Bagiau, poteli a sbwriel arall wedi'u pentyrru wrth ochr bin gwastraff llawn yng Nghei Newydd, Ceredigion, Cymru (Awst 2022)

Bagiau, poteli a sbwriel arall wedi'u pentyrru wrth ochr bin gwastraff llawn yng Nghei Newydd, Ceredigion, Cymru (Awst 2022)

Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2022: Crynodeb o'r Bil

Cyhoeddwyd 27/09/2022   |   Amser darllen munudau

Cafodd Y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) ei osod gerbron y Senedd ar 20 Medi 2022. Yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil yw'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS.

Mae’r Bil yn ei gwneud yn drosedd i berson gyflenwi neu gynnig cyflenwi (gan gynnwys yn rhad ac am ddim) gynhyrchion plastig untro (SUP) a restrir yn y Bil, sef yr eitemau mwyaf cyffredin o ran cael eu taflu fel sbwriel, i ddefnyddiwr yng Nghymru. 

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar gynigion i wahardd naw cynnyrch plastig untro rhwng 30 Gorffennaf a 20 Hydref 2020. Cyhoeddwyd y crynodeb o’r ymatebion ym mis Awst 2022.

Mae'r Bil a'r Memorandwm Esboniadol wedi eu cyhoeddi ar wefan y Senedd.

Mae ein Crynodeb o'r Bil yn amlinellu effaith arfaethedig y Bil, ac yn rhoi crynodeb o'i ddarpariaethau. Mae hefyd yn cynnwys safbwyntiau rhanddeiliaid o grynodeb Llywodraeth Cymru o'r ymatebion i'r ymgynghoriad.


Erthygl gan Lorna Scurlock a Chloe Corbyn, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru