Giât carchar yn cael ei chloi

Giât carchar yn cael ei chloi

Bron yn llawn: Pam mae Cymru’n ehangu capasiti carchardai nad oes eu hangen, o bosibl?

Cyhoeddwyd 15/10/2025

Mae’r broses o ehangu capasiti carchardai yng Nghymru yn cael ei gyrru nid yn unig gan nifer y carcharorion, ond hefyd gan bwysau ehangach ar draws system garchardai Cymru a Lloegr. Mae'r erthygl hon yn archwilio rhai o'r ffactorau sy’n sail i'r cynnydd cyson a welir yng nghapasiti carchardai yng Nghymru, a'r goblygiadau ehangach ar gyfer polisi adsefydlu a chyfiawnder.

Gormod o gapasiti, diffyg rheolaeth?

Mae ystad y carchardai yng Nghymru a Lloegr o dan straen difrifol. Ar ddiwedd mis Gorffennaf 2025, roedd 87,966 o garcharorion yn y system, a hynny gyda'r ystad yn gweithredu ar 98.4% o'i chapasiti defnyddiadwy. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ystyried bod y lefel hon yn ddifrifol o uchel.

Yn dilyn yr etholiad cyffredinol yn 2024, cafwyd rhybudd gan Lywodraeth newydd y DU fod y system garchardai ar fin chwalu. Dywedodd Shabana Mahmood AS, yr Arglwydd Ganghellor ar y pryd, fod ein carchardai mewn perygl o orlifo o fewn wythnosau.

Mewn ymateb, lansiodd Llywodraeth y DU Adolygiad Dedfrydu, dan gadeiryddiaeth David Gauke, y cyn-Ysgrifennydd Cyfiawnder. Ar ben hynny, cyflwynodd fesurau brys, gan gynnwys byrhau'r amser y mae pobl yn ei dreulio yn y carchar ar gyfer dedfrydau safonol – o hanner y ddedfryd i 40% ohoni. Gwnaeth ymrwymiad hefyd i greu 14,000 o leoedd carchar ychwanegol erbyn 2031, gan gynnwys cynllun arfaethedig i ehangu Carchar EF Parc, sy’n cael ei weithredu gan G4S ym Mhen-y-bont ar Ogwr. (Yn ddiweddar, mae Carchar EF Parc wedi bod o dan y chwyddwydr yn dilyn adroddiad arolygu a gododd bryderon ynghylch diogelwch, ac yn sgil marwolaeth 17 o garcharorion yn 2024. Roedd nifer o’r marwolaethau hynny’n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau).

Mae pryderon ynghylch ehangu capasiti carchardai yng Nghymru wedi cael eu mynegi gan sawl arbenigwr. Mae Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru wedi rhybuddio’n flaenorol fod lleoedd gwag mewn carchardai yng Nghymru yn debygol o gael eu llenwi gan garcharorion o Loegr. Ym mis Mehefin 2025, roedd carchardai yng Nghymru yn gartref i 1,737 o garcharorion o Loegr – tua thraean o gyfanswm poblogaeth carchardai Cymru, sef 5,300.

Mae Dr Iolo Madoc-Jones, Dr Wulf Livingston a Dr Caroline Hughes o Brifysgol Glyndŵr yn Wrecsam wedi galw am fuddsoddiadau pellach mewn gwasanaethau adsefydlu. Maent yn dadlau na fydd y cam o ehangu ystad y carchardai, yn ei hun, yn datrys y broblem ddyfnach, sef y ffaith bod pobl yn gadael y carchar heb gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ailadeiladu eu bywydau. Maent yn dweud bod llawer o’r bobl hyn, heb gymorth ym maes tai, cyflogaeth, iechyd neu broblemau dibyniaeth, yn ei chael hi'n anodd ailintegreiddio ac yn fwy tebygol o aildroseddu a dychwelyd i'r carchar.

A oes angen mwy o leoedd mewn carchardai yng Nghymru?

Mae gan Gymru y gyfradd garcharu uchaf yng Ngorllewin Ewrop, gyda 177 o drigolion Cymru yn y carchar fesul 100,000 o’r boblogaeth ym mis Medi 2023—sy’n fwy na dwbl y cyfartaledd ar gyfer Gorllewin Ewrop, sef 83. Nid yw lefelau troseddu uwch yn egluro'r gyfradd uchel hon, gan awgrymu bod ffactorau eraill ar waith.

Mae tystiolaeth a gyflwynwyd i ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig yn Nhŷ'r Cyffredin i garchardai, y gwasanaeth prawf ac adsefydlu, yn tynnu sylw at y gwahaniaeth hwn. Gwnaeth Clinks (elusen sy'n cefnogi sefydliadau gwirfoddol sy'n gweithio gyda phobl yn y system cyfiawnder troseddol) gyfeirio at waith ymchwil gan Dr Robert Jones, a oedd yn dangos bod 149 o drigolion Cymru yn y carchar fesul 100,000 o’r boblogaeth yn 2019, o'i gymharu â 136 o drigolion fesul 100,000 o’r boblogaeth yn Lloegr. Yn seiliedig ar ffigurau ar gyfer 2023, Cymru sydd bellach ar y brig yng Ngorllewin Ewrop.

Mae Dr Jones hefyd wedi codi pryderon ynghylch y pellter rhwng y carchardai lle mae nifer o garcharorion o Gymru yn cael eu cadw a'u cartrefi. Yn 2017, roedd 39% o garcharorion sy’n oedolion gwrywaidd o Gymru yn cael eu cadw mewn carchardai yn Lloegr, a hynny ar draws 108 o safleoedd gwahanol. Erbyn mis Mehefin 2025, roedd y ganran hon wedi cynyddu i 43%.

Ar hyn o bryd, mae gan Gymru oddeutu 5,588 o leoedd mewn pum carchar i oedolion gwrywaidd. Pe bai pob carcharor o Gymru yn cael ei gadw yng Nghymru, mae’n bosibl y byddai mwy na 700 o leoedd dros ben—tua 12.5% o gyfanswm y capasiti. Mewn cyferbyniad, mae ystad carchardai cyfunol Cymru a Lloegr yn gweithredu bron i'w chapasiti llawn, gyda gwarged o lai na 2%.

Fodd bynnag, dim ond rhan o'r stori y mae'r ffigurau hyn yn ei hadrodd. Nid yw’r penderfyniadau ynghylch ble mae carcharorion yn cael eu cadw yn cael eu gwneud ar sail ffigurau poblogaeth yn unig. Mae ffactorau eraill—fel gorlenwi, mynediad at wasanaethau arbenigol, a phryderon diogelwch—hefyd yn chwarae rhan.

Pwy sydd â’r pŵer yn y maes hwn?

Mae’r cam o gyhoeddi data wedi'u dadgyfuno ynghylch carchardai yng Nghymru  yn hwyluso gwaith dadansoddi mwy cywir o ran y berthynas rhwng troseddu a charcharu yng Nghymru.

Yn wahanol i'r sefyllfa yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, nid yw cyfiawnder troseddol wedi'i ddatganoli yng Nghymru. Yn lle hynny, mae Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU wedi cadw rheolaeth dros bolisi dedfrydu a’r broses o gomisiynu carchardai ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae gan yr awdurdodaeth a rennir hon oblygiadau sylweddol.

Er bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am wasanaethau pwysig sy'n cefnogi’r broses adsefydlu—megis tai, iechyd ac addysg—nid oes ganddi awdurdod dros ddedfrydu nac adeiladu carchardai. Gall y datgysylltiad hwn arwain at flaenoriaethau gwahanol, lle nad yw ehangu capasiti carchardai, o bosibl, yn adlewyrchu nodau polisi cymdeithasol Cymru.

Mae ymdrechion i bontio'r bwlch hwn yn cynnwys gwaith y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol a'r glasbrintiau ar gyfer cyfiawnder ieuenctid a chyfiawnder i fenywod. Mae’r glasbrintiau hyn yn gynlluniau strategol a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU ac asiantaethau eraill fel Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi Cymru a Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru. Eu nod yw creu system gyfiawnder deg yng Nghymru.

Mewn datganiad a wnaed yn ddiweddar ynghylch y glasbrintiau, gwnaeth Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, yr achos unwaith eto dros ddatganoli cyfiawnder i Gymru:

Bydd cael un Llywodraeth yng Nghymru yn gyfrifol am gyfiawnder yn ein galluogi i fynd i'r afael â'r maes hwn mewn ffordd wirioneddol gynhwysfawr, gyda chyfiawnder cymdeithasol wrth ei galon, yn hytrach na chyfiawnder yn cael ei rannu ar draws yr ymyl garw hwnnw rhwng Llywodraeth y DU a Chymru.

Fodd bynnag, er gwaethaf yr ymrwymiad hwn i gydweithio, cydnabu’r Ysgrifennydd Cabinet nad yw hi wedi cynnal trafodaethau uniongyrchol â Llywodraeth y DU ynglŷn â'r ffaith bod dros chwarter o garcharorion o Gymru yn cael eu cadw mewn carchardai yn Lloegr.

Beth am fenywod?

Mae'r oedi wrth ddatblygu canolfan breswyl i fenywod yn Abertawe (cyfleuster cymunedol 12 gwely y bwriedir iddo gynnig dewis amgen yn lle dedfrydau byr yn y carchar parthed menywod sydd wedi cyflawni troseddau lefel isel) yn tynnu sylw at y bwlch parhaus yn y ddarpariaeth sydd ar gael i fenywod yn system gyfiawnder Cymru. Roedd y ganolfan i fod i agor yn 2024, a’r bwriad oedd y byddai’n rhan allweddol o'r Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod, gan gynnig cymorth adsefydlu sy’n seiliedig ar drawma yn nes at adref. Fodd bynnag, er gwaethaf y ffaith iddo ennill caniatâd cynllunio, mae'r prosiect yn parhau i fod wedi’i ohirio. Mae’r Arglwydd Timpson, Gweinidog Carchardai y DU, wedi cadarnhau'n ddiweddar fod y prosiect bellach dan ystyriaeth yn unig, a’i fod yn aros am gyllid gan y Trysorlys.

Ar hyn o bryd, nid oes gan Gymru garchar i fenywod. Mae pob menyw o Gymru sy'n cael dedfryd o garchar yn cael ei chadw yn Lloegr, yn aml dros 100 milltir o gartref. Gall hyn amharu ar gysylltiadau teuluol, a phrosesau adsefydlu ac ailintegreiddio. Rhagwelir y bydd nifer y menywod o Gymru sydd yn y carchar yn cynyddu o 245 i 285 erbyn 2027, ond mae'r seilwaith sydd ei angen i'w cynnal yn parhau i fod yn absennol.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i eirioli dros y ganolfan yn Abertawe, gan ddadlau y byddai’n cynnig dewis cymunedol mwy priodol ar gyfer menywod na’u carcharu.

Ehangu’r ystad carchardai – mater cyfiawnder troseddol yn unig?

Mae effaith cyfleusterau newydd neu fwy yn ymestyn y tu hwnt i furiau'r carchar. Nid mater cyfiawnder troseddol yn unig yw ehangu’r ystad carchardai yng Nghymru; mae'n fater cymunedol hefyd.

Bwriad carchardai fel CEF Berwyn yn Wrecsam oedd cefnogi prosesau adsefydlu ac ailsefydlu. Fodd bynnag, mae tystiolaeth ddiweddar yn awgrymu bod CEF Berwyn bellach yn gweithredu fel sefydliad safonol, gan godi cwestiynau ynghylch ei effeithiolrwydd o ran lleihau lefelau aildroseddu.

Mae cymunedau lleol yn ysgwyddo llawer o'r costau cudd: byrddau iechyd Cymru sy’n ariannu gofal iechyd cyhoeddus mewn carchardai; rhaid i awdurdodau lleol gymeradwyo ceisiadau cynllunio; a gwasanaethau cyhoeddus sy’n cefnogi pobl sy'n gadael carchardai.

Fel mae Clinks yn dweud, heb broses adsefydlu ystyrlon, gallai ehangu capasiti carchardai ddwysau heriau cymdeithasol yn hytrach na'u datrys.

Dyma’r erthygl gyntaf mewn cyfres sy'n archwilio agweddau allweddol ar gyfiawnder troseddol yng Nghymru, gan gynnwys y setliad datganoli presennol, gweithio rhynglywodraethol, y gwasanaeth prawf, polisi cyfiawnder ieuenctid, a phlismona.

Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.