Cafodd Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir ei ddiwygio’n sylweddol yn ystod y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ’r Arglwyddi, a ddaeth i ben ar 17 Mai. Mae newidiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yn adlewyrchu dull gweithredu newydd a gyhoeddwyd ar 10 Mai.
Mae’r erthygl hon yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Senedd am y newidiadau allweddol rhwng y Cyfnod Adrodd a’r Trydydd Darlleniad ar 22 Mai.
Daw’r gwelliannau â newidiadau i’r llinell amser, gan gynnwys ar gyfer y Senedd, sy’n golygu y bydd 2023 yn parhau i fod yn flwyddyn allweddol i ddeddfwriaeth yr UE a ddargedwir.
Yr hanfodion newydd
Mae’r machlud awtomatig a fyddai wedi cael gwared ar y mwyafrif o ddeddfwriaeth yr UE a ddargedwir ar 31 Rhagfyr bellach wedi diflannu. Yn ei le mae Atodlen newydd sy’n rhestru deddfwriaeth yr UE a ddargedwir i’w dirymu erbyn 31 Rhagfyr 2023. Bydd hawliau sy’n deillio o’r UE yn dal i ddod i ben ar y dyddiad hwn hefyd.
Gall Gweinidogion y DU a Gweinidogion esemptio deddfwriaeth yr UE a ddargedwir o’r Atodlen cyn 31 Hydref 2023, a thrwy hynny ei harbed. Gellir gwneud hyn yn y ffyrdd canlynol mewn meysydd datganoledig:
- Gweinidogion Cymru yn gosod rheoliadau yn y Senedd; neu
- Weinidogion y DU yn gosod rheoliadau yn Senedd y DU, gan osgoi Llywodraeth Cymru a’r Senedd.
Felly llygaid pawb ar yr Atodlen?
Ie a na.
Ie, oherwydd mae’r Atodlen yn bwysig, a na, oherwydd mae rhannau o’r Bil, fel ei bwerau Gweinidogol eang, yn parhau heb eu newid. Mae ei bwerau cydredol yn peri pryder arbennig i Lywodraeth Cymru a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn y Senedd.
Mae'r Atodlen yn rhestru tua 600 o ddarnau o ddeddfwriaeth yr UE a ddargedwir, gan gynnwys meysydd datganoledig fel ansawdd aer.
Mae Pwyllgor Craffu Ewropeaidd Tŷ’r Cyffredin wedi cwestiynu a fydd dileu deddfwriaeth yr UE a ddargedwir sydd wedi’i rhestru yn yr Atodlen yn cyflawni’r gweddnewid rheoleiddiol ôl Brexit a addawyd gan Weinidogion y DU. Mae ei lythyr at Brif Weinidog y DU yn datgan:
…almost without exception, the REUL detailed in the Schedule relates to matters that are trivial, obsolete and are not legally and/or politically important.
Mae enghraifft a restrir yn cynnwys rheolau ar gyfer pysgota brwyniaid ym Mae Biscay ar gyfer 2011-12.
Bydd Cydbwyllgor o ddau Dŷ Senedd y DU yn ystyried deddfwriaeth yr UE a ddargedwir a restrir yn yr Atodlen. Caiff unrhyw newidiadau sylweddol eu trafod yn Senedd y DU, a byddant yn destun pleidlais yno.
Beth am ddatganoli?
Ni chafodd gwelliannau a luniwyd i gael cydsyniad y Gweinidogion datganoledig a’r Senedd pan fydd Gweinidogion y DU yn defnyddio eu pwerau mewn meysydd datganoledig eu cyflwyno ar gyfer dadl na phleidlais, ac felly ni chytunwyd arnynt.
Cafodd tri gwelliant a fyddai wedi gwneud cydsyniad y Senedd yn angenrheidiol eu disgrifio fel rhaid ‘diangen’ gan Lywodraeth y DU oherwydd
... committed to ensuring that the provisions in the Bill ….. are consistent with the devolution settlements and work for all parts of the UK. Indeed, the majority of the powers in the Bill are conferred concurrently on the devolved Governments, which will enable them to make active decisions regarding their retained EU law.
It is not necessary to limit the use of the powers within areas of devolved legislative competence by requiring UK Ministers to obtain legislative consent. Rest assured, the concurrent nature of the powers is not intended to affect the devolution settlements, nor to influence decision-making in devolved Governments.
Rather, it is intended to reduce additional resource pressure on the devolved Governments by enabling the UK Government to legislate on behalf of a devolved Government where they do not intend to take a different position.
Cytunwyd ar welliannau sy’n ymestyn pwerau canlyniadol a throsiannol, dros dro ac arbed y Bil i’r Gweinidogion datganoledig perthnasol.
Beth am hawliau sy’n deillio o’r UE?
Cytunwyd ar welliant a allai alluogi’r Senedd i arbed hawliau sy’n deillio o’r UE.
Bydd y rhain yn dal i ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2023, ond mae gan Weinidogion y DU neu Weinidogion datganoledig yr opsiwn i wneud datganiad yn eu seneddau priodol yn cadarnhau pa hawliau fydd yn dod i ben (h.y. y rhai na fyddant yn eu hailddatgan).
Os bydd y senedd berthnasol yn penderfynu na ddylai'r hawliau a restrir yn y datganiad o fewn cymhwysedd ddod i ben, cânt eu harbed.
Mae rôl y Senedd felly’n dibynnu ar y canlynol:
- Gweinidogion Cymru yn gwneud datganiad; a
- bod yr hawliau o fewn cymhwysedd.
Beth sydd heb newid?
Mae rhannau o’r Bil sydd heb newid.
Bydd Gweinidogion y DU a Gweinidogion datganoledig yn dal i gael pwerau eang y mae Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Chyfansoddiad y Senedd. wedi mynegi pryder yn eu cylch. Disgrifiodd y Cwnsler Cyffredinol y rhain fel
[p]werau na fyddech, o dan amgylchiadau arferol, yn dymuno eu rhoi i lywodraethau.
Er bod gwelliannau wedi arwain at fwy o rôl i Senedd y DU o ran mynd drwy ddeddfwriaeth yr UE a ddargedwir i’w dirymu, nid oes newidiadau cyfatebol wedi'u gwneud ar gyfer y deddfwrfeydd datganoledig, hyd yn oed mewn meysydd o fewn cymhwysedd.
Bydd newidiadau i'r hierarchaeth gyfreithiol, a eglurwyd yn ein canllaw blaenorol, hefyd yn mynd yn eu blaen. Mae Cyngor y Bar yn credu bod y rhain yn gyfystyr â chreu ansicrwydd cyfreithiol yn fwriadol.
Amddiffyniadau amgylcheddol a safonau bwyd
Cytunwyd ar ddyletswydd dim atchweliad ar gyfer amddiffyniadau amgylcheddol a safonau bwyd, gan gynnwys cydymffurfio â chytundebau rhyngwladol. Mae hyn yn golygu nad oes modd dirwyn amddiffyniadau a safonau yn ôl o'u cymharu â'u deddfwriaeth yr UE a ddargedwir cyfatebol.
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi nodi wyth darn o ddeddfwriaeth yr UE a ddargedwir lle mae’n “hyderus na fydd eu dileu yn effeithio ar ddiogelwch na safonau bwyd”.
Mae'r Guardian yn dweud bod mwy na hanner y 600 darn o ddeddfwriaeth yr UE a ddargedwir ar yr Atodlen yn ymwneud â'r amgylchedd. Mae ei adroddiad yn manylu ar bryderon ClientEarth a Greener UK ar gyfer deddfwriaeth yr UE a ddargedwir a restrir ar yr Atodlen ynghylch ansawdd dŵr ac aer, gan gynnwys dyletswyddau i gyflawni targedau allyriadau.
Newidiadau rheoleiddiol
Ochr yn ochr â newidiadau i’r Bil, cyhoeddodd Llywodraeth y DU bapur, Smarter Regulation to Grow the Economy. Mae’n amlinellu cynlluniau i adolygu tirwedd reoleiddiol y DU, gan gynnwys:
- dylai rheoleiddio fod yn ‘opsiwn olaf’ ar ôl ystyried dulliau heblaw rheoleiddio;
- cynlluniau i sicrhau bod rheoleiddwyr, fel Ofgem, Ofwat ac Ofcom, yn helpu i ysgogi twf economaidd; a
- diwygiadau i gyfraith cyflogaeth a lleihau costau byw, rhoi dewis i ddefnyddwyr, sbarduno gwyddoniaeth ac arloesi i’r eithaf, a llywio datblygiad seilwaith.
Y camau nesaf
Cynhelir Trydydd Darlleniad ddydd Llun 22 Mai.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn ymdrechu i osod unrhyw femorandwm cydsyniad deddfwriaethol angenrheidiol i adlewyrchu gwelliannau. Mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddi fynd i’r afael ag agweddau penodol ar y newidiadau diweddaraf mewn unrhyw femorandwm cydsyniad deddfwriaethol y gallai ei gyhoeddi yn y dyfodol.
Ar ôl gwrthod cydsyniad i’r Bil ym mis Mawrth, byddai memorandwm cydsyniad deddfwriaethol arall yn golygu y gallai fod angen i’r Senedd ailystyried ei benderfyniad.
Mae amserlen newydd y Bil yn golygu y gallai weld mwy o ddefnydd o bwerau Gweinidogion Cymru cyn 31 Hydref os yw Llywodraeth Cymru am achub deddfwriaeth yr UE a ddargedwir a restrir yn yr Atodlen. Ar ôl y dyddiad hwn, mae dal modd arbed neu dileu deddfwriaeth yr UE a ddargedwir drwy ddefnyddio gwahanol bwerau yn y Bil.
Dywedodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn flaenorol fod “risg uchel iawn” y caiff y Senedd ei hosgoi os gwneir penderfyniadau dros Gymru mewn meysydd datganoledig gan Weinidogion y DU a Senedd y DU. Mae hyn yn parhau i fod yn bosibilrwydd.
Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru