Yn 2021, datganodd y Senedd 'argyfwng natur'. Roedd hyn yn gydnabyddiaeth o’r dirywiadau mewn bioamrywiaeth a achoswyd gan bobl. Mae'r adroddiad yn 2019 ynghylch sefyllfa byd natur yn tynnu sylw bod 17 y cant o 3,902 o rywogaethau yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu.
Daw pwysau ar fioamrywiaeth o lawer o ffynonellau, gan gynnwys trefoli, llygredd, newid hydrolegol, rhai technegau rheoli amaethyddol a rheoli coetir a rhywogaethau anfrodorol goresgynnol.
Mae gwerth cynhenid i fioamrywiaeth ac mae'n cynnig buddion i bobl drwy 'wasanaethau ecosystemau', megis atal llifogydd a chynhyrchu bwyd. Felly, credir bod colledion bioamrywiaeth yn achosi risgiau i ddiogelwch a llesiant pobl.
Mae'r rhan fwyaf o bolisïau a deddfwriaeth ar fioamrywiaeth yng Nghymru a’r DU yn deillio o rwymedigaethau rhyngwladol, megis y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol. Mae rhanddeiliaid yn tynnu sylw at y ffaith bod polisïau a deddfwriaeth Cymru, megis y Cynllun Gweithredu Adfer Natur, a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn gwneud rhywfaint i warchod bioamrywiaeth, ond maent yn galw am gamau gweithredu ar frys i fynd i'r afael â'r 'argyfwng natur'.
Darllenwch ein papur briffio i gael mwy o wybodaeth am fioamrywiaeth, sut y mae'n cael ei gwarchod a'r hyn y mae rhanddeiliaid yn galw amdano.
Erthygl gan Matthias Noebels, Sara Moran a Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Matthias Noebels gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i’r papur briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil gael ei gwblhau.