Bil yr UE (Ymadael): Y datblygiadau diweddaraf

Cyhoeddwyd 19/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Ar ddydd Mawrth 13 Mawrth, cyflwynodd Llywodraeth y DU eu gwelliannau arfaethedig i gymal 11 o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (y Bil Ymadael) i'w hystyried yng Nghyfnod Pwyllgor y Bil yn Nhŷ'r Arglwyddi. Bydd Cymal 11, fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, yn gosod cyfyngiad newydd ar gymhwysedd deddfwriaethol y deddfwrfeydd datganoledig ar ôl Brexit, gan na fyddant yn gallu pasio deddfwriaeth sy'n anghydnaws â chorff cyfraith yr UE a gedwir o dan y Bil, oni bai bod y cyfyngiad yn cael ei godi gan Orchymyn yn y Cyngor.

Fel y trafodwyd mewn erthygl flaenorol, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn gwrthwynebu cymal 11 ac am ei newid. Gan na chafwyd cytundeb wedi nifer o gyfarfodydd Cydbwyllgor y Gweinidogion (Trafodaethau), mae'r ddwy Lywodraeth wedi cyflwyno eu biliau 'parhad' eu hunain.

Gwelliannau Llywodraeth y DU

Mae gwelliannau Llywodraeth y DU, a gyflwynwyd gan yr Arglwydd Callanan (rhif 302A yw'r prif welliant), yn newid cymal 11 trwy roi i ddeddfwrfeydd datganoledig y rhyddid i ddeddfu ar unrhyw faes o fewn eu pwerau, yn hytrach na gosod cyfyngiad cyffredinol ar gymhwysedd deddfwriaethol. Fodd bynnag, mae'r gwelliant arfaethedig yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU wneud rheoliadau sy'n gosod cyfyngiadau yn y meysydd datganoledig. Byddai angen i ddau Dŷ'r Senedd gymeradwyo'r rheoliadau hyn, ond ni fyddai angen i'r Cynulliad gytuno arnynt.

Ceir syniad o'r meysydd sy'n debygol o fod yn ddarostyngedig i gyfyngiadau a osodir gan Weinidogion y DU yn y dadansoddiad o fframweithiau (PDF, 197KB) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU. Mae'r ddogfen yn rhestru 24 maes polisi lle mae Llywodraeth y DU o'r farn y gall fod angen fframweithiau deddfwriaethol. Am ragor o wybodaeth am y dadansoddiad o fframweithiau, darllenwch ein herthygl.

O dan y newidiadau a gynigir i gymal 11, ni fyddai gofyniad i geisio cydsyniad y Cynulliad cyn gwneud rheoliadau a fyddai'n newid y setliad datganoli. Fodd bynnag, byddai gan Weinidogion y DU ddyletswydd i ymgynghori â Gweinidogion Cymru. Hefyd, byddai'n rhaid iddynt roi gwybodaeth i ddau Dŷ'r Senedd yn esbonio effaith y rheoliadau ac ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad ar y rheoliadau.

Byddai'r gwelliannau hefyd yn galluogi Gweinidogion y DU i ddiddymu'r pŵer i osod cyfyngiadau ar gymhwysedd y Cynulliad, a byddant yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion y DU adrodd i Senedd y DU bob tri mis ynghylch a ddylid diddymu'r pŵer, gan ystyried y cynnydd a wnaed i sefydlu fframweithiau cyffredin i'r DU gyfan.

Mewn llythyr at holl Aelodau'r Cynulliad, nododd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, ei farn ynghylch y gwelliannau i gymal 11 a'u disgrifio yn gynnig sylweddol.

Ymateb Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban

Yn dilyn cyfarfod Cydbwyllgor y Gweinidogion yn Llundain ar 8 Mawrth, lle trafodwyd gwelliannau arfaethedig Llywodraeth y DU, dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid:

...fy nealltwriaeth glir i oedd nad oedd y Llywodraeth yn bwriadu pwyso am bleidlais dros welliannau o'r fath, ac y byddai cyfle i gael trafodaeth bellach cyn cynhyrchu gwelliant terfynol ar gyfer Cyfnod Adrodd Tŷ'r Arglwyddi. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir y byddai wedi bod yn llawer iawn gwell cytuno ar welliannau rhwng y tair Llywodraeth cyn hyn. Fodd bynnag, yn fy marn i, nid yw gwelliant Llywodraeth y DU nawr yn gwneud unrhyw beth ond diogelu ei sefyllfa, fel opsiwn wrth gefn, yn yr un modd ag y mae'n deddfwriaeth Parhad ni yn ei wneud i Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:

Mae Llywodraeth y DU yn symud i’r cyfeiriad cywir ond nid yw ei chynnig diweddaraf, a gafodd ei wneud heb gytundeb y gweinyddiaethau datganoledig, yn ddigonol. Felly, nid oedd modd inni argymell bod y Cynulliad yn rhoi cydsyniad deddfwriaethol i’r Bil Ymadael ar sail y gwelliant sydd wedi’i gynnig.

Mewn llythyr at holl Aelodau Senedd yr Alban, dywedodd y Gweinidog dros Drafodaethau'r DU ynghylch Lle'r Alban yn Ewrop, Mike Russell, am y gwelliannau arfaethedig eu bod yn ‘well short of arrangements that could be recommended for legislative consent by the devolved government.’ Yn ôl y Gweinidog:

….a requirement only to consult the devolved administrations means that in practice the UK Government could ultimately make regulations notwithstanding the opposition of the devolved administrations, entirely at its discretion, with no safeguards to protect the interests of the devolved legislatures; and with none of the agreed constitutional arrangements in place that we would be entitled to expect if devolved competence is to be adjusted, even for a temporary period.

Mae Llywodraeth yr Alban o'r farn y dylai unrhyw reoliadau a wneir o dan y cymal 11 arfaethedig gael eu cymeradwyo gan y deddfwrfeydd datganoledig yn ogystal â Senedd y DU a bod angen ystyried gwelliannau Llywodraeth y DU ochr yn ochr â dogfen y dadansoddiad o fframweithiau:

The Scottish Parliament is being asked to agree these amendments with no certainty about the areas in which frameworks will be established, how these will work, how they will be governed and how we will go from temporary restrictions to longer terms solutions. That is unacceptable.

Yn yr un modd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford, wrth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar 5 Mawrth, fod y Bil a'r gwaith ar fframweithiau'n ymdoddi i'w gilydd:

…the principle of agreement, rather than the principle of imposition, is fundamental to us.

Y Datblygiadau Diweddaraf a'r Camau Nesaf

Ddydd Mercher 14 Mawrth, cynhaliwyd cyfarfod llawn o Gydbwyllgor y Gweinidogion rhwng Prif Weinidog y DU, Theresa May, Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon. Fodd bynnag, ni chafwyd cytundeb ar y gwelliannau i'r Bil Ymadael yn ystod y cyfarfod.

Yn ôl y BBC, dywedodd Carwyn Jones fod cynnydd wedi cael ei wneud ond nad oedd eto mewn sefyllfa i argymell rhoi cydsyniad i Bil.

I am hopeful that we will be in a position in the next few days - no more than a week or two I would say, as time is running out but we are not there yet.

Mewn datganiad i'r wasg a gyhoeddwyd gan Lywodraeth yr Alban ar ôl y cyfarfod, dywedodd Nicola Sturgeon:

The Scottish and Welsh Governments have made clear that there is a very important issue of principle at stake and we cannot and will not recommend approval of a bill that would undermine devolution by restricting our powers, even temporarily, without the consent of our Parliaments. We have already compromised by accepting that some powers could be used to agree frameworks on a UK wide basis – however, this must be subject to the consent of the devolved nations.

Yn y cyfamser, bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn bwrw ymlaen â'u biliau parhad. Cynhelir trafodion Cam 2 o Fil Llywodraeth Cymru, y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru), ym Mhwyllgor y Cynulliad Gyfan ddydd Mawrth 20 Mawrth. Y diwrnod wedyn, disgwylir i Aelodau Tŷ'r Arglwyddi drafod cymal 11 o'r Bil.


Erthygl gan Manon George, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru