Yfory (dydd Mawrth 14 Mai), bydd yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros Addysg yn gwneud datganiad yn y Senedd am “Ein Cenhadaeth Genedlaethol: cyflawni blaenoriaethau addysg Cymru”. Mae Lynne Neagle AS eisoes wedi dweud y bydd yn canolbwyntio’n bennaf ar sicrhau “gwelliant parhaus mewn cyrahaeddiad”. Dyma rai o’r prif bwyntiau i’w cofio:
- Mae’r Prif Weinidog newydd wedi ymrwymo i sicrhau rhagoriaeth mewn addysg, cau’r bwlch cyrhaeddiad a mynd i’r afael ag absenoldeb ac ymddygiad aflonyddgar”.
- Ers rhai blynyddoedd, mae Llywodraeth Cymru wedi bod â ‘chenhadaeth genedlaethol,’ mewn gwahanol ffurfiau, i wella addysg. Mae’n rhan allweddol o’i RhaglenLywodraethu bresennol. Rydym wedi ysgrifennu’n flaenorol am faint o gynnydd sy’n cael ei wneud.
- Mae agenda gwella a safonau Llywodraeth Cymru yn wynebu cryn dipyn o heriau. Mae’r rhain yn cynnwys canlyniadau #PISA gwael, bylchau cyrhaeddiad TGAU a dirywiad mewn lefelau llythrennedd a rhifedd ers y pandemig. Caiff hyn ei drafod yma.
- Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi sôn am y “sgaffaldiau” sy’n cynnal ysgolion. Mae consortia addysg rhanbarthol wedi bod yn rhan ganolog o hyn ers dros ddegawd ond yn ôl adolygiad parhaus o wasanaethau gwella ysgolion dylid dod â’r dull rhabarthol hwn o weithredu i ben.
- Un o brif flaenoriaethau eraill yr Ysgrifennydd Cabinet fydd rhoi diwygiadau mawr ar waith - Y Cwricwlwm i Gymru a’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Senedd yn craffu ar y rhain, a chlywodd gan Lynne Neagle AS ar 8 Mai.
- Mae addysg a hyfforddiant ôl 16 yn cael ei ddiwygio’n sylweddol hefyd. Bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwiil newydd yn weithredol ym mis Awst. Rydym wedi ysgrifennu o’r blaen am gefndir.
- Mae’r amcan llesiant cysylltiedig ag addysg yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys deg ymrwymiad ar gyfer y Cabinet gyfan. Mae 8 yn ymwneud ag oedran ysgol, 2 ag addysg ôl 16. Mae 27 ymrwymiad hefyd ar lefel Ysgrifenyddion Cabinet / Gweinidogion yn ymwneud ag addysg a’r Gymraeg.
Pigion gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru