Bil yr Amgylchedd Hanesyddol: beth mae'n ei wneud?

Cyhoeddwyd 05/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

05 Mai 2015 Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cenedlaethol Cynulliad Cymru [caption id="attachment_2933" align="alignnone" width="682"]Rob-blog Llun: o Flickr gan James Russell. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Ar 5 Mai 2015, bydd Ken Skates AC, y Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yn cyflwyno Bil yr Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru yn y Cyfarfod Llawn. Mae'r Bil hwn yn diwygio deddfwriaeth gyfredol sy'n llywodraethu'r gwaith o reoli henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig yng Nghymru, yn rhoi'r Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol presennol ar sail statudol ac yn creu Panel Cynghori newydd ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru.  Pa wahaniaeth fydd hyn yn ei wneud i dreftadaeth yng Nghymru? Cefndir Yn ôl yn 2011, yn ei Rhaglen Lywodraethu, dywedodd Llywodraeth Cymru, fod Bil Treftadaeth, gyda chefnogaeth polisi newydd ac ymgysylltiad cyhoeddus, yn ffordd allweddol o '[g]yfoethogi bywydau unigolion a chymunedau drwy ein diwylliant a’n treftadaeth'. Yn 2013, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar ei chynigion ar gyfer deddfwriaeth a pholisi yn ymwneud â'r amgylchedd hanesyddol. Yn dilyn hynny, dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon ar y pryd (John Griffiths AC) y byddai tri prif nod i gynigion y Bil:
  • Diogelu adeiladau a henebion rhestredig yn fwy effeithiol;
  • Dulliau gwell o reoli‘r amgylchedd hanesyddol yn gynaliadwy; ac
  • Mwy o dryloywder ac atebolrwydd o ran penderfyniadau a wneir ar yr amgylchedd hanesyddol.
Felly, beth mae'r Bil yn ei wneud mewn gwirionedd? Henebion Y brif gyfraith sy'n llywodraethu'r gwaith o ddiogelu henebion yng Nghymru yw Deddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979.  O dan Ddeddf 1979 mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chadw cofrestr o henebion ("y Gofrestr") sy'n bodloni meini prawf penodol a'u bod yn eu hystyried i fod o bwysigrwydd cenedlaethol. Yna, mae'r henebion hyn yn destun cyfundrefn ganiatâd, lle mae'n ofynnol i berchnogion gael caniatâd ar gyfer gwaith penodol. Nod Rhan 2 o'r Bil yw diwygio Deddf 1979 yn y ffyrdd allweddol canlynol:
  • Gwneud i Weinidogion Cymru ymgynghori cyn gwneud newidiadau i'r Gofrestr mewn ffyrdd penodol;
  • Rhoi gwarchodaeth statudol i heneb wrth i Weinidogion Cymru benderfynu pa un ai i'w chynnwys yn y Gofrestr, neu i wneud diwygiadau i'w chofnod yn y Gofrestr;
  • Sefydlu proses adolygu ar gyfer penderfyniadau Gweinidogion Cymru i gynnwys heneb yn y Gofrestr, neu i wneud diwygiadau i'w chofnod yn y Gofrestr;
  • Sefydlu "cytundebau partneriaeth dreftadaeth", lle gall Gweinidogion Cymru gytuno ymlaen llaw ar gyfres o newidiadau i'r heneb gofrestredig gyda'r perchennog;
  • Rhoi rhagor o bwerau i Weinidogion Cymru i weithredu pan fydd gwaith anawdurdodedig yn cael ei wneud ar heneb gofrestredig;
  • Cyfyngu ar yr amddiffyniad o anwybodaeth ar gyfer y rhai sy'n niweidio neu'n gwneud gwaith ar heneb heb ei awdurdodi;
  • Ymestyn y diffiniad o "heneb" i alluogi Gweinidogion Cymru i gofrestru unrhyw beth, neu grŵp o bethau, sy'n dangos tystiolaeth o weithgarwch dynol blaenorol. Mae Memorandwm Esboniadol y Bil yn amcangyfrif y bydd llai na 30 o safleoedd newydd yn gymwys ar gyfer eu cofrestru o dan y diffiniad estynedig; ac
Adeiladau rhestredig Y brif ddeddf sy'n ymwneud â diogelu adeiladau rhestredig yng Nghymru yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. O dan y Ddeddf hon, mae'n rhaid i Weinidogion Cymru lunio rhestr o adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae'n rhaid i adeilad gael ei restru os yw'n bodloni'r meini prawf cyhoeddedig. Unwaith y cânt eu dynodi, mae adeiladau rhestredig yn destun cyfundrefn ganiatâd, lle mae'n ofynnol i berchnogion gael caniatâd ar gyfer gwaith penodol. Nod Rhan 3 o'r Bil yw diwygio Deddf 1990 yn y ffyrdd allweddol canlynol:
  • Gwneud i Weinidogion Cymru ymgynghori wrth benderfynu a ddylid rhestru adeilad;
  • Rhoi gwarchodaeth statudol i adeilad wrth i Weinidogion Cymru benderfynu ynglŷn â rhestru;
  • Sefydlu proses adolygu ar gyfer penderfyniadau Gweinidogion Cymru i ddiwygio'r rhestr o adeiladau;
  • Galluogi perchennog neu ddatblygwr i wneud cais i Weinidogion Cymru am dystysgrif imiwnedd rhag rhestru (COI) ar unrhyw adeg. Mae'r dystysgrif hon yn atal Gweinidogion Cymru rhag rhestru adeilad am 5 mlynedd, ac yn atal awdurdod cynllunio lleol rhag cyflwyno hysbysiad cadw adeilad ar adeilad ar gyfer yr un cyfnod. Ar hyn o bryd, dim ond pan fydd cais wedi cael ei wneud am ganiatâd cynllunio, neu pan fydd caniatâd wedi'i roi y gellir gwneud cais am y dystysgrif hon;
  • Sefydlu "cytundebau partneriaeth dreftadaeth", lle gall Gweinidogion Cymru neu awdurdodau cynllunio lleol gytuno ymlaen llaw ar gyfres o newidiadau i adeilad rhestredig gyda'r perchennog; Bwriad hyn yw lleihau'r angen am geisiadau caniatâd unigol; a
  • Rhoi rhagor o bwerau i Weinidogion Cymru i atal gwaith anawdurdodedig ar adeilad rhestredig a gwneud gwaith atgyweirio brys i gadw adeilad rhestredig.
Y cofnodion amgylchedd hanesyddol Mae pedwar o Gofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'r Cofnodion hyn yn cadw gwybodaeth am yr amgylchedd hanesyddol ac asedion hanesyddol mewn ardal benodol ac yn rhoi mynediad at y wybodaeth honno. Cânt eu defnyddio gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau am yr amgylchedd hanesyddol. Mae'r Bil yn rhoi sail statudol iddynt, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn 2013. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i awdurdodau cynllunio lleol sicrhau bod y Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol hyn yn parhau i gael eu cynnal. Cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol Mae'r Bil yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio, cynnal a chyhoeddi cofrestr o barciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig. Argymhellwyd hyn gan ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i Bolisi Llywodraeth Cymru ar yr Amgylchedd Hanesyddol yn 2013. Cyhoeddwyd cofrestr anstatudol mewn cyfres o gyfrolau rhwng 1994 a 2007. Panel Cynghori ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru Mae'r Bil yn sefydlu Panel Cynghori ar gyfer Amgylchedd Hanesyddol Cymru, i gynghori Gweinidogion Cymru ar bolisi treftadaeth yng Nghymru. Ni fu erioed gorff gydag aelodau a benodwyd i gynghori Gweinidogion Cymru ar bolisi amgylchedd hanesyddol, er bod gan Lywodraeth Cymru Grŵp Amgylchedd Hanesyddol ar hyn o bryd. Nid oes gan y Grŵp hwn aelodau wedi'u penodi, ond mae'n fforwm o sefydliadau sydd â diddordeb yn yr amgylchedd hanesyddol. Gwaith Craffu gan Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad Y cam nesaf ar daith y Bil er mwyn dod yn Ddeddf yw gwaith craffu Cyfnod Un gan Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad. Bydd y Pwyllgor yn clywed gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth (Ken Skates AC) a phobl eraill sydd â diddordeb yn y sector treftadaeth cyn penderfynu a yw'n cytuno â'r egwyddorion y tu ôl i'r Bil. Yn eu hymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, dywedodd rhanddeiliaid, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fod nifer o'r problemau ar hyn o bryd, o ran rheoli treftadaeth Cymru, yn deillio o brinder cyllid yn hytrach na phroblemau gyda'r gyfraith o reidrwydd. Pe bai'r sector yn cael yr adnoddau priodol, awgrymodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol,
The existing system would deliver greater real benefits if this resource was in place alongside good management, supplemented with good technical advice on the ground.
Ai Bil sydd ei angen ar y sector, ynteu ai dim ond rhagor o arian, rheoli da a chyngor technegol pellach gan Lywodraeth Cymru? Fel arall, a fyddai'r newidiadau a ragwelir gan y Bil yn helpu'r sector i gyflenwi mwy gyda'r adnoddau sydd ganddo eisoes? Cwestiynau fel hyn y bydd y Pwyllgor yn eu hystyried yn ystod ei waith craffu ar y Bil. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg