Adeilad Llywodraeth Cymru

Adeilad Llywodraeth Cymru

Blwyddyn yn ddiweddarach: a yw cytundeb rhynglywodraethol newydd y DU yn gweithio?

Cyhoeddwyd 09/02/2023   |   Amser darllen munudau

Ym mis Ionawr 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fframwaith newydd ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU.

Roedd swyddogion o bedair gwlad y DU wedi bod yn gweithio ar gytundeb ers 2018. Cytunodd y Gweinidogion perthnasol, yn sgil ymadawiad y DU â'r UE, y byddai'n rhaid i bedair llywodraeth y DU weithio'n agosach gyda'i gilydd i reoli pethau fel ymwahanu o ran polisi a sut y câi rhwymedigaethau rhyngwladol eu gweithredu.

Flwyddyn er cyhoeddi'r cytundeb newydd, mae'r erthygl hon yn edrych ar sut y mae'r strwythurau newydd yn cael eu gweithredu, a pha mor gywir yw’r honiad a wnaed bod y cytundeb yn gam arwyddocaol ymlaen o safbwynt cyfansoddiadol.

Pam mae cysylltiadau rhynglywodraethol yn bwysig?

Mae nifer yn credu bod y cyfrifoldeb am bolisïau gwahanol naill ai wedi'i ddatganoli i'r Senedd neu wedi'i gadw yn ôl gan San Steffan. Mae'r realiti yn fwy cymhleth. Mae ffiniau o ran cyfrifoldeb am bwerau yn aml yn aneglur. Mae angen i lywodraethau ym mhob rhan o’r DU ddod o hyd i ffyrdd o weithio gyda'i gilydd i reoli'r tensiynau hyn, neu mae perygl y byddant yn methu â gwneud penderfyniadau polisi effeithiol o ran polisi.

Beth yw'r strwythurau rhynglywodraethol newydd?

Fel rhan o’r Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol (‘yr adolygiad’), sefydlwyd system tair haen ar gyfer ymgysylltu rhynglywodraethol ar lefel weinidogol, sef:

  • Grwpiau Rhyngweinidogol: ar draws nifer o wahanol feysydd polisi, ar gyfer ymgysylltu ar lefel portffolio neu lefel adrannol;
  • Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol i oruchwylio'r Grwpiau Rhyngweinidogol a thrafod materion trawsbynciol, a Phwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid i drafod materion trawsbynciol yn ymwneud â chyllid;
  • Cyngor y Prif Weinidog a Phenaethiaid y Llywodraethau Datganoledig: o dan gadeiryddiaeth Prif Weinidog y DU.

Yn yr adolygiad, nodwyd dull gweithredu yn seiliedig ar gonsensws, yn hytrach nag un yn seiliedig ar statud. Gwnaeth yr adolygiad hefyd sefydlu gweithdrefn newydd ar gyfer datrys anghydfodau i gymryd lle’r hen broses. Roedd rhai sylwebwyr academaidd wedi beirniadu’r hen broses, gan ddweud bod gormod o ogwydd tuag at Lywodraeth y DU.

Mae dadansoddiad manylach o'r strwythurau hyn a'r broses newydd ar gyfer datrys anghydfodau i’w weld yn erthygl Ymchwil y Senedd, 'Yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol: cam cyfansoddiadol arwyddocaol ymlaen?'.

Beth ddigwyddodd yn ystod blwyddyn gyntaf yr adolygiad?

Roedd yr adolygiad yn nodi paramedrau o ran sut y byddai’r haenau newydd yn cwrdd yn rheolaidd, yn dibynnu ar lefel y cyfarfod. Mae’r pedair llywodraeth yn gyfrifol ar y cyd am agenda a lleoliadiad y cyfarfodydd.

Mae Ffigur 1 yn rhestru’r cyfarfodydd y gwyddom amdanynt o dan y strwythurau newydd. Dim ond cyfarfodydd a gynhaliwyd ar ôl cyhoeddi'r adolygiad ar 13 Ionawr 2022 sydd wedi'u cynnwys. Casglwyd y wybodaeth hon o wefannau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, pan gafodd cyfarfodydd eu datgan yn gyhoeddus a phan gyhoeddwyd hysbysiad. Mae'r tabl yn cynnwys yr holl Grwpiau Rhyngweinidogol arfaethedig a restrir yn Atodiad B o’r adolygiad.

Ffigur 1: Cyfarfodydd a gynhaliwyd o dan y strwythurau cysylltiadau rhynglywodraethol newydd.

Ffigur 1: Ffeithlun sy'n dangos nifer y cyfarfodydd a gynhaliwyd o dan y strwythurau rhynglywodraethol newydd rhwng mis Ionawr 2022 a mis Ionawr 2023. Mae'r duedd yn dangos bod rhai Grwpiau Rhyngweinidogol wedi cyfarfod yn rheolaidd, tra bod llawer o'r grwpiau arfaethedig heb gyfarfod neu heb eu sefydlu eto.

 

Ffynonellau: Llywodraeth y DU, Cysylltiadau rhynglywodraethol; Llywodraeth Cymru, Hysbysiadau, fel ar 27 Ionawr 2023 ar gyfer y ddau.

A yw'r cytundeb newydd yn cael ei weithredu?

Ers cyhoeddi'r adolygiad, mae tri Phrif Weinidog gwahanol wedi arwain Llywodraeth y DU. Mae dau Weinidog gwahanol wedi cyflawni swydd Gweinidog y DU ar gyfer Cysylltiadau Rhynglywodraethol, a hynny dros dri chyfnod gwahanol. Tra bod Liz Truss wrth y llyw, dim ond ychydig o gyfarfodydd cysylltiadau rhynglywodraethol a gynhaliwyd, ac ni chynhaliodd Prif Weinidog y DU ar y pryd unrhyw gyfarfodydd gyda phenaethiaid llywodraethau eraill y DU. Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru fod y cyfnod hwn o gysylltiadau rhynglywodraethol yn "chwalfa".

Mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn amlach ers i Brif Weinidog presennol y DU ddod i rym ym mis Hydref. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Cyngor y Prif Weinidog a Phenaethiaid y Llywodraethau Datganoledig ar 10 Tachwedd, ac roedd Prif Weinidog newydd y DU yn bresennol, ynghyd â Phrif Weinidogion Cymru a'r Alban.

Mae'n parhau'n aneglur i ba raddau y defnyddiwyd y weithdrefn datrys anghydfodau newydd. Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Cyllid y Senedd ar 29 Medi, Dywedodd Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru, fod Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn defnyddio'r weithdrefn anghydfodau newydd ar hyn o bryd ar gyfer anghydfod â Thrysorlys y DU. Fodd bynnag, mae'n ymddangos mai dyma'r unig dro y nodwyd i’r weithdrefn datrys anghydfodau newydd gael ei defnyddio, ac nid oes llawer o wybodaeth ar gael yn gyhoeddus am ddefnyddio’r weithdrefn.

System fwy ffurfiol o gysylltiadau rhynglywodraethol?

Mae cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU yn digwydd mewn ffyrdd ffurfiol ac anffurfiol.

Un feirniadaeth a wnaed gan academyddion wrth drafod hen strwythurau Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, oedd nad oeddent yn dryloyw, a’u bod yn rhy ddibynnol ar berthnasau anffurfiol. Mor bell yn ôl â 2002, roedd pwyllgorau seneddol yn galw am ddefnyddio mwy o fecanweithiau ffurfiol i reoli cysylltiadau rhynglywodraethol.

Cyd-bwyllgor y Gweinidogion

Y strwythur gwreiddiol ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU oedd Cyd-bwyllgor y Gweinidogion. Fe'u crëwyd wrth ffurfio Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd yr Alban ym 1999. Nodwyd y trefniadau yn y memorandwm cyd-ddealltwriaeth o ran datganoli, a chawsant eubeirniadu gan nifer o bobl, gan gynnwys academyddion a phwyllgorau seneddol, oherwydd bod gormod o ogwydd tuag at Lywodraeth y DU, oherwydd eu natur ad hoc, ac oherwydd diffyg tryloywder.

I ryw raddau, mae’r adolygiad wedi arwain at brosesau mwy ffurfiol a thryloyw o ran cysylltiadau rhynglywodraethol. Mae rhagor o grwpiau ffurfiol yn eu lle, y mae ganddynt gylch gorchwyl sydd wedi ei gyhoeddi ac amserlen o gyfarfodydd lled-reolaidd o leiaf.

Yn ei adolygiadau chwarterol o gysylltiadau rhynglywodraethol, mae Llywodraeth y DU yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyfarfodydd a gynhaliwyd, yn ogystal â nifer o astudiaethau achos sy’n ystyried sut y mae gwledydd y DU yn gweithio gyda'i gilydd. Mae cynnwys yr astudiaethau achos hyn yn adlewyrchu canfyddiadau a ddangosir yn Ffigur 1, sef bod nifer fach o Grwpiau Rhyngweinidogol yn weithredol ac yn cyfarfod yn rheolaidd, tra bod y rhan fwyaf ohonynt naill ai'n llai gweithgar neu heb gael eu sefydlu.

Grŵp Rhyngweinidogol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yw'r grŵp mwyaf gweithgar. Mae’n ymddangos bod grwpiau eraill, gan gynnwys y grwpiau Sero Net, Busnes a Diwydiant, ac Addysg hefyd wedi cyfarfod yn amlach na Grwpiau Rhyngweinidogol eraill.

Y tu hwnt i'r meysydd polisi hyn, roedd yr astudiaethau achos yn canolbwyntio ar gyfarfodydd a thrafodaethau y tu allan i strwythurau’r adolygiad. Mae hyn yn adlewyrchu’r canfyddiadau yn Ffigur 1, sef bod yr adolygiad wedi'i weithredu mewn rhai meysydd polisi. Mewn meysydd eraill, mae perthnasau mwy anffurfiol yn dal i fod yn nodwedd amlwg o’r cysylltiadau rhynglywodraethol.

Beirniadaeth arall a wnaed gan rai academyddion wrth drafod hen system Cyd-bwyllgor y Gweinidogion oedd nad oedd yr hysbysiad a gyhoeddwyd ar ôl y cyfarfod yn rhoi llawer o wybodaeth am yr hyn a drafodwyd.

Ar gyfartaledd, y cyfrif geiriau ar gyfer trafodaethau polisi Grŵp Rhyngweinidogol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (sef nifer y geiriau mewn hysbysiad a oedd yn disgrifio'r hyn a drafodwyd a’r hyn y cytunwyd arno) oedd 377 o eiriau. Ar y llaw arall, y cyfrif geiriau ar gyfer y Grŵp Rhyngweinidogol Sero Net oedd 28 gair ar gyfartaledd. Nid oedd yr un o’r trafodaethau polisi yn yr hysbysiadau yn fwy na 450 o eiriau.

Beth nesaf o ran cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU?

Bydd y cyfarfodydd ar bob lefel o'r strwythurau newydd yn parhau. Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi croesawu’r ffaith y cynhelir cyfarfodydd yn fwy rheolaidd bellach, gan alw hefyd ar Lywodraeth y DU i ymgysylltu yn fwy rheolaidd ac mewn modd mwy rhagweladwy. Dywedodd hefyd fod angen sicrhau bod y cytundeb cysylltiadau rhynglywodraethol newydd ar waith yn briodol ac yn ddibynadwy.


Erthygl gan Philip Lewis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru