Clefydau y gellir eu hatal ar gynnydd: targedu gwelliannau yn y nifer sy'n cael eu brechu yn ystod plentyndod

Cyhoeddwyd 07/01/2025   |   Amser darllen munudau

Mae brechu yn cael ei ystyried yn eang yn gonglfaen iechyd y cyhoedd. Gan ddechrau gyda brechlyn y frech wen, a ddatblygwyd mor gynnar â’r 15fed ganrif, mae gennym bellach frechlynnau ar gyfer dros 20 o glefydau sy'n bygwth bywyd.

Yng Nghymru, nod brechiadau plentyndod arferol yw amddiffyn rhag salwch fel polio, difftheria, llid yr ymennydd B a rotafeirws. Mae'r erthygl hon yn archwilio tueddiadau yn y nifer sy'n cael eu brechu yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y frech goch.

Y Nifer sy’n Cael eu Brechu yng Nghymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn monitro’r nifer sy’n cael eu brechu drwy raglen COVER (Gwerthusiad Cyflym o Roi Brechiadau). Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn gosod targed i frechu 95% i gynnal imiwnedd y boblogaeth neu imiwnedd torfol.

Fodd bynnag, mae adroddiad blynyddol 2023/24 ICC yn dangos mai ar gyfer un brechlyn yn unig y cyflawnwyd y targed yng Nghymru: y brechlyn niwmococol (PCV) mewn plant blwydd oed, gyda 96.0% yn ei gael. Mae’r adroddiad yn amlygu mai dim ond 84.3% o’r plant a oedd wedi cael eu brechu erbyn eu bod yn bedair oed.

Pan fydd y nifer sy’n cael y brechlyn yn is na'r targed, mae cymunedau'n wynebu risg uwch o achosion o glefyd, a all beryglu plant sy’n rhy ifanc i gael eu brechu ac unigolion â systemau imiwnedd gwan.

Y Nifer sy'n cael eu brechu: Y frech goch

Mae'r frech goch yn glefyd a arferai fod yn gyffredin ledled y byd. Yn 1963, trwyddedwyd y brechlyn frech goch cyntaf. Ym 1971, cafodd ei gyfuno â brechlynnau clwy'r pennau a rwbela i greu’r brechlyn MMR dau ddos. Mae cyflawni o leiaf 95% yn cael y brechlyn yn hanfodol i amddiffyn y gymuned rhag y clefyd heintus iawn hwn.

Ym 1998, gwnaeth yr astudiaeth a gysylltodd y brechlyn MMR ag awtistiaeth ar gam, sydd bellach wedi ei gwrthbrofi, gyfrannu at ddirywiad mewn cyfraddau brechu mewn llawer o wledydd incwm uchel. Er gwaethaf anawsterau, cyflawnodd y DU statws dileu’r frech goch yn 2016, yn seiliedig ar ddata o 2014 i 2016. Yn anffodus, collwyd y statws hwn erbyn 2018 oherwydd yr ailgyflwynwyd y feirws, yn rhannol oherwydd bod llawer iawn o achosion mewn gwledydd eraill, gan gynnwys yn Ewrop.

Fe wnaeth y cyfyngiadau byd-eang yn sgil COVID-19 leihau trosglwyddiad y frech goch dros dro, ac ni chafwyd unrhyw achosion rhwng 2020 a 2022 yng Nghymru. Llwyddodd y DU i adennill ei statws dileu’r frech goch yn 2021 ond wrth i gyfyngiadau lacio, mae achosion o'r frech goch bellach ar gynnydd.

Cofnodwyd naw achos yn 2023 ac 17 yn ystod 7 mis cyntaf 2024, yng Nghymru, yn bennaf ymhlith plant pedair oed neu iau. Mae’r ffaith bod y nifer a gafodd eu brechu wedi lleihau yn ystod y pandemig, yn Ewrop ac yn fyd-eang, yn ffactor sy’n cyfrannu’n fawr at hyn.

Mae adroddiad 2023/2024 COVER yn dangos bod y nifer sy'n cael y brechlyn MMR yng Nghymru yn parhau i fod yn is na'r targed o 95%. Roedd y nifer yn eu harddegau, a oedd yn cael eu pen-blwydd yn 15 oed ac yn 16 oed yn ystod blwyddyn ysgol 2023/2024, a gafodd y brechlyn ychydig yn uwch ar 91.8% a 91.6% yn y drefn honno.

Yn chwarter diweddaraf adroddiad COVER (Ebrill i Fehefin 2024) bu cynnydd yn y nifer a gafodd yr MMR ym mhob grŵp oedran, ond mae’n parhau i fod yn is na’r 95% sydd ei angen.

Anghyfartaledd a'r nifer sy'n cael y brechlyn

Mae gwahaniaethau ystadegol arwyddocaol yn y nifer sy’n cael y brechlyn rhwng ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig Cymru. Fel tuedd gyffredinol, po uchaf yw lefel yr anghydraddoldeb, y lleiaf fydd y nifer sy'n cael brechiadau plentyndod. Ym mhob grŵp oedran ac eithrio plant blwydd oed, mae’r gwahaniaeth yn y nifer sy’n manteisio fesul bwlch anghydraddoldeb naill ai wedi aros yn sefydlog neu wedi cynyddu o 2021-22 i 2022-23.

Mae'r nifer sy'n cael eu brechu hefyd yn amrywio fesul bwrdd iechyd, sy'n arwain at bocedi lle mae'r tebygolrwydd y bydd achosion o glefyd yn ymddangos yn llawer uwch. Mae adroddiad chwarterol diweddaraf COVER yn amlygu’r gwahaniaethau rhwng byrddau iechyd Cymru. Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi sicrhau’r nifer uchaf o blant sy’n cael eu brechu erbyn eu pedwerydd pen-blwydd rhwng Ionawr 2023 a Mehefin 2024, gyda chyfartaledd o 91.5%. Dros yr un cyfnod, dim ond unwaith yng Nghymru y cyrhaeddwyd y targed o 95% (gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys).

Mentrau ac ymateb Llywodraeth Cymru

Mewn ymateb i ostyngiad mewn cyfraddau brechu, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol Cymru yn 2022. Mae'r fframwaith yn amlinellu chwe maes pwyslais, gan gynnwys gwella tegwch brechu, symleiddio'r broses o’u rhoi ac ailstrwythuro llywodraethu.

Yn dilyn achos o’r frech goch yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr 2023, pwysleisiodd Llywodraeth Cymru bwysigrwydd brechu, gan atgoffa yr holl weithwyr iechyd proffesiynol i sicrhau eu bod yn cael eu brechu rhag y frech goch.

Ym mis Chwefror 2024, gwnaeth Prif Swyddog Meddygol Cymru, Syr Frank Atherton, annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn cael y cwrs brechu MMR llawn. Ailadroddodd:

“Ni all babanod o dan un oed gael y brechlyn. Felly, mae'n hanfodol bod pawb sy'n gymwys yn cael eu brechu'n llawn. Bydd hyn yn helpu i atal lledaeniad y frech goch a bydd yn helpu i ddiogelu ein plant ieuengaf.”

Galwodd y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, Dr Chris Jones am weithredu ar unwaith gan bob bwrdd iechyd i sicrhau bod o leiaf 90% o fyfyrwyr yng Nghymru wedi’u brechu’n llawn yn erbyn y frech goch erbyn Gorffennaf 2024. Rhybuddiodd y gallai fod angen i unigolion sydd heb eu brechu ynysu am hyd at 21 diwrnod yn ystod achosion er mwyn atal y clefyd rhag lledaenu ymhellach.

Targedu dileu clefydau

Mae methu targedau brechu yn cynyddu’r risg o glefydau y gellir eu hatal gan achosi cymhlethdodau difrifol neu farwolaethau, yn enwedig i’r rhai mwyaf agored i niwed. Gallai sicrhau bod 95% yn cael eu brechu ddileu llawer o'r clefydau hyn yng Nghymru. Bydd ymdrechion parhaus i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, gwella mynediad a meithrin ymddiriedaeth y cyhoedd mewn brechu yn hanfodol i ddiogelu iechyd y cyhoedd.


Erthygl gan Mischa Emery, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Mischa Emery gan y Cyngor Ymchwil Feddygol a alluogodd i'r erthygl ymchwil hon gael ei chwblhau.