Cyhoeddwyd 20/08/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021
  |  
Amser darllen
munudau
20 Awst 2015
Erthygl gan Sian Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Heddiw yw'r diwrnod y mae myfyrwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael eu canlyniadau TGAU. Yn yr un modd â chanlyniadau Safon Uwch, mae'r Cyd-gyngor Cymwysterau (sefydliad aelodaeth sy'n cynnwys saith darparwr cymwysterau'r DU) yn
cyhoeddi crynodebau o'r canlyniadau. Mae data'r Cyd-gyngor Cymwysterau yn dangos canlyniadau cyfunol y rhai a gofrestrodd gyda'r cyrff dyfarnu sy'n aelodau.
Canlyniadau
Mae'r data yn y tablau isod yn cymharu'r canlyniadau ar gyfer 2014 a 2015. Mae'r gymhariaeth hon yn seiliedig ar y
data a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau ar y diwrnod canlyniadau yn 2014. Mae'r data yn rhai dros dro ac yn dangos y sefyllfa adeg cyhoeddi'r canlyniadau. Caiff y data eu gwirio cyn i'r data terfynol gael eu cyhoeddi ar lefel genedlaethol (Cymru), ac ar lefel awdurdodau lleol ac ysgolion.
Cymharu 2014 a 2015
- Yng Nghymru, bu gostyngiad yng nghanran y rhai a gyflawnodd raddau A*. Gwelwyd gostyngiad o 0.4 y cant ymhlith merched, 0.1 y cant ymhlith bechgyn a 0.2 y cant ymhlith pob dysgwr (6.0 y cant);
- Mae canran y bechgyn a gyflawnodd radd A*-A wedi aros yr un fath yn 2015 ag yn 2014. Mae canran y merched a gyflawnodd A*-A wedi gostwng 0.5 y cant, a'r gostyngiad ar gyfer pob dysgwr oedd 0.2 y cant (19.2 y cant);
- Gwelwyd cynnydd o 0.4 y cant yng nghanran y bechgyn a gyflawnodd raddau A*-C, a gostyngiad o 0.3 y cant yng nghanran y merched a gyflawnodd raddau A*-C. Arhosodd canran yr holl ddysgwyr a gyflawnodd A*-C yr un fath (66.6 y cant) ag yn 2014;
- Mae'r gyfradd lwyddo gyffredinol (A*-G) ar gyfer merched wedi aros yr un fath ag yn 2014. Mae'r gyfradd lwyddo gyffredinol wedi cynyddu 0.2 y cant ar gyfer bechgyn ac ar gyfer pob dysgwr (98.7 y cant);
- Yn Lloegr, cafwyd cynnydd yng nghanran yr holl ddisgyblion (0.2 y cant), y bechgyn (0.4 y cant) a'r merched (0.1 y cant) a lwyddodd i gyflawni graddau A*–C (68.8 y cant).
- Arhosodd canlyniadau bechgyn yr un fath â'r llynedd ar gyfer graddau A*, gyda gostyngiadau o 0.2 y cant ar gyfer merched a 0.1 y cant ar gyfer pob dysgwr (6.6 y cant). Cafwyd gostyngiadau o 0.1 y cant ar gyfer pob dysgwyr (21.0 y cant), bechgyn a merched ar gyfer graddau A*-A. Cafwyd cynnydd o 0.1 y cant ar gyfer pob dysgwyr (98.6 y cant), merched a bechgyn yn y gyfradd lwyddo gyffredinol.
Bechgyn a merched
- Mae merched yn parhau i sicrhau canlyniadau gwell na bechgyn ar bob lefel yng Nghymru a Lloegr;
- Fodd bynnag, yng Nghymru, mae'r bwlch wedi lleihau ar bob lefel ers 2014.
Cymru a Lloegr
- Roedd perfformiad ar gyfer raddau A*–G yng Nghymru ychydig yn well nag yn Lloegr ymhlith bechgyn (0.2 y cant) ac ymhlith pob dysgwr (0.1 y cant). Ar gyfer pob gradd arall, roedd cyflawniad yn uwch yn Lloegr na Chymru.
Mae tablau 1 a 2 yn dangos y ganran a gofrestrodd ym mhob pwnc fesul gradd ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2014 a 2015.
Bagloriaeth Cymru
Cafodd canlyniadau Diploma Canolradd a Diploma Sylfaen Bagloriaeth Cymru eu
cyhoeddi heddiw hefyd. Ar y
Lefel Sylfaen, dyfarnwyd y Dystysgrif Graidd i 86.7 y cant o'r ymgeiswyr, o'i gymharu ag 86.6 y cant yn 2014. Dyfarnwyd y Diploma i 85 y cant o'r ymgeiswyr o'i gymharu ag 83.3 y cant y llynedd.
Ar y
Lefel Ganolradd, dyfarnwyd y Dystysgrif Graidd i 82.2 y cant o'r ymgeiswyr o'i gymharu ag 85.7 y cant yn 2014, a dyfarnwyd y Diploma i 89.4 y cant o'r ymgeiswyr o'i gymharu â 91.6 y cant yn 2014.
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg