Piod môr yn hedfan dros ddŵr

Piod môr yn hedfan dros ddŵr

Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru): Crynodeb o’r Bil

Cyhoeddwyd 10/06/2025

Cyflwynwyd Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) a’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd ag ef i’r Senedd ar 2 Mehefin 2025.

Nod y Bil yw sefydlu:

  • amcan amgylcheddol ac egwyddorion amgylcheddol;
  • corff statudol, “Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru”, sy’n gyfrifol am sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yn cydymffurfio â’u dyletswyddau o dan gyfraith amgylcheddol; a
  • fframwaith gosod targedau bioamrywiaeth.

Mae’r Crynodeb hwn o’r Bil yn rhoi cyd-destun i gyflwyniad y Bil, yn crynhoi ei ddarpariaethau fesul adran, ac yn nodi’r broses ddeddfwriaethol.

Bydd rhagor o gyhoeddiadau Ymchwil y Senedd ar gyfer y Bil yn cael eu cyhoeddi ar dudalen adnoddau’r Bil, wrth iddo deithio drwy’r Senedd.

 

Erthygl gan Dr Katy Orford,, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru a Gruffydd Owen Gwasanaethau Cyfreithiol y Senedd, Senedd Cymru.