Gwaith dur Port Talbot gyda heol yn y tu blaen

Gwaith dur Port Talbot gyda heol yn y tu blaen

Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) - Awyr iach i Gymru?

Cyhoeddwyd 15/06/2023   |   Amser darllen munud

Yn ei Rhaglen Lywodraethu ar gyfer 2021-2026, ailadroddodd Llywodraeth Cymru ei hymrwymiad i gyflwyno Deddf Aer Glân i Gymru a fyddai’n gyson â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO).

Wedi disgwyl mawr, cafodd Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) ei gyflwyno i'r Senedd ym mis Mawrth, gydaPhwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn cynnal gwaith craffu Cyfnod 1 arno yn ddiweddar.

Ond beth mae'r Bil yn ei wneud, a beth sydd nesaf?

Beth yw'r broblem o ran llygredd?

Ar raddfa fyd-eang, mae’r WHO yn dweud bod effeithiau cyfunol llygredd aer amgylchynol a llygredd aer cartrefi yn gysylltiedig â 6.7 miliwn o farwolaethau cynamserol bob blwyddyn. Yr amcangyfrif yw bod aer gwael yn achosi rhwng 29,000 a 43,000 o farwolaethau y flwyddyn.

Yng Nghymru, dywed Awyr Iach Cymru mai llygredd aer yw'r bygythiad amgylcheddol mwyaf i iechyd y cyhoedd, y tu ôl i ysmygu, a’i fod yn cyfrannu at yr argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur sy’n ein hwynebu.

Mae aer glân hefyd yn fater o gyfiawnder cymdeithasol - mae ymchwilwyr wedi disgrifio 'effaith perygl triphlyg' lle mae pobl o statws economaidd-gymdeithasol is yn agored i lefelau uwch o lygredd, a fydd yn arwain at risg uwch o iechyd gwael. Canfu astudiaeth o 2016 fod llygredd aer yn uwch yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru a daeth i’r casgliad bod cysylltiad anorfod rhwng llygredd aer, amddifadedd ac iechyd.

Mewn erthygl gennym yn 2021, trafodwyd y ffaith bod rhai ardaloedd yng Nghymru wedi torri terfynau llygryddion ers sawl blwyddyn, ac yn sgil hynny fe aethpwyd â Llywodraeth Cymru i’r llys am ei diffyg gweithredu. Dyfarnodd yr Uchel Lys fod dull Llywodraeth Cymru o fynd i’r afael ag achosion o dorri terfynau nitrogen deuocsid ar y pryd yn anghyfreithlon.

Mae asesiad cydymffurfio llygredd aer diweddaraf DEFRA (2021) yn dangos bod Parth De Cymru yn parhau i fethu â bodloni’r terfyn gwerth blynyddol ar gyfer nitrogen deuocsid – terfyn a ddylasai fod wedi’i fodloni erbyn 2015.

Beth mae’r Bil yn ei wneud?

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y Bil yn rhan o becyn o fesurau a nodir yn ei Chynllun Aer Glân i leihau llygredd aer.

Pe bai'n cael ei ddeddfu, byddai'r Bil yn:

  • creu fframwaith gosod targedau ansawdd aer sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru osod targedau penodol i Gymru ar gyfer llygryddion aer – ond ni fyddai ond yn ofynnol i darged gael ei osod ar gyfer mater gronynnol mân (PM2.5);
  • ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori ar strategaeth ansawdd aer genedlaethol a’i chyhoeddi;
  • gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hybu ymwybyddiaeth o lygredd aer;
  • anelu at gryfhau'r gyfundrefn Rheoli Ansawdd Aer yn Lleol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gamau gweithredu/safonau yng Nghynllun Gweithredu Ansawdd Aer awdurdod lleol gynnwys dyddiad ar gyfer cydymffurfio y cytunir arno gyda Gweinidogion Cymru;
  • anelu at wella camau gorfodi o ran allyriadau mewn Ardaloedd Rheoli Mwg, gan newid o sancsiynau troseddol i sancsiynau sifil;
  • ehangu'r amgylchiadau y caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno cynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd;
  • caniatáu i Weinidogion Cymru bennu yr ystod ariannol ar gyfer dyroddi taliadau cosb am droseddau lle mae cerbydau’n segura; a
  • gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth seinweddau genedlaethol – sef rhywbeth na chafodd gynnwys yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Papur Gwyn.

Pa ymateb a gafwyd?

Pan gyflwynwyd y Bil i’r Senedd, cafodd y Bil ei groesawu yn fras gan Aelodau o bob rhan o’r Siambr. Wrth ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, mae rhanddeiliaid hefyd wedi cefnogi ei egwyddorion yn gyffredinol.

Dywedodd Awyr Iach Cymru wrth y Pwyllgor y byddai’r Bil, o’i basio, yn gwneud newid mawr i iechyd y cyhoedd a’n hamgylchedd. Fodd bynnag, dywedodd hefyd y gallai fod yn gryfach, gan rybuddio:

…if a Minister came into position who was not as keen on this agenda, in theory not much would actually change.

Mae’r gofyniad i Weinidogion Cymru osod targed ar gyfer PM2.5 wedi cael ei groesawu, ond mae llawer wedi gofyn pam y mae’n rhaid i hyn bellach gael ei bennu o fewn tair blynedd i’r Bil gael Cydsyniad Brenhinol, yn hytrach na’r ddwy flynedd a gynigiwyd yn y Papur Gwyn. Dywedodd yr Athro Enda Hayes o Brifysgol Gorllewin Lloegr wrth y Pwyllgor: “we can be a lot more ambitious in terms of the timelines, the targets and how we are going to get there”.

Mae llawer o randdeiliaid, gan gynnwys Cymdeithas Feddygol Prydain, Awyr Iach Cymru, Cydffederasiwn y GIG a Living Streets yn pryderu nad fydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw dargedau a bennir fod yn gyson â’r lefelau a nodir yng nghanllawiau WHO. Cafodd y ffaith bod y Rhaglen Lywodraethu yn ymrwymo i gyflwyno “Deddf Aer Glân i Gymru, yn gyson â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd” ei amlygu ar gyfer y Pwyllgor.

Targed ar gyfer PM2.5 yn unig a fyddai’n ofynnol o dan y Bil, nid llygryddion eraill (er y gallai Llywodraeth Cymru eu cynnwys pe dymunai), ac mae hynny hefyd wedi cael ei gwestiynu.

Mae canllawiau cyfredol Sefydliad Iechyd y Byd yn ymdrin â sawl llygrydd: PM10, PM2.5, Osôn, Nitrogen Deuocsid, Sylffwr Deuocsid, a Charbon Monocsid. Yn ôl Awyr Iach Cymru, dylai'r Bil gynnwys gofyniad i dargedau gael eu pennu ar gyfer yr holl lygryddion a gwmpesir gan y canllawiau.

Mae eraill, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, wedi galw am ofyniad i bennu targed ar gyfer amonia – er nad yw yng nghanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd. Canfu astudiaeth ddiweddar fod allyriadau amaethyddol, sef prif ffynhonnell allyriadau amonia, yn gyfrifol am fwy na chwarter y llygredd gronynnau yn ninasoedd y DU. Canfu adroddiad cynnydd Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU ym mis Mehefin 2023 ar leihau allyriadau yng Nghymru mai ychydig o gynnydd a wnaed o ran lleihau allyriadau amaethyddol.

Mae’r diwygiadau i ddeddfwriaeth bresennol ar Reoli Ansawdd Aer yn Lleol, a fyddai’n cael eu gwneud gan y Bil, wedi’u croesawu’n gyffredinol. Awgryma Awyr Iach Cymru fod y broses bresennol yn annigonol a’i fod yn creu dryswch i’r cyhoedd ac yn rhoi darlun ffug o’r heriau llygredd aer y mae Cymru yn eu hwynebu.

Mae agweddau ar y Bil sy’n ymwneud ag allyriadau cerbydau hefyd wedi cael eu croesawu, yn bennaf gan y sectorau iechyd ac amgylcheddol. Ar hyn o bryd, mae gan Weinidogion Cymru bwerau i greu cynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd mewn amgylchiadau penodol a chyfyngedig iawn. Byddai’r Bil yn galluogi cynlluniau codi tâl i gael eu cyflwyno “i leihau llygredd aer neu gyfyngu arno”.

Mae Memorandwm Esboniadol y Bil yn cyfeirio at y pwerau hyn yn cael eu defnyddio i greu taliadau Parthau Aer Glân - lle gellir codi tâl ar gerbydau penodol am fynd i mewn iddynt - ond mae’n dweud nad oes “unrhyw ymrwymiad i gyflwyno Parthau Ansawdd Aer unrhyw le yng Nghymru ar hyn o bryd”. Mae’r pryderon a godwyd gyda’r Pwyllgor yn ymwneud yn bennaf â dyluniad unrhyw gynlluniau, gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlygu‘r potensial i gynlluniau gael effaith anghymesur ar bobl mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol is. Er iddi gefnogi uchelgais y Bil, dywed y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd fod ganddi bryderon sylweddol ynghylch cynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr gefnffyrdd.

Mae Sustrans, Living Streets a Cycling UK ill tri yn awgrymu y dylai’r enillion net a geir o unrhyw gynllun gael eu neilltuo ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol – fel y’i drafftiwyd, nid yw’r Bil yn cyfyngu ar sut y gallai enillion gael eu defnyddio.

Nid oedd cynnwys seinweddau yn y Bil yn rhan o’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, ond mae tystiolaeth a glywyd gan y Pwyllgor yn dangos cefnogaeth i wneud hynny, gyda llawer yn cydnabod y cysylltiadau rhwng ansawdd aer a sŵn. Gan ddefnyddio diffiniad Llywodraeth Cymru, sef “yr amgylchedd acwstig (h.y. sain) fel y mae’n cael ei ganfod neu ei brofi a/neu ei ddeall gan berson neu bobl mewn cyd-destun penodol”, byddai'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi strategaeth seinweddau genedlaethol.

Dywedodd y Sefydliad Acwsteg wrth y Pwyllgor fod Cymru ar flaen y gad o ran ymgorffori seinweddau mewn deddfwriaeth.

Beth nesaf?

Bydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn cyhoeddi ei adroddiad Cyfnod 1 yn fuan, gyda dadl yn y Cyfarfod Llawn yn cael ei chynnal ar ôl toriad yr haf. Os cytunir ar egwyddorion cyffredinol y Bil, bydd yn symud i Gyfnod 2 yn y broses ddeddfwriaethol.

Cadwch olwg am ragor o gyhoeddiadau gennym wrth i’r Bil fynd drwy’r Senedd.


Erthygl gan Francesca Howorth, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru