Cenedl Noddfa: ymateb i'r argyfwng dyngarol yn Wcráin

Cyhoeddwyd 09/03/2022   |   Amser darllen munud

Rwy’n gweithio ym maes argyfwng ffoaduriaid ers deugain mlynedd bron, a phrin y gwelais cynifer yn ffoi mor gyflym.

Filippo Grandi, Uchel Gomisiynydd Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig, yn siarad ar 3 Mawrth 2022.

Ar 24 Chwefror ymosododd lluoedd Rwsia ar Wcráin. Ar 9 Mawrth, dywedodd asiantaethau monitro'r Cenhedloedd Unedig fod dros 2 miliwn o ffoaduriaid wedi ffoi oherwydd yr ymladd. Mae’n debyg y bydd nifer y ffoaduriaid yn parhau i gynyddu dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Mae Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid yn amcangyfrif y gallai dros 4 miliwn o bobl ffoi o Wcráin i chwilio am ddiogelwch a chymorth.

Wrth i’r niferoedd barhau i gynyddu, mae gwledydd ar hyd a lled y byd wedi bod yn ymateb i'r argyfwng dyngarol drwy ddarparu bwyd, dillad, a chyflenwadau meddygol y mae mawr eu hangen. Mae llawer o wledydd, yn enwedig y rhai sy'n rhannu ffin ag Wcráin, hefyd wedi cynnig noddfa i'r rhai sy'n ffoi rhag y gwrthdaro.

Mae’r erthygl hon yn crynhoi’r ymateb i’r argyfwng dyngarol sy’n datblygu’n gyflym ac yn manylu ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i helpu i groesawu ffoaduriaid i Gymru. Mae'n adeiladu ar ein herthygl flaenorol, a ddisgrifiodd ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae Aelodau o’r Senedd wedi’i wneud i ddangos eu bod yn sefyll mewn undod ag Wcráin.

Yr ymateb rhanbarthol

Mae mwy na hanner y rhai sydd wedi gadael y wlad oherwydd y gwrthdaro wedi ffoi i Wlad Pwyl, ac mae eraill wedi teithio i wledydd cyfagos gan gynnwys Hwngari, Moldofa, Romania a Slofacia. Mae porthol data a sefydlwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn rhoi’r manylion diweddaraf am sefyllfa'r ffoaduriaid. Gwaherddir dynion rhwng 18-60 oed rhag gadael Wcráin, felly mae llawer o’r ffoaduriaid yn ferched a phlant.

Mae’r Cynllun Ymateb Rhanbarthol amlasiantaeth i Ffoaduriaid yn amlinellu'r ymateb a'r camau sy’n cael eu cymryd i hybu ymdrechion y gwledydd hynny i helpu pobl sy'n ffoi o Wcráin.

Cymorth i ffoaduriaid gan yr UE a’r DU

Er y gall ffoaduriaid aros mewn gwledydd cyfagos am beth amser yn y gobaith y cânt ddychwelyd adref, mae'n bosibl y bydd llawer yn dewis gadael a theithio i rywle arall. Bydd gan lawer ohonynt gysylltiadau â’r UE a’r DU neu bydd aelodau o'u teulu yn byw yno. Fe wnaeth y Comisiwn Ewropeaidd roi'r Gyfarwyddeb Diogelu Dros Dro ar waith, gan roi diogelwch dros dro yn yr UE i’r rhai sy'n ffoi rhag y rhyfel, rhoi trwydded breswylio iddynt a hawl iddynt gael addysg ac ymuno â’r farchnad lafur.

Cafodd Llywodraeth y DU ei beirniadu am ei hymateb, a galwodd nifer arni i lacio’r gofynion fisa er mwyn caniatáu i ragor o bobl o Wcráin ddod i’r DU.

Ar 28 Chwefror, pwysleisiodd yr Ysgrifennydd Cartref yr ymdrechion i gynorthwyo gwladolion Prydeinig a'u teuluoedd i adael Wcráin. Roedd yn caniatáu i ddibynyddion gwladolion Prydeinig sy'n byw yn Wcráin wneud cais am fisa drwy'r lleoliad dros dro yn Lviv neu ganolfannau ymgeisio mewn gwledydd cyfagos. Fel rhan o’r system mewnfudo ar sail pwyntiau, gostyngwyd y gofynion iaith a’r trothwyon cyflog er mwyn sicrhau bod modd cynorthwyo rhagor o bobl.

At hyn, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol:

We are giving British nationals and any person settled in the UK the ability to bring over their immediate Ukrainian family members. Through this extension alone, I can confirm that an additional 100,000 Ukrainians will be able to seek sanctuary in the UK with access to work and public services.

Gan amddiffyn penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â hepgor yr angen i bobl Wcráin gael fisa llawn, dywedodd ei bod yn hanfodol cadw dinasyddion Prydain yn ddiogel o ystyried bod milwyr Rwsia yn awr yn ymledu'n ddyfnach i Wcráin ac yn gwrthdaro â lluoedd Wcráin.

Ar 1 Mawrth, rhoddodd yr Ysgrifennydd Gwladol y wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd. Gan ymateb i bryderon parhaus y byddai gofyn am dystiolaeth fiometrig yn creu oedi diangen, dywedodd fod capasiti’r canolfannau ymgeisio am fisa wedi'i ehangu i fodloni'r galw cynyddol.

Pecyn cymorth dyngarol

Cyflwynodd yr Ysgrifenydd Cartref becyn cymorth dyngarol pwrpasol, sy'n cynnwys cynllun am ddim i deuluoedd o Wcráin, sy’n:

  • caniatáu i wladolion Prydeinig a phobl sy’n breswylwyr sefydlog yn y DU ddod â grŵp ehangach o aelodau’r teulu i’r DU
  • caniatáu i rieni, neiniau a theidiau, plant sy’n oedolion, brodyr a chwiorydd, ac aelodau agos o'u teulu ymuno ag aelodau'r teulu yn y DU
  • caniatáu i’r rhai sy'n ymuno ag aelodau'r teulu weithio a chael mynediad at arian cyhoeddus am y 12 mis cychwynnol.

Ynghyd â llwybr nawdd dyngarol, a fydd, meddai yn gwneud y canlynol:

[…] will open up a route to the UK for Ukrainians who may not have family ties with the UK, but who are able to match with individuals, charities, businesses and community groups. Those who come under this scheme will also be granted leave for an initial period of 12 months, and will be able to work and have access to public services.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Fel y nodir yn ein herthygl flaenorol ar y gwrthdaro, er nad yw polisi mewnfudo wedi’i ddatganoli i Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu safiad cryf ar gynorthwyo ceiswyr lloches a ffoaduriaid.

Yn 2019, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai Cymru yn dod yn 'Genedl Noddfa' gyntaf y byd; cynllun wedi ei ardystio gan y Cenhedloedd Unedig.

Mae awdurdodau lleol Cymru, cyrff cyhoeddus a'r trydydd sector wedi bod yn allweddol yn yr ymdrech i gynorthwyo ceiswyr lloches a ffoaduriaid ers cyflwyno Deddf Mewnfudo a Lloches 1999. Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol wedi cynnig cymorth i geiswyr lloches a ffoaduriaid drwy gynlluniau adsefydlu Llywodraeth y DU, gan gynnwys y rhai sy'n ffoi o Affganistan a'r rhai sy'n cyrraedd drwy Gynllun Fisa i Wladolion Prydeinig yn Hong Kong.

Mae Llywodraeth Cymru ac Aelodau o’r Senedd o bob plaid wleidyddol wedi datgan cefnogaeth gref i gynnig noddfa yng Nghymru i’r rhai sy’n ffoi o Wcráin.

Ar 1 Mawrth, dywedodd y Prif Weinidog “fel cenedl noddfa, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobol Wcráin. Mae Cymru yn agored i roi croeso a diogelwch i’r rhai sy’n ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth”.

Ysgrifennodd y Prif Weinidog hefyd at Brif Weinidog y DU yn awgrymu’r camau y dylai Llywodraeth y DU eu cymryd i ddarparu cymorth, gan gynnwys: dileu’r gofynion i bobl o Wcráin ddangos tystiolaeth fiometrig cyn gadael Wcráin, ac ymestyn trwyddedau teulu Cynllun Setliad yr UE y tu hwnt i 29 Mawrth i ganiatáu i ragor wneud cais. Ar 3 Mawrth, cynhaliwyd cyfarfod rhwng Gweinidogion Cymru a chynrychiolwyr llywodraeth leol a’r trydydd sector i drafod i ba raddau roeddent yn barod i helpu’r rhai sy’n ffoi rhag y rhyfel. Cadarnhaodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol fod pawb yn benderfynol o gynnig pob cymorth posibl ac y byddai rhagor o wybodaeth ar gael maes o law.

Ar 3 Mawrth cynhaliodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd gyfarfod ac anfonodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol lythyr at Brif Weinidog y DU yn annog Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth dyngarol i bobl Wcráin, “y tu hwnt i’r hyn sydd eisoes wedi’i ddarparu”.

Er bod cynifer yn barod i ddatgan cefnogaeth, gall fod yn anodd sicrhau bod ffoaduriaid yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i adsefydlu, yn enwedig ar adeg pan fo awdurdodau lleol yn parhau i gynorthwyo ceiswyr lloches a ffoaduriaid sy’n cyrraedd Cymru drwy gynlluniau eraill.

Galwodd Mark Isherwood AS ar y Prif Weinidog i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i awdurdodau lleol i’w galluogi a’u hannog i gamu ymlaen a chynnig cymorth i ffoaduriaid yn gynt nag a ddigwyddodd gyda rhaglen Syria.

Mae’r Senedd yn cynnal dadl heddiw (dydd Mercher 9 Mawrth) ar yr ymosodiad. Gallwch ei gwylio yma.


Erthygl gan Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru