Cyflwynwyd Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) i'r Senedd ar 3 Tachwedd 2025.
Mae’r dudalen hon yn dwyn ynghyd gyhoeddiadau allweddol gan Ymchwil y Senedd i gefnogi’r gwaith o graffu ar y Bil. Caiff ei diweddaru wrth i’r Bil fynd drwy broses ddeddfwriaethol y Senedd.
Gallwch ddilyn hynt y Bil ar dudalen Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau). Mae hyn yn cynnwys y Bil ei hun a’r Memorandwm Esboniadol, sy’n cynnwys Nodiadau Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol.
- Erthygl gan Ymchwil y Senedd: Bil newydd yn ceisio cryfhau atebolrwydd Aelodau a mynd i'r afael â chamwybodaeth mewn etholiadau (4 Tachwedd 2025)
Erthygl gan Josh Hayman a Nia Moss, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru