Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llinell amser o ddigwyddiadau

Cyhoeddwyd 17/05/2023   |   Amser darllen munudau

Yn sgil digwyddiadau diweddar, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) wedi cael llawer o sylw cyhoeddus. Ym mis Chwefror 2023, cyhoeddodd Archwilio Cymru Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd, gan dynnu sylw at bryderon sylweddol am y ffordd y câi’r bwrdd iechyd ei reoli. O ganlyniad i'r adolygiad hwn, ar 27 Chwefror 2023 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn rhoi’r bwrdd o dan fesurau arbennig, sef y lefel eithaf o ddwysáu o dan Drefniadau Dwysáu ac Ymyrryd GIG Cymru, a hynny ar unwaith.

Mae'r erthygl hon yn esbonio’n gryno yr hyn sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd o ran y bwrdd iechyd, er mwyn rhoi rhywfaint o gyd-destun i benderfyniad y Llywodraeth.

BIPBC yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gyda chyllideb o £1.87 biliwn a gweithlu o dros 19,000.  Mae'n darparu gwasanaethau gofal iechyd i fwy na 700,000 o bobl ar draws chwe sir gogledd Cymru. Cafwyd galwadau – a wrthodwyd gan Lywodraeth Cymru – i chwalu’r bwrdd iechyd yn llwyr.

Mae pobl wedi bod yn lleisio pryderon am BIPBC ers ei fynyddoedd cynharaf yn dilyn ad-drefnu'r GIG yn 2009. Mae rhywfaint o'r llinell amser a ganlyn i’w gweld ar wefan BIPBC ac yn adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Bumed Senedd, Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr Hyn a Ddysgwyd (Mai 2019)

Ni fwriedir i'r llinell amser isod fod yn gynhwysfawr, ond mae'n crynhoi digwyddiadau allweddol sydd wedi effeithio ar BIPBC ers i’r pryderon cychwynnol gael eu mynegi yn 2012.

Dyddiad

Digwyddiad

Yn ystod 2012

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn nodi pryderon ynghylch trefniadau llywodraethu BIPBC.

Mehefin 2013

Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cyhoeddi canlyniad eu hadolygiad ar y cyd o drefniadau llywodraethu, gan dynnu sylw at faterion yn ymwneud â llywodraethu, arweinyddiaeth strategol, a hyfywedd clinigol ac ariannol model gwasanaeth BIPBC.

Yn ystod 2013

Pryderon difrifol ynghylch ansawdd a diogelwch gofal yn Ward Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd yn arwain at gau'r ward yn 2013. Yn sgil hyn a phryderon ehangach ynghylch cyllid, perfformiad yn erbyn targedau, a gwasanaethau mamolaeth a meddygon teulu y tu allan i oriau, rhoddodd Llywodraeth Cymru BIPBC o dan fesurau monitro uwch (y lefel gyntaf o ymyrraeth) ym mis Rhagfyr 2013.

Rhagfyr 2013

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd yn cyhoeddi adroddiad, sef Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n ategu nifer o bryderon Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Medi 2014

Y cynghorydd annibynnol Donna Ockenden yn cyhoeddi’r adroddiad cychwynnol ar yr ymchwiliad i ward Tawel Fan, a oedd yn manylu ar bryderon diogelwch cleifion a oedd yn gyfystyr â ‘cham-drin sefydliadol’.

Gwasanaethau iechyd meddwl BIPBC yn destun adroddiadau eraill; un gan y Bwrdd Iechyd a’r Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac adolygiad pellach o ofal cleifion ar Ward Tawel Fan a gwasanaethau iechyd meddwl i bobl hŷn gan Donna Ockenden, y ddau yn 2018. Cafodd Adroddiad Holden (ynghylch ward iechyd meddwl Hergest yn Ysbyty Gwynedd) ei gwblhau yn 2013 ond ni chafodd ei gyhoeddi gan BIPBC tan 2021.

Tachwedd 2014

BIPBC yn symud o fonitro uwch ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i ymyrraeth wedi'i thargedu (yr ail lefel o ymyrraeth) ar gyfer y sefydliad cyfan.

Mehefin 2015

Rhoi’r Bwrdd Iechyd o dan Fesurau Arbennig (y lefel uchaf o ymyrraeth) – dyma’r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r lefel hon o ymyrraeth gyda bwrdd iechyd yng Nghymru. Nodwyd pum maes allweddol ar gyfer gwella; llywodraethu, arweinyddiaeth a goruchwyliaeth; gwasanaethau iechyd meddwl; gwasanaethau mamolaeth; gofal sylfaenol (yn enwedig gwasanaethau meddyg teulu y tu allan i oriau); ac ymgysylltu â'r cyhoedd.

Chwefror 2016

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Pedwerydd Cynulliad yn adrodd ar gynnydd o’i gymharu â’i adroddiad yn 2013, gan wneud argymhellion i wella llywodraethiant byrddau iechyd ac i wella trefniadau rheoli perfformiad BIPBC ac ar draws Cymru.

Chwefror 2018

Dad-ddwysáu gwasanaethau mamolaeth o fesurau arbennig, ac yna dad-ddwysáu gwasanaethau meddyg teulu y tu allan i oriau ym mis Chwefror 2019.

Yn ystod 2019

Ym mis Mai 2019, Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Pumed Cynulliad yn adrodd eto ar lywodraethiant BIPBC, gan ystyried pryderon am wasanaethau iechyd meddwl a lefel y cymorth a'r ymyrraeth a ddarperir i'r bwrdd iechyd gan Lywodraeth Cymru.

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn argymell cyflwyno arbenigwyr allanol ychwanegol ar drawsnewid, bod byrddau iechyd yn cyhoeddi adroddiadau, ac y dylid sicrhau annibyniaeth yr adolygiadau o fethiannau unrhyw fwrdd iechyd. Nododd yr adroddiad hefyd y byddai’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cadw llygad ar gynnydd a’i bod yn “gwbl annerbyniol bod BIPBC, fel corff mwyaf y GIG yng Nghymru, wedi bod o dan fesurau arbennig am bron i bedair blynedd hyd yma”.

Tachwedd 2020

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, yn cyhoeddi y byddai BIPBC yn cael ei ddad-ddwysáu o fesurau arbennig ac yn trosglwyddo i ymyrraeth wedi'i thargedu ar unwaith. Er mwyn cefnogi hyn, byddai £82 miliwn pellach y flwyddyn o “gefnogaeth strategol” yn cael ei ddarparu dros dair blynedd a hanner. Y bod y bwrdd iechyd wedi dangos "cynnydd gwirioneddol ond hefyd dirnadaeth gan dderbyn bod meysydd i weithredu arnynt a lle mae angen gwelliant parhaus." Roedd y rhesymeg am ddad-ddwysáu yn bwnc dadleuol yn ddiweddar.

Mawrth 2021

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r Fframwaith Ymyrraeth wedi'i Dargedu, gan nodi'r meysydd i'w gwella a ddisgwylir gan BIPBC.

Ionawr 2022

Pryderon ynghylch Gwasanaethau Fasgwlaidd BIPBC yn cael eu codi mewn adroddiadau gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon, gan annog gwaith parhaus i wella safon gwasanaethau a gofal cleifion.

Mawrth 2022

Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Chweched Senedd yn gwneud gwaith dilynol ar faterion llywodraethu yn BIPBC. Mae'n codi nifer o bryderon ac yn ymrwymo i barhau i fonitro'r materion hyn yn agos.

Chwefror 2023

Archwilio Cymru yn cyhoeddi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd. Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei bod yn symud BIPBC yn ôl i fesurau arbennig ar unwaith, gan ddiswyddo’r Cadeirydd ac Aelodau Annibynnol o’r Bwrdd a phenodi Cadeirydd newydd ynghyd â thîm ymyrraeth a chymorth ar gyfer y bwrdd iechyd.

 Mai 2023

Penodi Carol Shilabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Brif Weithredwr Dros Dro ar gyfer BIPBC. Mae'r broses recriwtio ar gyfer Prif Weithredwr parhaol ar y gweill ar ôl i ddeiliad blaenorol y swydd ymadael ym mis Hydref 2022. Gwelwyd llawer o fynd a dod ar dîm gweithredol y Bwrdd, ac ers 2019, bu pedwar Prif Weithredwr gwahanol – ar sail barhaol neu dros dro.

Article by Paul Worthington, Senedd Research, Welsh Parliament