Mae’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) yn parhau â’i daith drwy’r Senedd.
Am y tro cyntaf, mae'r Senedd yn ystyried deddfwriaeth i gyflwyno polisi amaethyddol 'cynnyrch Cymru'. Mae’n golygu goblygiadau i ffermwyr Cymru, yr amgylchedd ac economi a diwylliant Cymru.
Gorffennodd Cyfnod 2 o’r gwaith craffu ar y Bil (cyfnod diwygio pwyllgor) yng nghyfarfod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar 23 Mawrth 2023.
O'r 61 o welliannau a gyflwynwyd, cafodd 14 eu derbyn gan y Pwyllgor.
Rydym wedi llunio crynodeb o'r hyn ddigwyddodd yng Nghyfnod 2, gan ddisgrifio'r gwelliannau a'u tynged.
Mae’r Bil diwygiedig bellach yng Nghyfnod 3 ac mae rhagor o welliannau yn cael eu cyflwyno gan Aelodau o'r Senedd. Bydd y Senedd yn trafod ac yn pleidleisio ar welliannau a ddetholwyr yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Mai. Gallwch wylio’r trafodion ar gyfer dadl Cyfnod 3 yn fyw ar Senedd TV.
I gael rhagor o fanylion am ddarpariaethau’r Bil a’r gwaith craffu arno yn ystod Cyfnod 1 gweler Y Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Crynodeb o’r Bil.
Erthygl gan Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru