Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru): Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cyhoeddi ei adroddiad

Cyhoeddwyd 23/07/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad wedi cyhoeddi ei adroddiad ar y broses graffu ar Gyfnod 1 Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).  Treuliodd y Pwyllgor y 3 mis diwethaf yn gwrando ar dystiolaeth gan y rhai a fydd yn darparu'r gwasanaethau a gwmpesir gan y Bil a rhai o'r bobl a fydd yn eu defnyddio.  Yn yr adroddiad amlinellir casgliadau'r Pwyllgor a'r 61 o argymhellion a wnaethpwyd ganddo ar egwyddorion cyffredinol y Bil. At ei gilydd, mae'r Pwyllgor yn cefnogi egwyddorion y Bil, sy'n cynnwys pwyslais newydd ar wasanaethau ataliol a lles a gwella llais a rheolaeth pobl ifanc sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol, ond mae ganddo rai amheuon ynghylch a fydd yr amcanion polisi'n cael eu cyflawni'n ymarferol. Dywed yr adroddiad fod angen egwyddorion statudol ar y Bil sy'n amlinellu'r hyn y mae'n ceisio'i gyflawni.  Awgryma y gallai'r rhain gynnwys: parch tuag at urddas, annibyniaeth a hawliau dynol; a hyrwyddo llesiant, cyfranogiad defnyddwyr a lles plant. Un o'r prif broblemau i'r Pwyllgor yw'r diffyg gwybodaeth fanwl am y fframwaith cymhwystra cenedlaethol arfaethedig sy'n amlinellu pwy all gael gwasanaethau gofal a chymorth.  Heb y wybodaeth hon, cred y Pwyllgor ei bod yn anodd mesur effeithiolrwydd tebygol y Bil.  Mae hefyd yn anodd asesu costau gweithredu'r Bil ac mae'r Pwyllgor yn pryderu ynghylch y diffyg gwybodaeth am yr agwedd hon hefyd. Mae'r Pwyllgor yn feirniadol o'r ffordd y mae'r Bil yn anelu at wella'r broses o integreiddio gwasanaethau ac mae'n credu bod angen cryfhau’r agwedd yma, yn arbennig integreiddio rhwng y meysydd iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.  Dywed fod yn rhaid i rai o'r dyletswyddau ar wasanaethau cymdeithasol yn y Bil gael eu rhannu'n fwy cyfartal gyda'r GIG. Mae'r adroddiad hefyd yn mynegi pryderon ynghylch a fydd diddymu deddfwriaeth bresennol yn erydu darpariaeth bresennol, yn arbennig i blant anabl, gofalwyr a'r rhai y mae angen cymhorthion ac addasiadau arnynt. Ymysg yr argymhellion eraill i wella'r Bil mae cryfhau'r pwerau ynghylch diogelu oedolion a chadw cyrff diogelu oedolion a phlant ar wahân, gwneud darpariaeth well ar gyfer eiriolaeth annibynnol a dileu'r pwerau i godi tâl am wasanaethau penodol, a hyrwyddo taliadau uniongyrchol. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn ffurfiol i adroddiad y Pwyllgor a bydd y broses graffu ar Gyfnod 2 o'r Bil, lle yr ystyrir gwelliannau, yn dechrau yn yr hydref. Darllenwch yr adroddiad llawn ar wefan y Pwyllgor.
Erthygl wedi’i ysgrifennu gan Stephen Boyce, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.