Blaenoriaethau ar gyfer y rheilffyrdd: Gobeithion teithwyr o ran masnachfraint nesaf rheilffyrdd Cymru.

Cyhoeddwyd 30/06/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Canlyniadau arolwg teithwyr rheilffyrdd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Canlyniadau arolwg teithwyr rheilffyrdd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau Cyhoeddodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Cynulliad eu hadroddiad, Ar y trywydd iawn? Y Fasnachfraint Rheilffyrdd a Metro De Cymru, heddiw. Yn yr adroddiad hwn, mae’r Pwyllgor yn rho ei farn am drefniadau Llywodraeth Cymru i gaffael masnachfraint nesaf Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a’r Metro, ac yn awgrymu blaenoriaethau allweddol ar gyfer y fasnachfraint nesaf.

Ar yr ymchwiliad hwn y bu’r Pwyllgor yn canolbwyntio’n bennaf yn ystod tymor y gwanwyn. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 24 Ionawr 2017 a 23 Chwefror 2017. Cafwyd tystiolaeth ychwanegol ar 23 a 29 Mawrth a 6 Ebrill 2017 gan amrywiaeth o dystion, gan gynnwys peirianwyr sifil, academyddion, cyrff sy’n cynrychioli teithwyr rheilffyrdd a grwpiau budd, yn ogystal â'r Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru. Mae rhagor o fanylion am yr ymchwiliad ar gael ar wefan y Pwyllgor.

Trafnidiaeth Cymru, sy’n arwain y broses gaffael, a hwn yw’r corff a sefydlwyd i gynghori Llywodraeth Cymru ac i reoli contractau’r fasnachfraint a’r Metro. Trefnodd y Pwyllgor i gynnal ei ymchwiliad yr un pryd ag ymgynghoriad diweddaraf Trafnidiaeth Cymru er mwyn dylanwadu ar y broses cyn y caiff manylion y tendr eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2017. Roedd yr adroddiad yn cynnwys 34 o gasgliadau, ac 19 o argymhellion, gan gynnwys Deg Blaenoriaeth Bwysicaf y Pwyllgor ar gyfer manyleb y fasnachfraint ei hun. Mae'r blaenoriaethau hyn yn mynd i'r afael ag ystod o faterion fel mesurau perfformiad, ystyriaethau amgylcheddol, llwybrau teithio, prisiau, tocynnau, sut y caiff gwybodaeth ei darparu i deithwyr, a sut y caiff achosion o oedi eu rheoli.

Rhoi teithwyr wrth wraidd yr ymchwiliad

Roedd y Pwyllgor yn awyddus i ganolbwyntio ar flaenoriaethau teithwyr, felly penderfynodd baratoi arolwg i roi cyfle i ddefnyddwyr rheilffyrdd ddweud eu dweud. Trefnwyd digwyddiad bwrdd crwn hefyd i gasglu sylwadau gan grwpiau defnyddwyr ac eraill sydd â diddordeb yn y rheilffordd. Cynhaliwyd y digwyddiad yn Amwythig er mwyn tynnu sylw at yr angen i gael barn defnyddwyr o bob rhan o ardal y fasnachfraint, gan gynnwys y rhai sy'n byw yn Lloegr.

Cafwyd bron 3,000 o ymatebion i'r arolwg o bob rhan o'r rhwydwaith

Cynhaliodd Tîm Allgymorth y Cynulliad yr arolwg rhwng 23 Ionawr a 3 Mawrth 2017. Gofynnwyd amrywiaeth o gwestiynau am flaenoriaethau ar gyfer gwella’r gwasanaethau rheilffyrdd.

Gweithiodd y Tîm Allgymorth yn agos gyda Transport Focus, y corff gwarchod defnyddwyr trafnidiaeth annibynnol, a ddosbarthodd yr arolwg i’w randdeiliaid. Llwyddwyd i godi ymwybyddiaeth drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys: rhoi erthyglau ar wefannau; y cyfryngau cymdeithasol (gan gynnwys Facebook a Twitter); ac e-bostio cyfranogwyr yn uniongyrchol. Defnyddiwyd hysbysebion Facebook hefyd i dargedu cynulleidfa ehangach yng Nghymru ac yn Lloegr.

Cafwyd 2,985 o ymatebion, sef graddfa ymatebion ymhlith y gorau a gafwyd i un o arolygon pwyllgor y Cynulliad ac mae’r Pwyllgor yn ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran.

Rhoddir uchod y blaenoriaethau i deithwyr, a nodwyd yn yr arolwg, ar gyfer y fasnachfraint nesaf. Y blaenoriaethiau pwysicaf i deithwyr oedd capasiti ac argaeledd seddi wrth deithio (90.2% blaenoriaeth uchel neu hanfodol).

Meysydd blaenoriaeth eraill a nodwyd fel blaenoriaethau uchel neu hanfodol oedd: prydlondeb a dibynadwyedd (92.3%); amseroedd teithio ac amlder (88.5%); pris tocynnau (84.9%); ymdrin ag achosion o oedi a digwyddiadau sy’n tarfu ar wasanaethau (83.3%).

Y blaenoriaethau mwyaf poblogaidd wedyn oedd: gwell cysylltiadau â gwasanaethau trên eraill (78.8%); trenau glân, o safon uchel (78.4%); a gwell mynediad a chyfleusterau ar gyfer pobl hŷn a phobl ag anableddau (76.6%).

Cafodd yr arolwg ymatebion gan deithwyr ar draws y rhwydwaith sy’n defnyddio amryw lwybrau yn ardal masnachfraint Cymru a’r Gororau. Canlyniadau arolwg teithwyr rheilffyrdd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau Roedd yr ymatebwyr hefyd yn defnyddio’r rhwydwaith yn weddol aml, a dywedodd 39.2 o’r rhai a gymerodd ran iddynt ddefnyddio masnachfraint Cymru a’r Gororau bob dydd neu bob wythnos. Canlyniadau arolwg teithwyr rheilffyrdd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau Er i 23.4% o deithwyr nodi yn yr arolwg fod eu profiad o ran defnyddio gwasanaethau masnachfraint bresennol Cymru a’r Gororau yn un da neu dda iawn, nododd 40.4% eu bod yn wael neu’n wael iawn: Canlyniadau arolwg teithwyr rheilffyrdd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth a oedd yn awgrymu bod y blaenoriaethau i deithwyr yn y fasnachfraint nesaf, fel y’u nodwyd yn yr arolwg, yn adlewyrchu gwaith arall a oedd yn mynd rhagddo i geisio barn teithwyr ac i ddeall eu pryderon. Yn benodol, dywedodd Transport Focus wrth y Pwyllgor fod y canlyniadau’n debyg i ganlyniadau’r Arolwg Teithwyr Rheilffyrdd Cenedlaethol blynyddol:

We ask about satisfaction with current services and we also ask, periodically, about what the priorities for improvement are. If you look at our priorities for improvement and the results, they’re much the same. The core product: punctual, reliable, getting a seat, frequency drives most attitudes to the railway. If you think of it in that sort of Maslow hierarchy of needs, we’re on the bottom bit—the basic core product. And then, things like good Wi-Fi and availability of staff are the next tier up, but it all starts from that core product. At the moment, it’s quite hard to get beyond that, so, I think the results that we’ve seen reflect the same. – Mike Hewitson, Transport Focus

Cyfarfod wyneb yn wyneb â rhanddeiliaid rheilffyrdd i gael eu barn

Roedd aelodau'r Pwyllgor yn awyddus i siarad ag amrywiaeth eang o randdeiliaid. Teithiodd y Pwyllgor i Amwythig ar 9 Mawrth ac yno cynhaliwyd sesiwn dystiolaeth ffurfiol ac yna ddigwyddiad anffurfiol i randdeiliaid.

Trafododd yr Aelodau y pynciau a ganlyn gyda’r rhanddeiliaid:

  • Paratoi ar gyfer y fasnachfraint a chyfranogiad rhanddeiliaid
  • Manyleb y fasnachfraint
  • Cerbydau
  • Model rheoli’r fasnachfraint a’r berthynas â Network Rail.

Bu Transport Focus yn helpu gyda’r gwaith o drefnu a hyrwyddo’r digwyddiad hwn ac roeddent yn bresennol yn y sesiwn.

Y cam nesaf ar y daith ...

Defnyddiodd y Pwyllgor yr ymatebion i’r arolwg a’r cyfraniadau a gafwyd yn y digwyddiad i randdeiliaid i greu eu Deg Blaenoriaeth Bwysicaf ar gyfer Masnachfraint Newydd Cymru a'r Gororau ac i helpu i baratoi ei argymhellion a’i adroddiad terfynol.

Bydd yr adroddiad yn cael ei rannu â Llywodraeth Cymru, a fydd yn cael tua chwe wythnos i ymateb i'r argymhellion. Fodd bynnag, rhaid aros i weld y dystiolaeth cyn barnu a bydd Aelodau'r Pwyllgor a'r cyhoedd yn disgwyl am y fanyleb dendro a gyhoeddir ym mis Gorffennaf, ac i’r fasnachfraint newydd ddechrau ym mis Hydref 2018, i weld beth yw'r dyfodol i deithwyr rheilffyrdd Cymru.


Erthygl gan Rhayna Mann, Gwasanaeth Allgymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cymru Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Blaenoriaethau ar gyfer y rheilffyrdd: Gobeithion teithwyr o ran masnachfraint nesaf rheilffyrdd Cymru. (PDF, 437KB)