Bil Pysgodfeydd y DU a Chymru

Cyhoeddwyd 26/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 25 Hydref, cyflwynodd Llywodraeth y DU y Bil Pysgodfeydd i Senedd y DU. Mae'r Bil yn cefnogi'r broses o symud i ffwrdd o Bolisi Pysgodfeydd Cyffredin yr UE, ac mae'n darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer y DU i reoli ei dyfroedd ei hun, fel gwladwriaeth arfordirol annibynnol o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith y Môr 1982 (UNCLOS).

Y Bil yw'r cyntaf o fframweithiau cyffredin deddfwriaethol y DU gyfan, o fewn cymhwysedd datganoledig Cymru.

Mae'n darparu nifer o bwerau a fydd yn galluogi Gweinidogion y DU, a'r Gweinyddiaethau Datganoledig, i gyflwyno is-ddeddfwriaeth. Mae'r Bil yn cynnwys nifer o bwerau dirprwyedig eang gyda'r nod o greu cyfundrefn pysgodfeydd deinamig ac adweithiol. Nid yw'n nodi polisi manwl.

I gyd-fynd ag ef mae memorandwm pwerau dirprwyedig, sy'n nodi bod Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA):

…has sought to balance the need for powers broad enough to allow us to react quickly to changes in the international fisheries management regime and to scientific advice against the need for effective Parliamentary oversight. It has considered carefully the nature of the powers being sought. Many fisheries measures are highly technical and in the Department’s view they are best dealt with in future secondary legislation.

Beth sydd yn y Bil i Gymru?

Mae pysgodfeydd yn fater sydd wedi'i ddatganoli ac mae'r Bil yn cynnwys nifer o bwerau a fydd yn arferadwy gan Weinidogion Cymru a'r Gweinyddiaethau Datganoledig eraill, yn ogystal â'r Ysgrifennydd Gwladol.

Er mwyn cefnogi ymagwedd gyson tuag at reoli pysgodfeydd ledled y DU, mae'r Bil yn cynnwys rhai pwerau sy'n arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â materion datganoledig. Fodd bynnag, dim ond gyda chaniatâd y gweinyddiaethau datganoledig y gellir defnyddio'r pwerau hyn.

Yn gyffredinol, mae'r rhan fwyaf o'r Cymalau yn y Bil yn berthnasol i Gymru, ac maent o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Byddant felly yn gofyn am gydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad.

Amcanion pysgodfeydd

Mae'r Bil yn disodli'r amcanion cynaliadwyedd sydd yn y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin ar hyn o bryd, gan wneud yr amcanion ar gyfer y Gweinyddiaethau Pysgodfeydd neu'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae Cymal 1 y Bil yn rhestru ac yn diffinio cyfres o amcanion pysgodfeydd, sef:

  • yr amcan cynaliadwyedd; sy'n sicrhau “that fishing and aquaculture activities are environmentally sustainable in the long term”.
  • yr amcan rhagofalus; “to apply the precautionary approach to fisheries management”.
  • amcan yr ecosystem; “to ensure that negative impacts of fishing activities on the marine environment are minimised, and … that aquaculture and fisheries activities avoid the degradation of the marine environment”.
  • yr amcan tystiolaeth wyddonol; “to contribute to the collection of scientific data, and … base fisheries management policy on the best available scientific advice”.
  • yr amcan taflu yn ôl; “to gradually eliminate discards, on a case by case basis”.
  • yr amcan mynediad cyfartal. Mae hyn yn sicrhau bod gan bob cwch pysgota yn y DU fynediad cyfartal at ddyfroedd y DU.

Mae Cymal 2 yn diffinio Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd (JFS), y mae'n rhaid i bedwar Gweinyddiaeth Pysgodfeydd y DU ei fabwysiadu, gan nodi sut y bydd eu polisïau'n cyflawni neu'n cyfrannu at gyflawni'r amcanion pysgodfeydd a ddiffinnir yng Nghymal 1. Mae hefyd yn nodi'r gofyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol baratoi datganiad pysgodfeydd yr Ysgrifennydd Gwladol (SSFS), i nodi polisïau mewn nifer o feysydd, gan gynnwys:

  • (i) contributing to the achievement by 2020 of a good environmental status (within the meaning of the Marine Strategy Framework Directive).

Mae'r cymal hwn hefyd yn diffinio Gweinidogion Cymru fel yr awdurdod polisi pysgodfeydd i Gymru.

Yn hollbwysig, mae Cymal 3 yn nodi bod yn rhaid i JFS gael ei baratoi gan yr awdurdodau polisi pysgodfeydd yn gweithredu ar y cyd, a rhaid i'r JFS a'r SSFS cyntaf gael eu paratoi a'u cyhoeddi cyn 1 Ionawr 2021. Rhaid gosod y JFS mewn drafft gerbron pob un o'r deddfwrfeydd er mwyn iddynt graffu arno, ac ymgynghori arnynt yn briodol. Mae Atodlen 1 yn nodi sut y dylid paratoi a chyhoeddi'r datganiadau.

Mae cymalau 4 - 6 yn edrych ar welliannau, adolygu ac effaith y datganiadau.

Cymryd rheolaeth yn ôl

Mae Cymal 7 yn dileu'r hawliau awtomatig presennol i longau'r UE bysgota yn nyfroedd y DU. Drwy ddirymu Erthygl 5 o Reoliad y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin, ac Atodiad 1 iddo, sy'n darparu ar gyfer mynediad cyffredin at ddyfroedd yr UE gan longau Aelod-wladwriaethau'r UE, bydd y DU yn rheoli mynediad cychod pysgota tramor i'w dyfroedd.

Mae Cymal 8 yn nodi'r trefniadau mynediad h.y. drwy drwydded neu ddiben a gydnabyddir gan gyfraith ryngwladol.

Yn gyffredinol, mae cymalau 7-17 ac Atodlen 2 yn atgyfnerthu ac yn egluro'r gyfraith bresennol o ran trwyddedu cychod pysgota, yn ogystal â gwneud rhai newidiadau polisi. Maent yn darparu newidiadau i'r drefn bresennol ar gyfer trwyddedu llongau'r DU, yn ogystal â gwneud darpariaethau ar gyfer trwyddedu cychod pysgota nad ydynt o'r DU yn nyfroedd y DU.

Mae Cymal 10 yn darparu ei bod yn fater i bob cenedl o'r DU drwyddedu eu llongau pysgota eu hunain - byddai Gweinidogion Cymru yn gallu rhoi trwydded pysgota mewn perthynas â llong bysgota o Gymru, ac yn y blaen.

Cyfleoedd pysgota

Mae Cymal 18 yn nodi'r pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol bennu 'cyfleoedd pysgota', a ddiffinnir yn y Bil fel:

  • (a) the maximum quantity of sea fish that may be caught by British fishing boats;
  • (b) the maximum number of days that British fishing boats may spend at sea.

Y swm mwyaf a bennir fydd y 'cwota dal', a'r diwrnodau mwyaf a bennir fydd y 'cwota ymdrech'.

Mae'r swyddogaethau hyn yn cael eu cadw i'r Ysgrifennydd Gwladol at y diben o gydymffurfio â rhwymedigaeth ryngwladol y DU. Gallai'r dibenion hyn gynnwys cytundebau gyda'r UE neu wladwriaethau arfordirol eraill, neu ymrwymiadau o dan UNCLOS.

Mae'r Cymal hwn yn disodli'r ddarpariaeth gyfredol yng nghyfraith yr UE sy'n caniatáu i'r Cyngor Ewropeaidd bennu cyfleoedd pysgota ar gyfer dyfroedd yr UE.

Mae Cymalau 19 - 21 yn ymdrin â'r dyletswyddau sy'n ymwneud â dosbarthu cyfleoedd pysgota a phenderfynu arnynt, a sicrhau na ragorir ar gyfleoedd pysgota.

Popeth arall

Ar hyn o bryd o dan aelodaeth y DU o'r UE a'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin, rhoddir cymorth ariannol drwy Gronfa Pysgodfeydd Morwrol Ewrop (EMFF). Mae Cymal 28 yn cyflwyno Atodlen 4, sy'n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru roi neu drefnu cymorth ariannol i unrhyw berson at ddibenion penodol, gan gynnwys:

  • (a) the conservation, enhancement or restoration of the marine and aquatic environment; and
  • (b) the promotion or development of commercial aquaculture activities or commercial fish activities;

Mae paragraff 2 o Atodlen 4 yn nodi bod yn rhaid rhoi cymorth ariannol yn unol â chynllun a sefydlwyd gan reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru. Mae'r pwerau hyn ar gael mewn perthynas â Chymru, parth Cymru, neu gychod pysgota o Gymru.

Mae Cymal 31 yn rhoi pwerau eang i wneud darpariaethau ar faterion y mae'r UE yn eu rheoleiddio o dan y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin, sef:

  • (a) for the purpose of implementing an international obligation of the United Kingdom relating to fisheries, fishing or aquaculture,
  • (b) for a conservation purpose; or
  • (c) for a fish industry purpose.

Diffinnir 'diben cadwraeth' a 'diben diwydiant pysgod, ac mae'r Cymal yn rhestru'r materion y mae'n rhaid i'r rheoliadau fod yn gysylltiedig â hwy.

Mae Cymal 33 yn darparu pwerau gwneud rheoliadau er mwyn darparu ar gyfer clefydau anifeiliaid dyfrol. Rhaid ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud unrhyw ddarpariaethau o dan y Cymalau hyn.

Fodd bynnag, mae Cymal 37 yn cyflwyno Atodlen 6, sy'n rhoi pwerau deddfu cyfatebol i Weinidogion Cymru mewn perthynas â Chymalau 31 a 33. Yn yr un modd, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r awdurdodau polisi pysgodfeydd eraill, ac unrhyw bersonau priodol eraill, cyn gwneud darpariaethau o dan y Cymalau hyn.

Cadwraeth forol

Mae Cymal 7 yn cyflwyno Atodlen 7, sy'n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud Gorchmynion mewn perthynas ag ecsbloetio pysgodfeydd môr, ac effaith pysgota ar gadwraeth forol.

Mae'r darpariaethau hyn yn disodli mesurau'r UE ar gyfer diogelu'r amgylchedd morol ym mharth alltraeth yr Aelod-wladwriaethau. Drwy ddiwygio Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (MCAA), mae Gweinidogion Cymru yn gallu gwneud Gorchmynion mewn perthynas â Chymru ac ardal alltraeth Cymru, at ddibenion cadwraeth.

Sut y derbyniwyd y Bil?

Llywodraeth Cymru

Ar adeg ysgrifennu'r blog hwn, nid yw Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, wedi gwneud sylwadau ar y Bil na chyhoeddi datganiad ysgrifenedig. Fodd bynnag, ar 15 Tachwedd, gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gerbron y Cynulliad, sy'n dweud bod "Llywodraeth Cymru ar y cyfan yn cefnogi'r Bil fel y'i drafftiwyd, ar wahân i gymal 18”.

Mae Cymal 18 yn darparu pwerau eang i'r Ysgrifennydd Gwladol bennu cwotâu'r DU, a allai, fel y'u drafftiwyd, fod yn berthnasol i stociau sydd yn gyfan gwbl o fewn dyfroedd un o'r gweinyddiaethau datganoledig. Mae'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn nodi bod Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried dau fater arall:

  • ceisio sicrhau bod cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â chymhwysedd deddfwriaethol Gweinidogion Cymru; a
  • [chaniatáu] i Weinidogion Cymru gael newid yr amodau a roddir ar unrhyw drwydded yn unol â'r Ddeddf. Byddai hynny'n caniatáu inni reoli'n pysgodfeydd mewn ffordd llawer mwy hyblyg ac ymatebol.

Ymateb rhanddeiliaid

Mae GreenerUK wedi cyhoeddi papur briffio cyn ail ddarlleniad y Bil, ddydd Mercher 21 Tachwedd. Mae'n croesawu'r Bil ac yn arbennig cynnwys amcanion y pysgodfeydd. Fodd bynnag, mae'n dweud:

…a significant omission is the lack of duty placed on authorities to deliver these objectives. This risks undermining the government’s aim of delivering truly sustainable fisheries management and with it thriving, healthy stocks, and consumer confidence that UK seafood is sustainably produced.

Dywedodd erthygl ddiweddar yn Fishing News fod arweinwyr y diwydiant pysgota yn rhoi 'croeso gofalus' i'r Bil, ond tynnodd sylw hefyd at y ffaith y bydd llawer o fanylion i'w datrys yn y misoedd sydd i ddod.


Erthygl gan Lorna Scurlock, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru