y bydd astudiaeth Llywodraeth Cymru yn dylanwadu ar “safbwyntiau polisi cenedlaethol a rhanbarthol” o ran dulliau rheoli’r galw. Mae hynny'n debygol o ddylanwadu ar ffurf derfynol unrhyw ffi yng Nghaerdydd. Disgwylir i'r gwaith hwnnw gael ei gwblhau yn yr hydref.


Erthygl gan Thomas Mitcham, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Thomas Mitcham gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau