Tri heddwas yn sefyll â'u cefnau i'r camera

Tri heddwas yn sefyll â'u cefnau i'r camera

Byw mewn sefyllfa argyfyngus: gwneud deddfwriaeth sy’n ymwneud â COVID-19, craffu arni a’i gorfodi

Cyhoeddwyd 13/08/2021   |   Amser darllen munudau

Ers mis Mawrth 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud deddfwriaeth frys er mwyn rheoli effaith y pandemig, gan wneud rhannau pwysig o'n bywydau bob dydd yn anghyfreithlon er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

Mae Cymru bellach ar lefel rhybudd 0, ac mae'r cyfyngiadau'n cael eu codi. Fodd bynnag, mae cwestiynau o hyd ynghylch sut y dylid gwneud cyfreithiau, craffu arnynt a'u gorfodi ar adegau o argyfwng.

Deddfu

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r prif gyfyngiadau o ran diogelu iechyd y cyhoedd a theithio rhyngwladol gan ddefnyddio’r pwerau yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984. Mae Deddf y Coronafeirws 2020 yn rhoi pwerau ychwanegol i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau cyhoeddus i ymdrin â'r pandemig, a hefyd yn arbed awdurdodau rhag gorfod cydymffurfio â rhai dyletswyddau. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud deddfwriaeth frys o dan ystod eang o Ddeddfau eraill hefyd, gan gynnwys llacio’r gofynion adrodd mewn ysgolion a newid sut y gall awdurdodau lleol gynnal cyfarfodydd.

Fel rheol, mae deddfwriaeth frys yn cael ei chyflwyno dros dro. Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu cyfnodau adolygu 21 diwrnod a chymalau machlud (dyddiadau dod i ben) ar gyfer y rheoliadau diogelu iechyd. Disgwylir i'r rhan fwyaf o Ddeddf y Coronafeirws ddod i ben ym mis Mawrth 2022, er y gallai’r cyfnod hwn gael ei ymestyn.

Mae'r cyfyngiadau wedi cyfyngu ar rai hawliau sylfaenol, gan gynnwys yr hawl i ryddid, yr hawl i fywyd preifat a bywyd teuluol, a’r hawl i ymgynnull. O dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998, dim ond os yw'r cyfyngiadau'n fodd cymesur o gyflawni nod cyfreithlon y caiff Llywodraeth Cymru ymyrryd â'r hawliau hyn. Yn yr achos hwn, y nod cyfreithlon yw diogelu iechyd y cyhoedd.

Cododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn y Bumed Senedd bryderon ynghylch y ffaith nad oedd Llywodraeth Cymru bob amser wedi egluro sut roedd y rheoliadau COVID-19 yn gymesur â'r nod cyfreithlon hwnnw. Mae Cymdeithas y Gyfraith yng Nghymru hefyd wedi cwestiynu cymesuredd rhai mesurau, gan nodi fel enghraifft y pŵer dros dro 'eithriadol o eang' a oedd gan swyddogion gorfodi i fynd i mewn i eiddo gan ddefnyddio grym rhesymol er mwyn canfod a oedd rheoliadau wedi cael eu torri.

Wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio, mae Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi a Phwyllgor COVID-19 Senedd flaenorol yr Alban wedi galw am adolygiadau ynghylch a yw’r ddeddfwriaeth gyfredol yn rhoi pwerau priodol i lywodraethau reoli argyfyngau. Nid yw'r Senedd wedi ystyried y mater hwn yn fanwl.

Cymeradwyo cyfreithiau

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud rheoliadau diogelu iechyd gan ddefnyddio'r weithdrefn frys (neu’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’) o dan Adran 45R o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd.

Mae hyn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru wneud rheoliadau heb fynd i'r Senedd yn gyntaf. Fodd bynnag, rhaid i'r Senedd eu cymeradwyo cyn pen 28 diwrnod. Mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn y Senedd yn trafod y rheoliadau ac yn cyflwyno adroddiad arnynt, gan dynnu sylw at faterion o arwyddocâd cyfreithiol, gwleidyddol neu o ran polisi cyhoeddus. Yna, mae Aelodau o’r Senedd yn pleidleisio ar y rheoliadau. Os na chymeradwyir y rheoliadau cyn pen 28 diwrnod, byddant yn peidio â chael effaith.

Mae rhai Aelodau wedi cwestiynu'r defnydd o'r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ i osod cyfyngiadau yn ystod cyfnodau clo. Ym mis Mehefin y llynedd, gofynnodd Suzy Davies AS i Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd ar y pryd, os oedd modd dwyn rheoliadau o dan y weithdrefn gadarnhaol 'gwnaed’ at sylw'r Senedd yn gynt ar ôl iddynt gael eu gwneud, neu os oedd modd i'r Aelodau bleidleisio ar y rheoliadau cyn iddynt ddod i rym. Dywedodd y Gweinidog: ‘…the made affirmative process is there for […] where extraordinary steps need to be taken at a level and a speed that makes sense for the public that we serve’.

Mae'r Senedd yn defnyddio ystod o weithdrefnau gwahanol ar gyfer craffu ar ddeddfwriaeth arall yn ymwneud â COVID-19 a’i chymeradwyo. O ran Deddf y Coronafeirws, rhaid i Lywodraeth y DU geisio cymeradwyaeth seneddol bob chwe mis os yw am barhau i gymhwyso darpariaethau dros dro nad ydynt wedi’u datganoli. Nid oes gofyn i Weinidogion Cymru wneud hyn ar gyfer darpariaethau sydd wedi’u datganoli. Gwnaeth Llywodraeth flaenorol Cymru addewid y byddai’n adrodd i'r Senedd yn rheolaidd ar y defnydd o bwerau yn y Ddeddf. Cafodd yr ail adroddiad ar ddefnyddio pwerau COVID-19 ei osod gerbron y Senedd ym mis Ebrill.

Cyfathrebu ynghylch y gyfraith

Mae cyfathrebu ynghylch y gyfraith yn rhan hanfodol o helpu pobl i ddeall beth sy'n gyfreithlon a beth sy’n anghyfreithlon. Ar adegau, mae wedi bod yn anodd cadw i fyny â’r newidiadau sydd wedi’u gwneud i'r rheoliadau diogelu iechyd. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod y rheoliadau wedi newid mor aml – mwy na 30 o weithiau rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mawrth 2021.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau iechyd cyhoeddus ochr yn ochr â'r rheoliadau. Ar brydiau, mae'r canllawiau hyn wedi cael eu geirio’n wahanol i'r gyfraith. Yn ystod y cyfnod clo ar lefel rhybudd 4, er enghraifft, gofynnodd Llywodraeth Cymru i bobl osgoi gadael eu cartrefi heblaw am deithiau hanfodol, ond roedd y gyfraith yn caniatáu i bobl adael eu cartref os oedd ganddynt esgus rhesymol.

Yn ei adroddiad gwaddol, dywedodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn y Bumed Senedd nad oedd negeseuon Llywodraeth Cymru bob amser yn glir ac yn gywir. Nododd y Pwyllgor, os yw Gweinidog yn dweud y ‘dylai’ pobl yng Nghymru wneud rhywbeth, fod pobl yn debygol o ddeall mai cyfraith yw cyfarwyddyd o’r fath, er nad yw’r cyfarwyddyd hwnnw, o reidrwydd, yn gyfraith. Dywedodd y Pwyllgor y dylid monitro'r mater hwn yn y Chweched Senedd.

Gorfodi'r gyfraith

Gall swyddogion gorfodi ddyroddi hysbysiadau cosb benodedig er mwyn cosbi troseddau a gyflawnir o dan y cyfyngiadau. Mae hysbysiadau cosb benodedig yn caniatáu i bobl dalu dirwy (o hyd at £10,000 am droseddau penodol), yn hytrach nag wynebu erlyniad. Os yw rhywun yn herio hysbysiad cosb benodedig neu’n gwrthod ei dalu, gellir ei erlyn.

Rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mehefin 2021, dyroddodd yr heddlu 11,884 o hysbysiadau cosb benodedig am dorri rheoliadau COVID-19 yng Nghymru, sef un hysbysiad fesul pob 250 o bobl. O ran y tebygolrwydd o gael hysbysiad cosb benodedig, mae’r effaith ar rai grwpiau o bobl wedi bod yn anghymesur. Mae 66 y cant o hysbysiadau cosb benodedig wedi cael eu dyroddi i ddynion, a 44 y cant i bobl ifanc 18-24 oed. Dyroddwyd 10 y cant o hysbysiadau i bobl o ethnigrwydd Asiaidd, Du neu Gymysg (o gymharu â thua 4 y cant o'r boblogaeth yng nghyfrifiad 2011). Yn yr Alban, dengys ymchwil fod pobl yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig dros ddeg gwaith yn fwy tebygol o gael hysbysiad cosb benodedig na phobl yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn adolygu pob achos lle mae person yn cael ei erlyn o dan reoliadau COVID-19 mewn llys agored. Daethpwyd â 1,551 o erlyniadau o'r fath o dan y rheoliadau diogelu iechyd rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mawrth 2021 yng Nghymru a Lloegr. O'r rhain, canfuwyd bod 279 (18 y cant) wedi’u dwyn ar gam. O ran y 270 o gyhuddiadau a gafodd eu dwyn o dan Ddeddf y Coronafeirws 2020, roedd pob un ohonynt wedi’i ddwyn ar gam. Mae’r Cyd-bwyllgor ar Hawliau Dynol yn Senedd y DU wedi rhybuddio bod hysbysiadau cosb benodedig yn tueddu i roi’r sawl sydd â’r gallu lleiaf i dalu o dan anfantais, yn sgil y ffaith mai'r unig ffordd i'w herio yw wynebu erlyniad, sy’n arwain at y risg o gael cofnod troseddol.

Er gwaethaf y gwahaniaethau rhwng rheoliadau Cymru a Lloegr, nid yw Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cyhoeddi data ynghylch yr hysbysiadau cosb benodedig sy’n cael eu dyroddi ar gam a’r erlyniadau sy’n cael eu dwyn ar gam yng Nghymru. Dywedodd Llywodraeth flaenorol Cymru wrth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn y Bumed Senedd nad oedd yn gwybod faint o hysbysiadau cosb benodedig neu erlyniadau oedd wedi cael eu dyroddi neu eu dwyn ar gam. Dywedodd y Pwyllgor y dylai'r Chweched Senedd glywed mwy gan awdurdodau gorfodi er mwyn ceisio deall yr heriau y maent yn eu hwynebu.


Erthygl gan Lucy Valsamidis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru