- I streic gael ei gymeradwyo, bydd angen balot gyda thros 50 y cant o’r rhai sydd â’r hawl i bleidleisio yn bwrw eu pleidlais, ac o ran “gwasanaethau cyhoeddus pwysig", bydd rhaid i unrhyw weithredu arfaethedig gael ei gymeradwyo gan fwyafrif nad yw’n llai na 40 y cant.
- Bellach, bydd rhaid i undebau roi o leiaf pythefnos o rybudd i gyflogwyr am unrhyw weithredu diwydiannol.
- Ni fyddai undebau'n gallu didynnu cyfraniadau i bleidiau gwleidyddol yn awtomatig o ffioedd eu haelodau mwyach. Byddai'n rhaid i aelodau ddewis gwneud unrhyw gyfraniadau o'r fath.
- Hefyd, bydd gweithgareddau a chyllid undebau yn cael eu rheoleiddio yn fwy llym. Rhoddir pwerau i'r Swyddog Ardystio (sy'n rheoleiddio undebau) i weld ac ymchwilio i restri aelodaeth, hyd yn oed os nad oes neb wedi cwyno amdanynt.
- Yn ogystal, ni fydd gweithwyr sector cyhoeddus yn gallu talu ffioedd undeb yn uniongyrchol drwy eu cyflogau; yn hytrach bydd yn rhaid iddynt gofrestru a thalu am eu haelodaeth undeb yn annibynnol.
Bil Undebau Llafur y DU a Chydsyniad Deddfwriaethol
Cyhoeddwyd 14/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
14 Mawrth 2016
Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_4776" align="alignnone" width="682"] Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Cyflwynwyd y Bil Undebau Llafur 2015-16 yn Nhŷ'r Cyffredin ar 15 Gorffennaf 2015. Mae'r Bil yn gwneud newidiadau i'r Ddeddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992. Mae'n cynnwys y darpariaethau canlynol: