Cartrefi Di-garbon - cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth y DU

Cyhoeddwyd 29/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

29 Gorffennaf 2015 Erthygl gan Graham Winter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_3572" align="alignnone" width="627"]Llun o dŷ Llun o Prifysgol Caerdydd (Solcer)[/caption] Mae cartrefi di-garbon yn anheddau sy'n perfformio'n uchel iawn o ran effeithlonrwydd ynni neu sy'n defnyddio ynni heb greu allyriadau carbon net.  Gellir cyflawni hyn naill ai drwy leihau'r defnydd o ynni, defnyddio ynni adnewyddadwy, neu gyfuniad o'r ddau.  Bydd symud tuag at adeiladu cartrefi di-garbon neu gartrefi sydd bron yn ddi-garbon yn help o ran cyrraedd y targedau i leihau allyriadau sy'n angenrheidiol o ran lleihau'r risg newid yn yr hinsawdd. Roedd adroddiad cynnydd blynyddol o ran carbon y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd yn 2015 i'r Senedd, a gyhoeddwyd ar 30 Mehefin 2015, yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu'r safon cartrefi di-garbon, heb ei wanhau ymhellach. Mae Cyfarwyddeb Perfformiad Ynni mewn Adeiladau yr UE 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i bob adeilad newydd gael ei adeiladu i safon niwtral o ran defnydd ynni erbyn 2021.  Mae'n ofynnol i Aelod-wladwriaethau hefyd lunio cynlluniau cenedlaethol ar gyfer cynyddu nifer yr adeiladau sy'n niwtral o ran defnydd ynni. Caiff adeilad niwtral o ran defnydd ynni ei ddiffinio yn y Gyfarwyddeb fel adeilad sydd â pherfformiad uchel iawn o ran ynni. Dylai'r swm isel iawn o ynni neu'r bron i ddim o ynni a fydd ei angen ddod, i raddau helaeth iawn, o ffynonellau adnewyddadwy, gan gynnwys ynni o ffynonellau adnewyddadwy a gynhyrchwyd ar y safle neu gerllaw.   Cynllun Cynhyrchiant Llywodraeth y DU Cafodd dau gyhoeddiad Llywodraeth newydd y DU yn y Cynllun Cynhyrchiant a gyhoeddwyd ar 10 Gorffennaf 2015 eu disgrifio fel y diwedd ar gyfer cartrefi di-garbon.  Roedd Julie Hirigoyen, prif weithredwr Cyngor Adeiladu Gwyrdd y DU, yn cydnabod bod angen adeiladu mwy o gartrefi, ond dywedodd nad oedd hynny'n cyfiawnhau adeiladu cartrefi fydd â biliau ynni uchel.  Dywedodd: “It is short-sighted, unnecessary, retrograde and damaging to the house building industry which has invested heavily in delivering energy efficient homes.”   Fodd bynnag, roedd y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi a Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr yn croesawu'r cyhoeddiadau.  Cafodd y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi ei ddyfynnu yn y cyfryngau yn dweud: “the allowable solutions approach that had been previously favoured would have imposed significant additional costs with no obvious enhancement in the energy efficiency of our housing stock.”  Dywedodd Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr bod Llywodraeth y DU yn: “right to remove the unnecessary zero carbon standards which threatened to perpetuate the housing crisis” and called on a greater push on retrofitting existing housing.” Y ddau gyhoeddiad yn y Cynllun Cynhyrchiant oedd cael gwared ar y cysyniad 'atebion a ganiateir', a oedd yn galluogi datblygwyr i wrthbwyso arbedion nwyon tŷ gwydr oddi ar y safle, os nad oedd yn gost effeithiol i wneud hynny ar y safle.  Hefyd, ni fydd y gwelliannau pellach arfaethedig i'r safonau Rheoliadau Adeiladu yn 2016 (a fyddai hanner ffordd tuag at gyflawni cartrefi di-garbon) yn mynd yn eu blaen.  Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn cadw i adolygu'r safonau effeithlonrwydd ynni.   Gan fod y cyfrifoldeb am lunio Rheoliadau Adeiladu Cymru wedi cael ei ddatganoli i Weinidogion Cymru, roedd dau gyhoeddiad Llywodraeth y DU ond yn berthnasol i Loegr.   Polisi blaenorol Llywodraeth y DU Cyhoeddodd Llywodraeth Lafur y DU yn 2007 fwriad gwreiddiol i gyflawni cartrefi di-garbon erbyn 2016.  Gwnaeth Llywodraeth Glymblaid y DU ailddatgan yr ymrwymiad hwnnw yn 2010. Yng Nghymru a Lloegr, y brif ffordd o symud tuag at gyflawni tai newydd sydd bron yn niwtral o ran defnydd ynni yw trwy Ran L o'r Rheoliadau Adeiladu sy'n cwmpasu arbed tanwydd a phŵer.   Mae Gweinidogion Cymru wedi cael cyfrifoldeb datganoledig dros lunio Rheoliadau Adeiladu Cymru ers dechrau 2012.   Rheoliadau Adeiladu - Lloegr Yn Lloegr cafodd gwelliant 6 y cant mewn effeithlonrwydd ynni anheddau newydd ei gyflwyno yn 2013, o'i gymharu â safonau Rheoliadau Adeiladu 2010 (25 y cant ar safonau 2006).  Yn 2014, cynigiodd Llywodraeth Glymblaid y DU welliant 26 y cant ar safonau Rheoliadau Adeiladu 2010 yn Lloegr o 2016 - er y byddai hynny dal ond yn hanner ffordd tuag at gartrefi di-garbon.  Cyhoeddwyd hefyd bryd hynny y byddai safleoedd bach (10 neu lai o anheddau) yn cael eu heithrio o'r gofyniad hwn. Hefyd, o 2016, gellir cyflawni cartrefi di-garbon drwy wneud y gweddill i fyny drwy 'atebion a ganiateir' megis cynlluniau adnewyddadwy oddi ar y safle, os nad oedd yn gost effeithiol i wneud hynny ar y safle. Cyhoeddodd Cynllun Cynhyrchiant yr wythnos ddiwethaf nad yw'r syniad 'atebion a ganiateir' na'r symudiad arfaethedig yn 2016 i newid y Rheoliadau Adeiladu, a fyddai hanner ffordd tuag at gartrefi di-garbon, yn mynd yn eu blaen yn Lloegr ar hyn o bryd.   Rheoliadau Adeiladu - Cymru Yng Nghymru, daeth y newidiadau i Ran L o'r Rheoliadau Adeiladu i rym ar 31 Gorffennaf 2014. Mae'r newidiadau hyn yn golygu y bydd anheddau newydd wyth y cant yn fwy effeithlon o ran ynni o gymharu â safonau Rheoliadau Adeiladu 2010. Roedd Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori'n flaenorol yn 2012 ar ostyngiad 40 y cant neu 25 y cant ar lefelau 2010, gan nodi 40 y cant fel yr opsiwn a ffefrir. Cafodd y pŵer i wneud Rheoliadau Adeiladu ar gyfer mesurau lleihau carbon oddi ar y safle (atebion a ganiateir) ei roi i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Isadeiledd 2015.  Cyhoeddodd y Gweinidog ddatganiad  ar y pryd gan ddweud y byddai Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar fesurau o'r fath yng Nghymru cyn arfer y pwerau newydd.  Nid ydym yn gwybod eto a fydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu defnyddio'r pwerau hyn o ystyried y penderfyniad i roi'r gorau i fesurau lleihau oddi ar y safle yn Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dweud y bydd yn adolygu Rhan L eto yn 2016. Bwriad yr adolygiad yw bod y cam nesaf o ran cyflawni targed yr UE ar gyfer adeiladau sydd bron yn niwtral o ran defnydd ynni.