Mae'r canllawiau hyn ar gyfer 2023-24 yn fersiynau wedi'u diweddaru o ganllawiau a gyhoeddwyd yn flaenorol gan Ymchwil y Senedd. Mae'r canllawiau hyn yn cynnwys gwybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael i’r rhai sy’n astudio cyrsiau addysg bellach ac addysg uwch.
Gofynnir i Ymchwil y Senedd yn rheolaidd am gyllid myfyrwyr ac mae'r canllawiau hyn yn nodi gwybodaeth am rai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin. Ni fwriedir iddynt fod yn ganllawiau cynhwysfawr a dylid gofyn am gyngor ar achosion penodol gan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Mae’r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth am y mathau gwahanol o gymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer cyrsiau addysg bellach amser llawn neu ran-amser yng Nghymru o fis Medi 2023 ymlaen.
Ystyr addysg bellach yn aml yw addysg i’r rhai rhwng 16 a 18 oed, er y gall oedolion ddilyn cyrsiau addysg bellach hefyd. Caiff ei gynnal mewn colegau lleol neu’r chweched dosbarth mewn ysgolion fel arfer.
Mae'r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth am gymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys sy'n bwriadu astudio cwrs addysg uwch amser llawn neu ran-amser yn 2023/24. Mae'r canllaw hwn yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru.
Bwriad y canllaw hwn yw helpu dysgwyr ôl-raddedig i ddeall pa gymorth ariannol a allai fod ar gael i'w helpu i astudio cwrs addysg uwch.
Erthygl gan Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru