Dyma ffotograff o fyfyriwr mewn neuadd arholiad.

Dyma ffotograff o fyfyriwr mewn neuadd arholiad.

Canlyniadau TGAU 2022 – sut hwyl gafodd disgyblion Cymru arni?

Cyhoeddwyd 26/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/08/2022   |   Amser darllen munudau

Ddoe oedd diwrnod canlyniadau TGAU. Am y tro cyntaf ers 2019, bu disgyblion yn sefyll arholiadau allanol ar ôl eu canslo yn 2020 a 2021 oherwydd COVID-19.

Fel y gwnaethom egluro yn ein erthygl wythnos ddiwethaf ar ganlyniadau Safon Uwch, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru – sef y corff statudol sy’n rheoleiddio cymwysterau–  ym mis Mawrth 2021 y byddai dysgwyr yn sefyll arholiadau unwaith eto yn haf 2022.   Cafodd TGAU, ynghyd â Safon Uwch a'r Dystysgrif Her Sgiliau eu haddasu gan CBAC – sef corff dyfarnu arholiadau mwyaf Cymru – i leihau'r hyn a aseswyd yn yr arholiadau. Byddai hynny hefyd yn galluogi athrawon i ganolbwyntio ar y meysydd pwysicaf mewn pynciau.

Beth yw canlyniadau haf 2022?

Fe wnaethom esbonio yn ein herthygl yr wythnos diwethaf sut y dyfarnwyd graddau TGAU, Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn 2020 a 2021. Yn 2020, cafodd y rhain eu dyfarnu gan Graddau Asesu Canolfannau (yn seiliedig ar ddyfarniadau ar botensial dysgwyr) ac yn 2021, gan fodel graddau a bennwyd gan ganolfannau lle defnyddiodd ysgolion a cholegau ystod o dystiolaeth o waith dysgwyr i bennu gradd. Cafodd dysgwyr raddau sylweddol uwch o ganlyniad.

Mae eleni yn 'flwyddyn bontio' (fel y cyhoeddwyd gan Cymwysterau Cymru ym mis Hydref 2021) gyda chanlyniadau’n adlewyrchu – yn fras – pwynt hanner ffordd rhwng 2021 a 2019. Bydd canlyniadau’r flwyddyn nesaf yn debygol o ddychwelyd at ganlyniadau sy’n fwy cyson â’r rheini cyn y pandemig. Mae ein herthygl Safon Uwch yn esbonio mwy am sut y caiff graddau arholiadau eu pennu fel arfer.

Canran y cofrestriadau a gafodd TGAU yn ôl gradd, 2022 (dros dro)

  Nifer y cofrestriadau A/7 neu uwch C/4 neu uwch G/1 neu uwch
2022 311,072 25.1% 68.6% 97.3%
2021 328,658 28.7% 73.6% 98.5%
2019 295,690 18.4% 62.8% 97.2%

 

Ffynhonnell: Cymwysterau Cymru

Mae'r data yn y tabl uchod yn dangos canlyniadau ar gyfer 2022 yn seiliedig ar ddata a gyhoeddwyd gan Cymwysterau Cymru. Cyhoeddir data hefyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau (sefydliad aelodaeth sy’n cynnwys yr wyth darparwr cymwysterau mwyaf yn y DU). Mae'r data yn rhai dros dro ac yn cynrychioli’r sefyllfa adeg cyhoeddi'r canlyniadau. Caiff y data eu cadarnhau cyn i'r data terfynol gael eu cyhoeddi ar lefel genedlaethol (Cymru), ac ar lefel awdurdodau lleol ac ysgolion. Mae'r data'n cyfeirio at nifer y cofrestriadau ar gyfer cymwysterau ac yn cynnwys dysgwyr o bob oed.

Yn Lloegr, mae TGAU yn cael eu graddio o 9 i 1. Ni ellir cymharu'r graddau hyn yn uniongyrchol â'r graddau A* – G a ddefnyddir yng Nghymru. Mae'n bosibl y bydd dysgwyr yng Nghymru yn cymryd rhai cymwysterau TGAU sydd wedi'u cynllunio i'w defnyddio yn Lloegr. Mae canlyniadau a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau ar gyfer pob dysgwr yn cynnwys TGAU A* – G Cymru a’r TGAU 9 – 1 a gynlluniwyd i'w defnyddio yn Lloegr. Gan nad yw'r graddfeydd yn alinio'n uniongyrchol, cyhoeddir canlyniadau ar gyfer graddau allweddol A/7, C/4 a G/1.

Am y rhesymau a nodir uchod, nid oes modd cymharu canlyniadau eleni yn uniongyrchol â rhai 2019, 2020 na 2021.

Eleni, mae canlyniadau i ymgeiswyr benywaidd yn uwch na rhai gwrywaidd:

  • Llwyddodd 29.1% o ymgeiswyr benywaidd i gael A* – A o gymharu â 21.0% o ymgeiswyr gwrywaidd, sy’n wahaniaeth o 8.1 pwynt canran.
  • Llwyddodd 72.1% o ymgeiswyr benywaidd i gael A* – C o gymharu â 65.0% o ymgeiswyr gwrywaidd, sy’n wahaniaeth o 7.1 pwynt canran.
  • Llwyddodd 97.6% o ymgeiswyr benywaidd i gael A* – G o gymharu â 97.0% o ymgeiswyr gwrywaidd, sy’n wahaniaeth o 0.6 pwynt canran.

Beth sy'n digwydd gyda phryderon am bapurau arholiad?

Yn ystod cyfnod arholiadau 2022, cafwyd adroddiadau yn y cyfryngau am faterion yn ymwneud â phapurau arholiad, er enghraifft rhannau o arholiadau ar goll neu gwestiynau afresymol o anodd, er bod y rheini’n ymwneud yn bennaf â phapurau Safon Uwch. Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd wedi ysgrifennu at Cymwysterau Cymru a CBAC, am y pryderon hyn. Mae Cymwysterau Cymru wedi anfon ateb interim i’r Pwyllgor yn nodi sut y mae ef a CBAC yn ymateb i’r pryderon.

Mae’r Pwyllgor wedi gwahodd CBAC a Cymwysterau Cymru fel ei gilydd i ymddangos ger ei fron ar 21 Medi 2022, i roi tystiolaeth yn gyhoeddus am gyfres arholiadau haf 2022. Os oes gennych unrhyw gwestiynau y dylai'r Pwyllgor – yn eich barn chi – eu gofyn, yna anfonwch e-bost at mewnflwch y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg neu anfonwch neges Twitter i @SeneddPlant. Bydd yr holl awgrymiadau a ddaw i law yn cael eu hanfon ymlaen at aelodau'r Pwyllgor iddynt dynnu arnyn nhw wrth ofyn cwestiynau. Er nad oes sicrwydd y bydd pob cwestiwn a gyflwynir yn cael ei ofyn, mae hwn yn gyfle gwych i gyfrannu at waith craffu ar ddau gorff allweddol sy’n gweithio i oruchwylio a gweinyddu’r system arholiadau yng Nghymru.


Erthygl gan Sian Hughes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru