Bil Ymadael â'r UE yn dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin

Cyhoeddwyd 11/06/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 15 Mai, cynhaliwyd dadl ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (y Bil Ymadael), ac fe'i cymeradwywyd gan y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn. Y diwrnod canlynol, pasiodd y Bil y Trydydd Darlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi, a chaiff ei ddychwelyd i Dŷ'r Cyffredin ddydd Mawrth 12 Mehefin a dydd Mercher 13 Mehefin i drafod y newidiadau a wnaed gan yr Arglwyddi.

Gwelliannau gan yr Arglwyddi

Gwnaed tua 200 o newidiadau (PDF, 258KB) i'r Bil yn ystod Cyfnod Adrodd a Thrydydd Darlleniad yr Arglwyddi, gan gynnwys 15 newid a wnaed drwy drechu Llywodraeth y DU. Mae rhai o'r prif newidiadau anllywodraethol a wnaeth yr Arglwyddi i'r Bil yn cynnwys gwelliannau i ddarparu ar gyfer:

  • Gweinidogion y DU i wneud datganiad sy'n amlinellu'r camau a gymerwyd yn ystod negodiadau Erthygl 50 i alluogi'r DU i barhau i fod yn rhan o undeb tollau gyda'r UE;
  • cyfraith yr UE a ddargadwyd sy'n ymwneud â chyflogaeth, cydraddoldeb, iechyd a diogelwch, hawliau cwsmeriaid ac amgylcheddol i gael ei diwygio neu ei diddymu gan ddeddfwriaeth sylfaenol yn unig ar ôl Brexit;
  • y rhan fwyaf o hawliau sylfaenol siarter yr UE i barhau'n rhan o'r gyfraith ddomestig ar ôl Brexit;
  • Gweinidogion y DU ond i basio rheoliadau o dan y Bil pan fo'n angenrheidiol yn hytrach na phan fônt yn ei hystyried yn briodol;
  • cymeradwyaeth seneddol i gael mandad ar gyfer cynnal negodiadau ynghylch y berthynas â'r UE yn y dyfodol;
  • rhoi “pleidlais ystyrlon” i Senedd y DU ynghylch canlyniad y Cytundeb Ymadael;
  • parhad Cytundeb Gwener y Groglith ac atal trefniadau ar gyfer ffiniau newydd;
  • parhau'n rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; a
  • pwyllgorau seneddol i sifftio'r rheoliadau a wneir o dan gymalau penodol o'r Bil, ac i'r Gweinidogion gael eu rhwymo gan benderfyniad y pwyllgorau hynny ynghylch p'un a ddylai'r rheoliadau fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol ynteu'r weithdrefn gadarnhaol.

Yn ogystal â'r pwyntiau uchod, yn ystod Cyfnod Adrodd yr Arglwyddi, gwnaed nifer o welliannau gan Lywodraeth y DU yn ddiwahan oddi wrth gymalau datganoli'r Bil, wedi i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ddod i gytundeb ynghylch y newidiadau i gymal 11 (sef cymal 15 bellach). Mae'r gwelliant i'r cymal yn rhoi rhyddid i'r deddfwrfeydd datganoledig ddeddfu ar unrhyw feysydd o fewn eu pwerau, yn hytrach na gosod cyfyngiad cyffredinol ar gymhwysedd deddfwriaethol fel y darparwyd ar ei gyfer yn y Bil yn flaenorol. Fodd bynnag, mae'r gwelliant hwn yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU wneud rheoliadau yn gosod cyfyngiadau ar feysydd datganoledig tra bo fframweithiau cyffredin y DU yn cael eu datblygu. I gael rhagor o wybodaeth am y gwelliannau y cytunwyd arnynt, gweler ein herthygl flaenorol.

Dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin

O ran y newidiadau a wnaed i'r Bil o ganlyniad i drechu Llywodraeth y DU, mae'r gwelliannau (PDF, 186KB) a gyflwynwyd cyn y ddadl yr wythnos hon yn awgrymu mai bwriad Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yw derbyn un gwelliant, addasu un, disodli tri a gwrthod naw. Mae'r gwelliannau a gaiff eu gwrthod yn cynnwys y rhai sydd wedi'u rhestru uchod ac eithrio'r gwelliant “pleidlais ystyrlon” y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei ddisodli, a'r gwelliant y mae'n bwriadu ei dderbyn ar ôl ei addasu, sef gwneud darpariaeth ar gyfer parhad y cydweithio rhwng y Gogledd a'r De drwy atal trefniadau newydd ar gyfer ffiniau Gogledd Iwerddon.

O ran y gwelliant “pledlais ystyrlon”, mae'r gwelliannau a gyflwynwyd yn awgrymu bod Llywodraeth y DU yn bwriadu disodli'r pŵer a roddwyd i Senedd y DU i gyflwyno cyfarwyddyd ag iddo rwymediaeth cyfreithiol ynghylch negodiadau Erthygl 50 os byddai Tŷ'r Cyffredin yn penderfynu peidio â chymeradwyo'r cytundeb ymadael a chan osod dyletswydd ar Weinidogion y DU i nodi sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu bwrw ymlaen â'r negodiadau.

Yn ogystal â newidiadau'r Llywodraeth i welliannau'r Arglwyddi, mae Plaid Cymru a'r SNP wedi cyflwyno gwelliannau datganoli yn cynnig newid cymal 15 (sef cymal 11 yn flaenorol), fel y diwygiwyd gan yr Arglwyddi, drwy ddileu'r pŵer i osod cyfyngiadau ar gymhwysedd deddfwriaethol y deddfwrfeydd datganoledig. Mae'r gwelliant hwn yr un fath yn union â'r gwelliant a ddrafftiwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn ystod cyfnod trafod Pwyllgor Tŷ'r Cyffredin ar y Bil.

Yn y cyfnod hwn yn y broses ddeddfwriaethol, ni fydd Tŷ'r Cyffredin yn trafod y Bil cyfan, dim ond y newidiadau a wnaed gan yr Arglwyddi. Bydd y Bil wedyn yn cael ei ddychwelyd i Dŷ'r Arglwyddi er mwyn i'r Arglwyddi drafod y newidiadau a wnaed gan Dŷ'r Cyffredin i'w gwelliannau. Bydd rhaid i ddau Dŷ Senedd y DU gytuno ar destun terfynol y Bil cyn iddo allu cael Cydsyniad Brenhinol. Gelwir y broses hon yn “ping pong”.

Datblygiadau yn y Cynulliad

O ddiddordeb penodol i'r Cynulliad fydd tynged gwelliant Arglwydd Llys-faen, sy'n rhwymo Gweinidogion y DU gan benderfyniad y pwyllgor sifftio seneddol. Cafodd argymhelliad tebyg iawn ei gymeradwyo'n unfrydol gan y Cynulliad ar 7 Mawrth yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, sef 'Craffu ar reoliadau a wnaed o dan Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)' (PDF, 660KB). Fodd bynnag, nid yw'r Bil fel y mae wedi'i ddiwygio ar hyn o bryd yn cymhwyso'r newid hwn i weithdrefnau'r pwyllgor sifftio yn y Cynulliad. Mae'r gwelliannau a gyflwynwyd yn awgrymu bod Llywodraeth y DU yn bwriadu gwrthod y newid hwn. Yn dilyn methiant gwreiddiol llywodraethau'r DU i ddod i gytundeb ar y Bil Ymadael, pasiodd Llywodraeth Cymru y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a gyfeiriwyd yn ddiweddarach at y Goruchaf Lys (rhagor o fanylion yma). Ar ôl dod i gytundeb ar y Bil, ac wedi i'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad, fe wnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru ysgrifennu at y Llywydd yn cadarnhau bod y broses gyfeirio wedi'i thynnu'n ôl ac nad oedd yn bwriadu defnyddio ei bŵer i atal y Bil rhag cael ei gyflwyno i dderbyn Cydsyniad Brenhinol. O ganlyniad, rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i'r Bil ar 6 Mehefin a bydd Gweinidogion Cymru bellach yn gallu diddymu'r Ddeddf.


Erthygl gan Manon George, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun: o Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons.