Cau'r bwlch digidol

Cyhoeddwyd 08/08/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae gwaith ymchwil a gyhoeddwyd wythnos diwethaf gan Ofcom yn dangos bod Cymru yn parhau â'r mynediad gwaethaf at ryngrwyd cyflym yn y DU. Fel y mae'r graff isod yn dangos, mae 48% o'r safleoedd yng Nghymru mewn ardaloedd lle mae band eang cyflym iawn ar gael, o'i gymharu â chyfartaledd o 73% yn y DU. dg Yng Ngogledd Iwerddon y mae'r sefyllfa orau, lle mae gan 95% o safleoedd fynediad at wasanaethau cyflym iawn. Dyna – gan obeithio y bydd popeth yn cwympo i'w le – fydd y sefyllfa yng Nghymru yn 2016. Mae'r seilwaith gwell a geir yng Ngogledd Iwerddon o ganlyniad i un o'r cynlluniau cyntaf yn y DU a ddefnyddiodd arian cyhoeddus i ledaenu band eang cyflym iawn mewn ardaloedd nad ydynt yn fasnachol hyfyw. Arweiniodd prosiect gan BT rhwng 2009 a 2011 – gan ddefnyddio cyllid gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon, yr UE a buddsoddiad gan BT ei hun – at sefyllfa lle mae gan Ogledd Iwerddon y mynediad mwyaf helaeth at fand eang cyflym iawn yn y DU, er bod ganddi'r gyfran fwyaf o safleoedd mewn ardaloedd gwledig. Mae BT wrthi'n gweithredu prosiect tebyg yng Nghymru, o'r enw Cyflymu Cymru. Gyda chyfanswm cyllideb o £425 miliwn ar gyfer y prosiect (gan gynnwys £205 miliwn o gyllid cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd), y bwriad yw y bydd Cyflymu Cymru yn lledaenu gwasanaethau band eang cyflym iawn i 96% o'r safleoedd yng Nghymru erbyn 2016. Mae BT a Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth wedi rhoi sicrwydd i Bwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad, fod pethau ar y trywydd cywir, hyd yma. Byddai hynny'n ymddangos yn newyddion gwych i unigolion – a fydd yn gallu cael mynediad at wasanaethau ar-lein beth bynnag yw eu lleoliad daearyddol – ac economi Cymru, a allai ddisgwyl difidend digidol gan gwmnïau'n ecsbloetio'r posibiliadau o ran rhyngrwyd cyflym. Fodd bynnag, pa mor ddefnyddiol yw hi fod gwasanaethau cyflym iawn ar gael os nad yw pobl yn tanysgrifio iddyn nhw? Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod y defnydd o fand eang yn adlewyrchu  anghydraddoldebau eraill mewn cymdeithas (gweler adran 4.2.3 Y Farchnad Gyfathrebu  2013 Ofcom). Felly, heb fynd i'r afael â hynny, mae perygl y gall mynediad at fand eang cyflym iawn waethygu'r rhaniadau mewn cymdeithas, wrth i bobl â gwell addysg mewn swyddi proffesiynol ar gyflogau da gael mynediad at wasanaethau cyflym iawn, a'r rhai mwy difreintiedig mewn cymdeithas fod ar ei hôl hi o ran band eang. Ymhellach, byddai nifer o wasanaethau ar-lein  – o gymorth meddygol ar-lein i weithio o bell i drigolion sy'n byw yn y wlad  – yn ymddangos yn ddefnyddiol iawn i'r rhai sydd ar hyn o bryd lleiaf tebygol o gael y rhyngrwyd yn eu cartrefi. Yn 2012, er gwaethaf y ffaith roedd gwasanaethau cyflym iawn ar gael yn helaeth, dim ond 11.4% o'r safleoedd yng Ngogledd Iwerddon a danysgrifiodd iddynt. Dyna oedd y gyfradd fwyaf o danysgrifio a gafwyd yn y DU. Ar hyn o bryd, yng Nghymru y mae'r gyfradd isaf o danysgrifio i fand eang yn y DU (66% o'i gymharu â chyfartaledd o 75% yn y DU). Mae'r ffeithiau hyn yn codi cwestiwn ynghylch faint o bobl a fydd yn tanysgrifio i wasanaethau band eang cyflym iawn yng Nghymru unwaith y byddant ar gael drwy'r prosiect Cyflymu Cymru. Bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru a BT wneud llawer o waith ar gynhwysiant digidol os bydd Cymru i fanteisio'n llawn ar botensial band eang cyflym iawn.