Bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn ymwneud â Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) y prynhawn yma.
Cyflwynwyd y Bil yn Senedd y DU ar 19 Rhagfyr 2019. Mae’n darparu ar gyfer gweithredu’r Cytundeb Ymadael rhwng y DU a’r UE mewn cyfraith ddomestig.
Ar 8 Ionawr, cyhoeddodd y Gwasanaeth Ymchwil bapur ymchwil ar y Bil ynghyd â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru.
Beth sydd wedi digwydd yn San Steffan?
Ers cyhoeddi’n papur ymchwil, mae’r Bil wedi cwblhau ei daith drwy Dŷ’r Cyffredin. Cynigiodd Aelodau’r Senedd welliannau i’r Bil yn ystod y Cyfnod Pwyllgor ond ni chafodd yr un o’r gwelliannau hyn eu derbyn.
Yna, cafodd y Bil ei drafod yn Nhŷ’r Cyffredin. Yn ystod Pwyllgor y Tŷ Cyfan, awgrymodd yr Arglwyddi nifer o welliannau ond ni chafodd y rhain eu derbyn yn ystod y cyfnod hwn.
Heddiw bydd cyfle olaf i’r Arglwyddi ddiwygio’r Bil - disgwylir i’r Cyfnod Pwyllgor ddirwyn i ben heddiw, ac yna bydd y Trydydd Darlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi. Ddoe, yn ystod diwrnod cyntaf y Cyfnod Adrodd, trechwyd Llywodraeth y DU deirgwaith. Derbyniodd yr Arglwyddi welliant yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU ddarparu dogfennau papur i wladolion yr UE i brofi bod ganddynt hawl i aros yn y DU. Derbyniodd yr Arglwyddi hefyd welliannau i ddileu’r pŵer a roddir yn y Bil i Weinidogion y DU i basio rheoliadau’n pennu’r amgylchiadau pan allai llysoedd is wyro oddi wrth gyfraith achos yr UE ar ôl y cyfnod gweithredu a hefyd i ganiatáu i achosion gael eu cyfeirio at yr Uchel Lys i benderfynu a ddylid gwyrdroi cyfraith achos yr UE ai peidio. Bydd Tŷ’r Cyffredin yn trafod y gwelliannau hyn ac unrhyw welliannau eraill yfory.
Beth am Gymru?
Ar 6 Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil, yn nodi na allai argymell bod y Cynulliad yn rhoi ei gydsyniad i’r Bil.
Yr un diwrnod, cynhaliodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol sesiwn graffu gyda Phrif Weinidog Cymru i drafod materion yn ymwneud â’r Bil. Yn dilyn y cyfarfod hwnnw, ysgrifennodd (PDF, 381KB) y Prif Weinidog at y Pwyllgor yn nodi’r cymalau y mae Llywodraeth Cymru yn credu y mae angen cydsyniad ar eu cyfer, nad ydynt wedi’u rhestru gan Lywodraeth y DU ymhlith y cymalau y mae angen iddi roi cydsyniad iddynt.
Ar 8 Ionawr, ysgrifennodd (PDF, 82KB) Llywodraeth Cymru at Arglwydd Fowler, Llefarydd Tŷ’r Arglwyddi, yn gofyn i’r Arglwyddi gyflwyno gwelliannau (PDF, 152KB) i’r Bil er mwyn ceisio diogelu buddiannau’r sefydliadau datganoledig. Cyflwynodd yr Arglwyddi nifer o welliannau a oedd yr un fath â’r gwelliannau, neu’n debyg i’r gwelliannau, a gynigiodd Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, hyd yma, ni dderbyniwyd yr un o’r gwelliannau hyn.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol adroddiad, sef Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) - Cydsyniad deddfwriaethol, ar 16 Ionawr.
Ysgrifennodd y Pwyllgor hefyd at Steve Barclay, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r UE, i ddadlau o blaid y gwelliannau i gymal 29 yn y Bil i ganiatáu i’r deddfwrfeydd datganoledig fod yn rhan o’r gwaith o adolygu cyfraith tŷ DU yn ystod y cyfnod gweithredu.
Ar 17 Ionawr, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol adroddiad (PDF, 163KB) ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil.
Mewn llythyr (PDF, 127KB) dyddiedig 17 Ionawr, at Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r UE:
The Sewel Convention holds that the UK Government should not normally press ahead with legislation without legislative consent motions from devolved administrations but the circumstances of our departure from the European Union are specific, singular and exceptional.
Yn ei adroddiad ar y Bil, daeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i’r casgliad y byddai bwrw ymlaen â’r Bil heb gydsyniad datganoledig (ar faterion nad yw Llywodraeth y DU yn credu bod angen cydsyniad ar eu cyfer) yn arwain at “ganlyniadau cyfansoddiadol hynod niweidiol i ddyfodol Confensiwn Sewel a datganoli”.
A deddfwrfeydd datganoledig eraill?
Ar 8 Ionawr, penderfynodd Senedd yr Alban beidio â derbyn cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil a phleidleisiodd Cynulliad Gogledd Iwerddon ddoe i beidio â rhoi cydsyniad i’r Bil.
Erthygl gan Manon George, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru