Bil Cynllunio (Cymru) yn cyrraedd ei Gyfnod olaf yn y Cynulliad

Cyhoeddwyd 18/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Erthygl gan Graham Winter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru 18 Mai 2015 [caption id="attachment_3011" align="alignnone" width="483"]Llun: o Geograph gan Eric Jones.  Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Geograph gan Eric Jones. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Bydd y Cynulliad yn trafod y Bil Cynllunio (Cymru) am y tro olaf yn y Cyfarfod Llawn ar 19 Mai. Cyflwynodd Carl Sargeant, Y Gweinidog, y Bil gwreiddiol ar Hydref 7 2014 - gweler ein herthyglau blaenorol. Ers hynny mae wedi cael ei drin a'i drafod yn fanwl ac fe'i diwygiwyd gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd (Cyfnod 1 a Chyfnod 2) a chan y Cynulliad cyfan (Cyfnod 3). Dyma'r prif newidiadau i'r Bil ers iddo gael ei gyflwyno:
  • Gofyniad "datblygu cynaliadwy" statudol sy'n berthnasol wrth baratoi cynlluniau datblygu ac wrth ystyried ceisiadau cynllunio, fel y bydd datblygu neu ddefnyddio tir yn cyfrannu at les economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae hyn yn cysylltu'r swyddogaeth cynllunio â gwaith datblygu cynaliadwy cyrff cyhoeddus fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau sydd i Ddod 2015. Roedd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi argymell pwrpas statudol ar gyfer cynllunio yn seiliedig ar y diffiniad a awgrymwyd gan y Grŵp Ymgynghorol Annibynnol.
  • Newidiadau ynghylch y ffordd y mae'r system gynllunio yn ystyried effaith datblygiad ar yr iaith Gymraeg. Mae'r cyntaf o'r rhain yw ddiwygiad i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 er mwyn egluro y gall yr effaith ar y defnydd o'r Gymraeg fod yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu cais cynllunio.  Mae'r ail yn ofyniad i asesu effeithiau tebygol Cynlluniau Datblygu (y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, Cynlluniau Datblygu Strategol, a Chynlluniau Datblygu Lleol) ar y defnydd a wneir o'r iaith Gymraeg. Ni dderbyniwyd gwelliannau a fyddai wedi gwneud asesiadau iaith yn ofynnol ar gyfer rhai ceisiadau cynllunio mawr.
  • Newidiadau i'r cynigion ar gyfer y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd (sy'n disodli Cynllun Gofodol Cymru). Y prif newidiadau yw cyfnod statudol o 12 wythnos ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ar FfDC drafft a gofyniad ar Weinidogion Cymru i ymateb i unrhyw benderfyniad neu argymhelliad gan y pwyllgor ynghylch yr FfDC drafft.
  • Dileu hawliau pleidleisio aelodau enwebedig ar y Paneli Cynllunio Strategol newydd a fydd yn gyfrifol am gynhyrchu Cynlluniau Datblygu Strategol mewn rhannau o Gymru. Hefyd, mae gofyniad newydd, sef bod rhaid i o leiaf hanner y bobl hynny o awdurdod cynllunio lleol sy'n aelodau o banel fod yn bresennol i gyfarfod fod yn gworwm. Bellach, gall Gweinidogion Cymru hefyd gyhoeddi rheoliadau ynghylch aelodaeth paneli cynllunio strategol, gan gynnwys ynghylch cydbwysedd rhwng y rhywiau.
  • Roedd gan Weinidogion Cymru’r pŵer i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol uno a ffurfio Cydbwyllgorau Cynllunio er mwyn cyflawni rhai swyddogaethau cynllunio, ond ni chynhwyswyd y Parciau Cenedlaethol yn y pŵer hwn. Yn fersiwn wreiddiol y Bil, ehangwyd y pŵer hwn i ganiatáu i Fwrdd o'r fath gynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol, ond arhosodd Parciau Cenedlaethol y tu allan i'r pŵer hwn. Mae'r Bil bellach yn cynnwys pŵer newydd i Weinidogion Cymru i drosglwyddo rheolaeth o'r datblygiad (megis ymdrin â cheisiadau cynllunio) neu swyddogaethau sylweddau peryglus oddi ar Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a'u rhoi i Gydbwyllgorau Cynllunio. Fodd bynnag, byddai'n rhaid i gynnig am Gydbwyllgor Cynllunio a fyddai'n cynnwys rhan o Barc Cenedlaethol neu'r cyfan ohono gael cymeradwyaeth ffurfiol y Cynulliad. Mae gwelliant arall yn golygu na all Gweinidog gyfarwyddo Awdurdod Parc Cenedlaethol i gynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol ar y cyd ag awdurdod cynllunio arall.
  • Mae'r Bil bellach yn cynnwys amserlen statudol o 36 wythnos i Weinidogion Cymru benderfynu ynghylch ceisiadau o ran Datblygiadau o Bwys Cenedlaethol (DNS), er y gellir newid y cyfnod o 36 wythnos gyda chaniatâd ffurfiol y Cynulliad.
  • Erbyn hyn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â phob awdurdod cynllunio lleol am y meini prawf sydd i'w defnyddio ar gyfer dynodi awdurdod cynllunio lleol yn un sy'n 'methu' a rhaid i'r meini prawf hyn wedyn gael eu cymeradwyo'n ffurfiol gan y Cynulliad.
  • Byddai'r Bil fel y'i cyflwynwyd wedi cael gwared ar y gofyniad cyfreithiol i Ddatganiadau Dylunio a Mynediad fod yn barod ar gyfer ceisiadau cynllunio. Bwriad gwreiddiol Llywodraeth Cymru oedd cael gwared ar y gofyniad am y datganiadau hyn o ddeddfwriaeth eilaidd yn ogystal, gyda nifer o gamau gweithredu eraill "a fyddai'n fwy tebygol o gyflawni dylunio da a mynediad cynhwysol" yn ei le. Dilëwyd y rhan hon o'r Bil, felly mae'r gofyniad statudol yn aros.
  • Yn y Bil fel y'i cyflwynwyd y mae rhestr o ddigwyddiadau trothwy a fyddai wedi eithrio hawl person i gofrestru tir yn Faes Tref neu Bentref. Mae'r rhestr yn cynnwys nodi tir mewn cynllun datblygu neu gyflwyno cais cynllunio. Mae'r cyfyngiadau hyn eisoes wedi cael eu cyflwyno yn Lloegr. Erbyn hyn, mae gan y Bil restr fyrrach o lawer o'r digwyddiadau trothwy hynny sy'n gyfyngedig i roi caniatâd cynllunio, neu ei gyfwerth.  Hefyd, nid fwriwyd ymlaen â'r cynnig i ostwng cyfnod ar gyfer gwneud cais gofrestru o ddwy flynedd i flwyddyn, felly dwy flynedd yw'r cyfnod hwnnw o hyd.
Mae'r fersiwn ddiweddaraf o'r Bil Cynllunio (Cymru), fel y'i diwygiwyd yng Nghyfnod 3, ar gael ar wefan y Cynulliad. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg