Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Bwyd a Diod yng Nghymru
Cyhoeddwyd 17/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munud
17 Tachwedd 2016
Erthygl gan Eleanor Warren-Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Ddydd Mawrth 22 Tachwedd, bydd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn gwneud datganiad i'r Cynulliad am y diwydiant bwyd a diod. Ar 21 Mehefin, rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ynghylch hynt rhai o’r camau yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru.
Y Cynllun Gweithredu
Mae'r Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod (2014) yn cynnwys 48 o gamau gweithredu, sy'n mynd i'r afael â meysydd gan gynnwys: twf busnesau; datblygu marchnadoedd; arloesedd; datblygu gweithlu medrus; diogelwch bwyd; bwyta'n iachus; a diogelu'r cyflenwad bwyd.
Mae gan y Cynllun dri nod cyffredinol:

- sefydlu bwrdd diwydiant bwyd a diod;
- datblygu hunaniaeth fasnachol ar gyfer Bwyd a Diod Cymru; a
- sicrhau bod yr holl sgiliau angenrheidiol nad ydynt yn y diwydiant ar hyn o bryd yn cael eu darparu.
- digwyddiadau a gweithgareddau;
- gwybodaeth;
- datblygu arbenigedd; a
- marchnata a chysylltiadau cyhoeddus
- gwella cynaliadwyedd caffael bwyd yn y sector cyhoeddus e.e. trwy fabwysiadu rhaglen Bwyd am Oes;
- cefnogi ffermwyr i gynhyrchu cig coch cynaliadwy o ansawdd uwch;
- cefnogi arferion o fwyta'n gynaliadwy a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy;
- cefnogi datblygiad cadwyni byr ar gyfer cyflenwi bwyd;
- ehangu garddwriaeth;
- cefnogi mentrau bwyd cymunedol; a
- gwella'r broses o gasglu data a monitro a dangosyddion diogelwch a chadernid y system fwyd.