Cafodd y Bil Cynllunio (Cymru) a’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) eu cyflwyno yn y Senedd ddydd Llun 15 Medi 2025.
Nod y Biliau yw cydgrynhoi ac egluro deddfwriaeth gynllunio bresennol yng Nghymru.
Diben ‘Bil Cydgrynhoi’ yw gwella mynediad at y gyfraith drwy:
- ddwyn ynghyd yr holl ddeddfwriaeth (sylfaenol ar y cyfan) ar bwnc penodol i wella hygyrchedd, a
- moderneiddio darnau o ddeddfwriaeth o ran ffurf a’r ffordd y maent wedi’u drafftio, i’w gwneud yn haws eu deall a’u gweithredu.
Nid diwygio polisi mewn unrhyw ffordd sylweddol yw diben Bil Cydgrynhoi ac maent yn dilyn gweithdrefn Senedd benodol.
Mae’r dudalen hon yn casglu ynghyd gyhoeddiadau allweddol gan Ymchwil y Senedd i gefnogi’r gwaith o graffu ar y Biliau.
Gallwch ddilyn hynt y gwaith craffu ar Filiau Cydgrynhoi Llywodraeth Cymru ym maes cynllunio ar y dudalen we ar ei gyfer. Yno ceir copi o’r Biliau a’r dogfennau ategol, gan gynnwys y Memorandwm Esboniadol.
Erthygl gan Elfyn Henderson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru